Revised Common Lectionary (Semicontinuous)
Salm Dafydd.
110 Dywedodd yr Arglwydd wrth fy Arglwydd, Eistedd ar fy neheulaw, hyd oni osodwyf dy elynion yn fainc i’th draed. 2 Gwialen dy nerth a enfyn yr Arglwydd o Seion: Ilywodraetha di yng nghanol dy elynion. 3 Dy bobl a fyddant ewyllysgar yn nydd dy nerth, mewn harddwch sancteiddrwydd o groth y wawr: y mae gwlith dy enedigaeth i ti. 4 Tyngodd yr Arglwydd, ac nid edifarha, Ti wyt offeiriad yn dragwyddol, yn ôl urdd Melchisedec. 5 Yr Arglwydd ar dy ddeheulaw a drywana frenhinoedd yn nydd ei ddigofaint. 6 Efe a farn ymysg y cenhedloedd; lleinw leoedd â chelaneddau: archolla ben llawer gwlad. 7 Efe a yf o’r afon ar y ffordd: am hynny y dyrcha efe ei ben.
3 Fy mab, na ollwng fy nghyfraith dros gof; ond cadwed dy galon fy ngorchmynion: 2 Canys hir ddyddiau, a blynyddoedd bywyd, a heddwch, a chwanegant hwy i ti. 3 Na ad i drugaredd a gwirionedd ymadael â thi: clyma hwy am dy wddf, ysgrifenna hwy ar lech dy galon. 4 Felly y cei di ras a deall da gerbron Duw a dynion.
5 Gobeithia yn yr Arglwydd â’th holl galon; ac nac ymddiried i’th ddeall dy hun. 6 Yn dy holl ffyrdd cydnebydd ef, ac efe a hyfforddia dy lwybrau.
7 Na fydd ddoeth yn dy olwg dy hun: ofna yr Arglwydd, a thyn ymaith oddi wrth ddrygioni. 8 Hynny a fydd iechyd i’th fogail, a mêr i’th esgyrn.
9 Anrhydedda yr Arglwydd â’th gyfoeth, ac â’r peth pennaf o’th holl ffrwyth: 10 Felly y llenwir dy ysguboriau â digonoldeb, a’th winwryfoedd a dorrant gan win newydd.
11 Fy mab, na ddirmyga gerydd yr Arglwydd; ac na flina ar ei gosbedigaeth ef; 12 Canys y neb a fyddo Duw yn ei garu, efe a’i cerydda, megis tad ei fab annwyl ganddo.
11 Na ddywedwch yn erbyn eich gilydd, frodyr. Y neb sydd yn dywedyd yn erbyn ei frawd, ac yn barnu ei frawd, y mae efe yn dywedyd yn erbyn y gyfraith, ac yn barnu’r gyfraith: ac od wyt ti yn barnu’r gyfraith, nid wyt ti wneuthurwr y gyfraith, eithr barnwr. 12 Un gosodwr cyfraith sydd, yr hwn a ddichon gadw a cholli. Pwy wyt ti yr hwn wyt yn barnu arall? 13 Iddo yn awr, y rhai ydych yn dywedyd, Heddiw neu yfory ni a awn i gyfryw ddinas, ac a arhoswn yno flwyddyn, ac a farchnatawn, ac a enillwn: 14 Y rhai ni wyddoch beth a fydd yfory. Canys beth ydyw eich einioes chwi? Canys tarth ydyw, yr hwn sydd dros ychydig yn ymddangos, ac wedi hynny yn diflannu. 15 Lle y dylech ddywedyd, Os yr Arglwydd a’i myn, ac os byddwn byw, ni a wnawn hyn, neu hynny. 16 Eithr yn awr gorfoleddu yr ydych yn eich ymffrost: pob cyfryw orfoledd, drwg ydyw. 17 Am hynny i’r neb a fedr wneuthur daioni, ac nid yw yn ei wneuthur, pechod ydyw iddo.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.