Revised Common Lectionary (Semicontinuous)
Salm Dafydd.
110 Dywedodd yr Arglwydd wrth fy Arglwydd, Eistedd ar fy neheulaw, hyd oni osodwyf dy elynion yn fainc i’th draed. 2 Gwialen dy nerth a enfyn yr Arglwydd o Seion: Ilywodraetha di yng nghanol dy elynion. 3 Dy bobl a fyddant ewyllysgar yn nydd dy nerth, mewn harddwch sancteiddrwydd o groth y wawr: y mae gwlith dy enedigaeth i ti. 4 Tyngodd yr Arglwydd, ac nid edifarha, Ti wyt offeiriad yn dragwyddol, yn ôl urdd Melchisedec. 5 Yr Arglwydd ar dy ddeheulaw a drywana frenhinoedd yn nydd ei ddigofaint. 6 Efe a farn ymysg y cenhedloedd; lleinw leoedd â chelaneddau: archolla ben llawer gwlad. 7 Efe a yf o’r afon ar y ffordd: am hynny y dyrcha efe ei ben.
22 Mwy dymunol yw enw da na chyfoeth lawer; a gwell yw ffafr dda nag arian, ac nag aur. 2 Y tlawd a’r cyfoethog a gydgyfarfyddant: yr Arglwydd yw gwneuthurwr y rhai hyn oll. 3 Y call a genfydd y drwg, ac a ymgûdd: ond y ffyliaid a ânt rhagddynt, ac a gosbir. 4 Gwobr gostyngeiddrwydd ac ofn yr Arglwydd, yw cyfoeth, ac anrhydedd, a bywyd. 5 Drain a maglau sydd yn ffordd y cyndyn: y neb a gadwo ei enaid, a fydd bell oddi wrthynt hwy. 6 Hyfforddia blentyn ym mhen ei ffordd; a phan heneiddio nid ymedy â hi. 7 Y cyfoethog a arglwyddiaetha ar y tlawd; a gwas fydd yr hwn a gaffo fenthyg i’r gŵr a roddo fenthyg. 8 Y neb a heuo anwiredd a fed flinder; a gwialen ei ddigofaint ef a balla. 9 Yr hael ei lygad a fendithir: canys efe a rydd o’i fara i’r tlawd.
27 Ond yr wyf yn dywedyd wrthych chwi y rhai ydych yn gwrando, Cerwch eich gelynion; gwnewch dda i’r rhai a’ch casânt: 28 Bendithiwch y rhai a’ch melltithiant, a gweddïwch dros y rhai a’ch drygant. 29 Ac i’r hwn a’th drawo ar y naill gern, cynnig y llall hefyd; ac i’r hwn a ddygo ymaith dy gochl, na wahardd dy bais hefyd. 30 A dyro i bob un a geisio gennyt; a chan y neb a fyddo’n dwyn yr eiddot, na chais eilchwyl. 31 Ac fel y mynnech wneuthur o ddynion i chwi, gwnewch chwithau iddynt yr un ffunud.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.