Revised Common Lectionary (Semicontinuous)
10 Gwrando, ferch, a gwêl, a gostwng dy glust; ac anghofia dy bobl dy hun, a thŷ dy dad. 11 A’r Brenin a chwennych dy degwch: canys efe yw dy Iôr di; ymostwng dithau iddo ef. 12 Merch Tyrus hefyd fydd yno ag anrheg; a chyfoethogion y bobl a ymbiliant â’th wyneb. 13 Merch y Brenin sydd oll yn ogoneddus o fewn: gemwaith aur yw ei gwisg hi. 14 Mewn gwaith edau a nodwydd y dygir hi at y Brenin: y morynion y rhai a ddeuant ar ei hôl, yn gyfeillesau iddi, a ddygir atat ti. 15 Mewn llawenydd a gorfoledd y dygir hwynt: deuant i lys y Brenin. 16 Dy feibion fydd yn lle dy dadau, y rhai a wnei yn dywysogion yn yr holl dir. 17 Paraf gofio dy enw ym mhob cenhedlaeth ac oes: am hynny y bobl a’th foliannant byth ac yn dragywydd.
27 A bu, wedi heneiddio o Isaac, a thywyllu ei lygaid fel na welai, alw ohono ef Esau ei fab hynaf, a dywedyd wrtho, Fy mab. Yntau a ddywedodd wrtho ef, Wele fi. 2 Ac efe a ddywedodd, Wele, mi a heneiddiais yn awr, ac nis gwn ddydd fy marwolaeth. 3 Ac yn awr cymer, atolwg, dy offer, dy gawell saethau, a’th fwa, a dos allan i’r maes, a hela i mi helfa. 4 A gwna i mi flasusfwyd o’r fath a garaf, a dwg i mi, fel y bwytawyf; fel y’th fendithio fy enaid cyn fy marw. 5 A Rebeca a glybu pan ddywedodd Isaac wrth Esau ei fab: ac Esau a aeth i’r maes, i hela helfa i’w dwyn.
6 A Rebeca a lefarodd wrth Jacob ei mab, gan ddywedyd, Wele, clywais dy dad yn llefaru wrth Esau dy frawd, gan ddywedyd, 7 Dwg i mi helfa, a gwna i mi flasusfwyd, fel y bwytawyf, ac y’th fendithiwyf gerbron yr Arglwydd cyn fy marw. 8 Ond yn awr, fy mab, gwrando ar fy llais i, am yr hyn a orchmynnaf i ti. 9 Dos yn awr i’r praidd, a chymer i mi oddi yno ddau fyn gafr da; a mi a’u gwnaf hwynt yn fwyd blasus i’th dad, o’r fath a gâr efe. 10 A thi a’u dygi i’th dad, fel y bwytao, ac y’th fendithio cyn ei farw. 11 A dywedodd Jacob wrth Rebeca ei fam, Wele Esau fy mrawd yn ŵr blewog, a minnau yn ŵr llyfn: 12 Fy nhad, ond odid, a’m teimla; yna y byddaf yn ei olwg ef fel twyllwr; ac a ddygaf arnaf felltith, ac nid bendith. 13 A’i fam a ddywedodd wrtho, Arnaf fi y byddo dy felltith, fy mab, yn unig gwrando ar fy llais; dos a dwg i mi. 14 Ac efe a aeth, ac a gymerth y mynnod, ac a’u dygodd at ei fam: a’i fam a wnaeth fwyd blasus o’r fath a garai ei dad ef. 15 Rebeca hefyd a gymerodd hoff wisgoedd Esau ei mab hynaf, y rhai oedd gyda hi yn tŷ, ac a wisgodd Jacob ei mab ieuangaf. 16 A gwisgodd hefyd grwyn y mynnod geifr am ei ddwylo ef, ac am lyfndra ei wddf ef: 17 Ac a roddes y bwyd blasus, a’r bara a arlwyasai hi, yn llaw Jacob ei mab.
7 Beth wrth hynny a ddywedwn ni? Ai pechod yw’r ddeddf? Na ato Duw. Eithr nid adnabûm i bechod, ond wrth y ddeddf: canys nid adnabuaswn i drachwant, oni bai ddywedyd o’r ddeddf, Na thrachwanta. 8 Eithr pechod, wedi cymryd achlysur trwy’r gorchymyn, a weithiodd ynof fi bob trachwant. 9 Canys heb y ddeddf marw oedd pechod. Eithr yr oeddwn i gynt yn fyw heb y ddeddf: ond pan ddaeth y gorchymyn, yr adfywiodd pechod, a minnau a fûm farw. 10 A’r gorchymyn, yr hwn ydoedd i fywyd, hwnnw a gaed i mi i farwolaeth. 11 Canys pechod, wedi cymryd achlysur trwy’r gorchymyn, a’m twyllodd i; a thrwy hwnnw a’m lladdodd. 12 Felly yn wir y mae’r ddeddf yn sanctaidd; a’r gorchymyn yn sanctaidd, ac yn gyfiawn, ac yn dda. 13 Gan hynny a wnaethpwyd y peth oedd dda, yn farwolaeth i mi? Na ato Duw. Eithr pechod, fel yr ymddangosai yn bechod, gan weithio marwolaeth ynof fi trwy’r hyn sydd dda: fel y byddai pechod trwy’r gorchymyn yn dra phechadurus. 14 Canys ni a wyddom fod y ddeddf yn ysbrydol: eithr myfi sydd gnawdol, wedi fy ngwerthu dan bechod. 15 Canys yr hyn yr wyf yn ei wneuthur, nid yw fodlon gennyf: canys nid y peth yr wyf yn ei ewyllysio, hynny yr wyf yn ei wneuthur; eithr y peth sydd gas gennyf, hyn yr ydwyf yn ei wneuthur. 16 Ac os y peth nid wyf yn ei ewyllysio, hynny yr wyf yn ei wneuthur, yr wyf fi yn cydsynio â’r ddeddf mai da ydyw. 17 Felly yr awron nid myfi sydd mwy yn gwneuthur hynny, eithr y pechod yr hwn sydd yn trigo ynof fi. 18 Canys mi a wn nad oes ynof fi (hynny yw, yn fy nghnawd i,) ddim da yn trigo: oblegid yr ewyllysio sydd barod gennyf; eithr cwblhau’r hyn sydd dda, nid wyf yn medru arno. 19 Canys nid wyf yn gwneuthur y peth da yr wyf yn ei ewyllysio; ond y drwg yr hwn nid wyf yn ei ewyllysio, hynny yr wyf yn ei wneuthur. 20 Ac os ydwyf fi yn gwneuthur y peth nid wyf yn ei ewyllysio, nid myfi mwyach sydd yn ei wneuthur, ond y pechod sydd yn trigo ynof fi.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.