Revised Common Lectionary (Semicontinuous)
I’r Pencerdd ar Sosannim, Salm Dafydd.
69 Achub fi, O Dduw, canys y dyfroedd a ddaethant i mewn hyd at fy enaid. 2 Soddais mewn tom dwfn, lle nid oes sefyllfa: deuthum i ddyfnder dyfroedd, a’r ffrwd a lifodd drosof. 3 Blinais yn llefain, sychodd fy ngheg: pallodd fy llygaid, tra yr ydwyf yn disgwyl wrth fy Nuw.
13 Ond myfi, fy ngweddi sydd atat ti, O Arglwydd, mewn amser cymeradwy: O Dduw, yn lluosowgrwydd dy drugaredd gwrando fi, yng ngwirionedd dy iachawdwriaeth. 14 Gwared fi o’r dom, ac na soddwyf: gwareder fi oddi wrth fy nghaseion, ac o’r dyfroedd dyfnion. 15 Na lifed y ffrwd ddwfr drosof, ac na lynced y dyfnder fi; na chaeed y pydew chwaith ei safn arnaf. 16 Clyw fi, Arglwydd; canys da yw dy drugaredd: yn ôl lliaws dy dosturiaethau edrych arnaf.
30 Moliannaf enw Duw ar gân, a mawrygaf ef mewn mawl. 31 A hyn fydd well gan yr Arglwydd nag ych neu fustach corniog, carnol. 32 Y trueiniaid a lawenychant pan welant hyn: eich calon chwithau, y rhai a geisiwch Dduw, a fydd byw. 33 Canys gwrendy yr Arglwydd ar dlodion, ac ni ddiystyra efe ei garcharorion. 34 Nefoedd a daear, y môr a’r hyn oll a ymlusgo ynddo, molant ef. 35 Canys Duw a achub Seion, ac a adeilada ddinasoedd Jwda; fel y trigont yno, ac y meddiannont hi. 36 A hiliogaeth ei weision a’i meddiannant hi: a’r rhai a hoffant ei enw ef, a breswyliant ynddi.
17 Cain hefyd a adnabu ei wraig; a hi a feichiogodd, ac a esgorodd ar Enoch: yna yr ydoedd efe yn adeiladu dinas, ac efe a alwodd enw y ddinas yn ôl enw ei fab, Enoch. 18 Ac i Enoch y ganwyd Irad: ac Irad a genhedlodd Mehwiael, a Mehwiael a genhedlodd Methwsael, a Methwsael a genhedlodd Lamech.
19 A Lamech a gymerodd iddo ddwy o wragedd: enw y gyntaf oedd Ada, ac enw yr ail Sila. 20 Ac Ada a esgorodd ar Jabal; hwn ydoedd dad pob preswylydd pabell, a pherchen anifail. 21 Ac enw ei frawd ef oedd Jwbal; ac efe oedd dad pob teimlydd telyn ac organ. 22 Sila hithau a esgorodd ar Tubal‐Cain, gweithydd pob cywreinwaith pres a haearn: a chwaer Tubal‐Cain ydoedd Naama. 23 A Lamech a ddywedodd wrth ei wragedd, Ada a Sila, Clywch fy llais, gwragedd Lamech, gwrandewch fy lleferydd; canys mi a leddais ŵr i’m harcholl, a llanc i’m clais. 24 Os Cain a ddielir seithwaith, yna Lamech saith ddengwaith a seithwaith.
25 Ac Adda a adnabu ei wraig drachefn; a hi a esgorodd ar fab, ac a alwodd ei enw ef Seth: Oherwydd Duw (eb hi) a osododd i mi had arall yn lle Abel, am ladd o Cain ef. 26 I’r Seth hwn hefyd y ganwyd mab; ac efe a alwodd ei enw ef Enos: yna y dechreuwyd galw ar enw yr Arglwydd.
5 Dyma lyfr cenedlaethau Adda: yn y dydd y creodd Duw ddyn, ar lun Duw y gwnaeth efe ef. 2 Yn wryw ac yn fenyw y creodd efe hwynt: ac efe a’u bendithiodd hwynt, ac a alwodd eu henw hwynt Adda, ar y dydd y crewyd hwynt.
3 Ac Adda a fu fyw ddeng mlynedd ar hugain a chant, ac a genhedlodd fab ar ei lun a’i ddelw ei hun, ac a alwodd ei enw ef Seth. 4 A dyddiau Adda, wedi iddo genhedlu Seth, oedd wyth gan mlynedd, ac efe a genhedlodd feibion a merched. 5 A holl ddyddiau Adda, y rhai y bu efe fyw, oedd naw can mlynedd a deng mlynedd ar hugain; ac efe a fu farw.
9 Beth gan hynny? a ydym ni yn fwy rhagorol? Nac ydym ddim: canys ni a brofasom o’r blaen fod pawb, yr Iddewon a’r Groegwyr, dan bechod; 10 Megis y mae yn ysgrifenedig, Nid oes neb cyfiawn, nac oes un: 11 Nid oes neb yn deall; nid oes neb yn ceisio Duw. 12 Gŵyrasant oll, aethant i gyd yn anfuddiol; nid oes un yn gwneuthur daioni, nac oes un. 13 Bedd agored yw eu ceg; â’u tafodau y gwnaethant ddichell; gwenwyn asbiaid sydd dan eu gwefusau: 14 Y rhai y mae eu genau yn llawn melltith a chwerwedd: 15 Buan yw eu traed i dywallt gwaed: 16 Distryw ac aflwydd sydd yn eu ffyrdd: 17 A ffordd tangnefedd nid adnabuant: 18 Nid oes ofn Duw gerbron eu llygaid. 19 Ni a wyddom hefyd am ba bethau bynnag y mae’r ddeddf yn ei ddywedyd, mai wrth y rhai sydd dan y ddeddf y mae hi yn ei ddywedyd: fel y caeer pob genau, ac y byddo’r holl fyd dan farn Duw. 20 Am hynny trwy weithredoedd y ddeddf ni chyfiawnheir un cnawd yn ei olwg ef; canys trwy’r ddeddf y mae adnabod pechod. 21 Ac yr awr hon yr eglurwyd cyfiawnder Duw heb y ddeddf, wrth gael tystiolaeth gan y ddeddf a’r proffwydi; 22 Sef cyfiawnder Duw, yr hwn sydd trwy ffydd Iesu Grist, i bawb ac ar bawb a gredant: canys nid oes gwahaniaeth:
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.