Revised Common Lectionary (Semicontinuous)
I’r Pencerdd ar Sosannim, Salm Dafydd.
69 Achub fi, O Dduw, canys y dyfroedd a ddaethant i mewn hyd at fy enaid. 2 Soddais mewn tom dwfn, lle nid oes sefyllfa: deuthum i ddyfnder dyfroedd, a’r ffrwd a lifodd drosof. 3 Blinais yn llefain, sychodd fy ngheg: pallodd fy llygaid, tra yr ydwyf yn disgwyl wrth fy Nuw.
13 Ond myfi, fy ngweddi sydd atat ti, O Arglwydd, mewn amser cymeradwy: O Dduw, yn lluosowgrwydd dy drugaredd gwrando fi, yng ngwirionedd dy iachawdwriaeth. 14 Gwared fi o’r dom, ac na soddwyf: gwareder fi oddi wrth fy nghaseion, ac o’r dyfroedd dyfnion. 15 Na lifed y ffrwd ddwfr drosof, ac na lynced y dyfnder fi; na chaeed y pydew chwaith ei safn arnaf. 16 Clyw fi, Arglwydd; canys da yw dy drugaredd: yn ôl lliaws dy dosturiaethau edrych arnaf.
30 Moliannaf enw Duw ar gân, a mawrygaf ef mewn mawl. 31 A hyn fydd well gan yr Arglwydd nag ych neu fustach corniog, carnol. 32 Y trueiniaid a lawenychant pan welant hyn: eich calon chwithau, y rhai a geisiwch Dduw, a fydd byw. 33 Canys gwrendy yr Arglwydd ar dlodion, ac ni ddiystyra efe ei garcharorion. 34 Nefoedd a daear, y môr a’r hyn oll a ymlusgo ynddo, molant ef. 35 Canys Duw a achub Seion, ac a adeilada ddinasoedd Jwda; fel y trigont yno, ac y meddiannont hi. 36 A hiliogaeth ei weision a’i meddiannant hi: a’r rhai a hoffant ei enw ef, a breswyliant ynddi.
4 Ac Adda a adnabu Efa ei wraig: a hi a feichiogodd, ac a esgorodd ar Cain; ac a ddywedodd, Cefais ŵr gan yr Arglwydd. 2 A hi a esgorodd eilwaith ar ei frawd ef Abel; ac Abel oedd fugail defaid, ond Cain oedd yn llafurio’r ddaear. 3 A bu, wedi talm o ddyddiau, i Cain ddwyn o ffrwyth y ddaear offrwm i’r Arglwydd. 4 Ac Abel yntau a ddug o flaenffrwyth ei ddefaid, ac o’u braster hwynt. A’r Arglwydd a edrychodd ar Abel, ac ar ei offrwm: 5 Ond nid edrychodd efe ar Cain, nac ar ei offrwm ef. A dicllonodd Cain yn ddirfawr, fel y syrthiodd ei wynepryd ef. 6 A’r Arglwydd a ddywedodd wrth Cain, Paham y llidiaist? a phaham y syrthiodd dy wynepryd? 7 Os da y gwnei, oni chei oruchafiaeth? ac oni wnei yn dda, pechod a orwedd wrth y drws: atat ti hefyd y mae ei ddymuniad ef, a thi a lywodraethi arno ef. 8 A Chain a ddywedodd wrth Abel ei frawd: ac fel yr oeddynt hwy yn y maes, Cain a gododd yn erbyn Abel ei frawd, ac a’i lladdodd ef.
9 A’r Arglwydd a ddywedodd wrth Cain, Mae Abel dy frawd di? Yntau a ddywedodd, Nis gwn; ai ceidwad fy mrawd ydwyf fi? 10 A dywedodd Duw, Beth a wnaethost? llef gwaed dy frawd sydd yn gweiddi arnaf fi o’r ddaear. 11 Ac yr awr hon melltigedig wyt ti o’r ddaear, yr hon a agorodd ei safn i dderbyn gwaed dy frawd o’th law di. 12 Pan lafuriech y ddaear, ni chwanega hi roddi ei ffrwyth i ti; gwibiad a chrwydriad fyddi ar y ddaear. 13 Yna y dywedodd Cain wrth yr Arglwydd, Mwy yw fy anwiredd nag y gellir ei faddau. 14 Wele, gyrraist fi heddiw oddi ar wyneb y ddaear, ac o’th ŵydd di y’m cuddir: gwibiad hefyd a chrwydriad fyddaf ar y ddaear; a phwy bynnag a’m caffo a’m lladd. 15 A dywedodd yr Arglwydd wrtho, Am hynny y dielir yn saith ddyblyg ar bwy bynnag a laddo Cain. A’r Arglwydd a osododd nod ar Cain, rhag i neb a’i caffai ei ladd ef.
16 A Chain a aeth allan o ŵydd yr Arglwydd, ac a drigodd yn nhir Nod, o’r tu dwyrain i Eden.
2 Oherwydd paham, diesgus wyt ti, O ddyn, pwy bynnag wyt yn barnu: canys yn yr hyn yr wyt yn barnu arall, yr wyt yn dy gondemnio dy hun: canys ti yr hwn wyt yn barnu, wyt yn gwneuthur yr un pethau. 2 Eithr ni a wyddom fod barn Duw yn ôl gwirionedd, yn erbyn y rhai a wnânt gyfryw bethau. 3 Ac a wyt ti’n tybied hyn, O ddyn, yr hwn wyt yn barnu’r rhai sydd yn gwneuthur y cyfryw bethau, a thithau yn gwneuthur yr un pethau, y dihengi di rhag barn Duw? 4 Neu a wyt ti’n diystyru golud ei ddaioni ef, a’i ddioddefgarwch, a’i ymaros, heb wybod fod daioni Duw yn dy dywys di i edifeirwch? 5 Eithr yn ôl dy galedrwydd, a’th galon ddiedifeiriol, wyt yn trysori i ti dy hun ddigofaint erbyn dydd y digofaint, a datguddiad cyfiawn farn Duw, 6 Yr hwn a dâl i bob un yn ôl ei weithredoedd: 7 Sef i’r rhai trwy barhau yn gwneuthur da, a geisiant ogoniant, ac anrhydedd, ac anllygredigaeth, bywyd tragwyddol: 8 Eithr i’r rhai sydd gynhennus, ac anufudd i’r gwirionedd, eithr yn ufudd i anghyfiawnder, y bydd llid a digofaint; 9 Trallod ac ing ar bob enaid dyn sydd yn gwneuthur drwg; yr Iddew yn gyntaf, a’r Groegwr hefyd: 10 Eithr gogoniant, ac anrhydedd, a thangnefedd, i bob un sydd yn gwneuthur daioni; i’r Iddew yn gyntaf, ac i’r Groegwr hefyd. 11 Canys nid oes derbyn wyneb gerbron Duw.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.