Revised Common Lectionary (Semicontinuous)
104 Fy enaid, bendithia yr Arglwydd. O Arglwydd fy Nuw, tra mawr ydwyt; gwisgaist ogoniant a harddwch. 2 Yr hwn wyt yn gwisgo goleuni fel dilledyn: ac yn taenu y nefoedd fel llen. 3 Yr hwn sydd yn gosod tulathau ei ystafelloedd yn y dyfroedd; yn gwneuthur y cymylau yn gerbyd iddo; ac yn rhodio ar adenydd y gwynt. 4 Yr hwn sydd yn gwneuthur ei genhadon yn ysbrydion; a’i weinidogion yn dân fflamllyd. 5 Yr hwn a seiliodd y ddaear ar ei sylfeini, fel na symudo byth yn dragywydd. 6 Toaist hi â’r gorddyfnder, megis â gwisg: y dyfroedd a safent goruwch y mynyddoedd. 7 Gan dy gerydd di y ffoesant: rhag sŵn dy daran y prysurasant ymaith. 8 Gan y mynyddoedd yr ymgodant: ar hyd y dyffrynnoedd y disgynnant, i’r lle a seiliaist iddynt. 9 Gosodaist derfyn, fel nad elont drosodd; fel na ddychwelont i orchuddio y ddaear. 10 Yr hwn a yrr y ffynhonnau i’r dyffrynnoedd, y rhai a gerddant rhwng y bryniau. 11 Diodant holl fwystfilod y maes: yr asynnod gwylltion a dorrant eu syched. 12 Adar y nefoedd a drigant gerllaw iddynt, y rhai a leisiant oddi rhwng y cangau. 13 Y mae efe yn dyfrhau y bryniau o’i ystafelloedd: y ddaear a ddigonir o ffrwyth dy weithredoedd. 14 Y mae yn peri i’r gwellt dyfu i’r anifeiliaid, a llysiau i wasanaeth dyn: fel y dyco fara allan o’r ddaear; 15 A gwin, yr hwn a lawenycha galon dyn; ac olew, i beri i’w wyneb ddisgleirio: a bara, yr hwn a gynnal galon dyn. 16 Prennau yr Arglwydd sydd lawn sugn: cedrwydd Libanus, y rhai a blannodd efe; 17 Lle y nytha yr adar: y ffynidwydd yw tŷ y ciconia. 18 Y mynyddoedd uchel sydd noddfa i’r geifr; a’r creigiau i’r cwningod. 19 Efe a wnaeth y lleuad i amserau nodedig: yr haul a edwyn ei fachludiad. 20 Gwnei dywyllwch, a nos fydd: ynddi yr ymlusga pob bwystfil coed. 21 Y cenawon llewod a ruant am ysglyfaeth, ac a geisiant eu bwyd gan Dduw. 22 Pan godo haul, ymgasglant, a gorweddant yn eu llochesau. 23 Dyn a â allan i’w waith, ac i’w orchwyl hyd yr hwyr. 24 Mor lluosog yw dy weithredoedd, O Arglwydd! gwnaethost hwynt oll mewn doethineb: llawn yw y ddaear o’th gyfoeth. 25 Felly y mae y môr mawr, llydan: yno y mae ymlusgiaid heb rifedi, bwystfilod bychain a mawrion. 26 Yno yr â y llongau: yno y mae y lefiathan, yr hwn a luniaist i chwarae ynddo. 27 Y rhai hyn oll a ddisgwyliant wrthyt; am roddi iddynt eu bwyd yn ei bryd. 28 A roddech iddynt, a gasglant: agori dy law, a diwellir hwynt â daioni. 29 Ti a guddi dy wyneb, hwythau a drallodir: dygi ymaith eu hanadl, a threngant, a dychwelant i’w llwch. 30 Pan ollyngych dy ysbryd, y crëir hwynt; ac yr adnewyddi wyneb y ddaear. 31 Gogoniant yr Arglwydd fydd yn dragywydd: yr Arglwydd a lawenycha yn ei weithredoedd. 32 Efe a edrych ar y ddaear, a hi a gryna: efe a gyffwrdd â’r mynyddoedd, a hwy a fygant. 33 Canaf i’r Arglwydd tra fyddwyf fyw: canaf i’m Duw tra fyddwyf. 34 Bydd melys fy myfyrdod amdano: mi a lawenychaf yn yr Arglwydd. 35 Darfydded y pechaduriaid o’r tir, na fydded yr annuwiolion mwy. Fy enaid, bendithia di yr Arglwydd. Molwch yr Arglwydd.
7 Cyn ei chlafychu, yr esgorodd; cyn dyfod gwewyr arni, y rhyddhawyd hi ar fab. 8 Pwy a glybu y fath beth â hyn? pwy a welodd y fath bethau â hyn? A wneir i’r ddaear dyfu mewn un dydd? a enir cenedl ar unwaith? Pan glafychodd Seion, yr esgorodd hefyd ar ei meibion. 9 A ddygaf fi i’r enedigaeth, ac oni pharaf esgor? medd yr Arglwydd: a baraf fi esgor, ac a luddiaf? medd dy Dduw. 10 Llawenhewch gyda Jerwsalem, a byddwch hyfryd gyda hi, y rhai oll a’i cerwch hi: llawenhewch gyda hi yn llawen, y rhai oll a alerwch o’i phlegid hi: 11 Fel y sugnoch, ac y’ch diwaller â bronnau ei diddanwch hi; fel y godroch, ac y byddoch hyfryd gan helaethrwydd ei gogoniant hi. 12 Canys fel hyn y dywed yr Arglwydd; Wele, mi a estynnaf iddi heddwch fel afon, a gogoniant y cenhedloedd fel ffrwd lifeiriol: yna y sugnwch, ar ei hystlys hi y’ch dygir, ac ar ei gliniau y’ch diddenir. 13 Fel un yr hwn y diddana ei fam ef, felly y diddanaf fi chwi; ac yn Jerwsalem y’ch diddenir.
22 Ac efe a ddywedodd wrth ei ddisgyblion, Am hyn yr wyf yn dywedyd wrthych, Na chymerwch ofal am eich bywyd, beth a fwytaoch; nac am eich corff, beth a wisgoch. 23 Y mae’r bywyd yn fwy na’r ymborth, a’r corff yn fwy na’r dillad. 24 Ystyriwch y brain: canys nid ydynt yn hau nac yn medi; i’r rhai nid oes gell nac ysgubor; ac y mae Duw yn eu porthi hwynt: o ba faint mwy yr ydych chwi yn well na’r adar? 25 A phwy ohonoch, gan gymryd gofal, a ddichon chwanegu un cufydd at ei faintioli? 26 Am hynny, oni ellwch wneuthur y peth lleiaf, paham yr ydych yn cymryd gofal am y lleill? 27 Ystyriwch y lili, pa fodd y maent yn tyfu; nid ydynt yn llafurio, nac yn nyddu: ac yr wyf yn dywedyd i chwi, na wisgwyd Solomon yn ei holl ogoniant fel un o’r rhai hyn. 28 Ac os yw Duw felly yn dilladu’r llysieuyn, yr hwn sydd heddiw yn y maes, ac yfory a deflir i’r ffwrn: pa faint mwy y dillada efe chwychwi, O rai o ychydig ffydd? 29 Chwithau na cheisiwch beth a fwytaoch, neu pa beth a yfoch; ac na fyddwch amheus. 30 Canys y pethau hyn oll y mae cenhedloedd y byd yn eu hargeisio: ac y mae eich Tad chwi yn gwybod fod arnoch chwi eisiau’r pethau hyn.
31 Yn hytrach ceisiwch deyrnas Dduw; a’r pethau hyn oll a roddir i chwi yn chwaneg.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.