Revised Common Lectionary (Semicontinuous)
104 Fy enaid, bendithia yr Arglwydd. O Arglwydd fy Nuw, tra mawr ydwyt; gwisgaist ogoniant a harddwch. 2 Yr hwn wyt yn gwisgo goleuni fel dilledyn: ac yn taenu y nefoedd fel llen. 3 Yr hwn sydd yn gosod tulathau ei ystafelloedd yn y dyfroedd; yn gwneuthur y cymylau yn gerbyd iddo; ac yn rhodio ar adenydd y gwynt. 4 Yr hwn sydd yn gwneuthur ei genhadon yn ysbrydion; a’i weinidogion yn dân fflamllyd. 5 Yr hwn a seiliodd y ddaear ar ei sylfeini, fel na symudo byth yn dragywydd. 6 Toaist hi â’r gorddyfnder, megis â gwisg: y dyfroedd a safent goruwch y mynyddoedd. 7 Gan dy gerydd di y ffoesant: rhag sŵn dy daran y prysurasant ymaith. 8 Gan y mynyddoedd yr ymgodant: ar hyd y dyffrynnoedd y disgynnant, i’r lle a seiliaist iddynt. 9 Gosodaist derfyn, fel nad elont drosodd; fel na ddychwelont i orchuddio y ddaear. 10 Yr hwn a yrr y ffynhonnau i’r dyffrynnoedd, y rhai a gerddant rhwng y bryniau. 11 Diodant holl fwystfilod y maes: yr asynnod gwylltion a dorrant eu syched. 12 Adar y nefoedd a drigant gerllaw iddynt, y rhai a leisiant oddi rhwng y cangau. 13 Y mae efe yn dyfrhau y bryniau o’i ystafelloedd: y ddaear a ddigonir o ffrwyth dy weithredoedd. 14 Y mae yn peri i’r gwellt dyfu i’r anifeiliaid, a llysiau i wasanaeth dyn: fel y dyco fara allan o’r ddaear; 15 A gwin, yr hwn a lawenycha galon dyn; ac olew, i beri i’w wyneb ddisgleirio: a bara, yr hwn a gynnal galon dyn. 16 Prennau yr Arglwydd sydd lawn sugn: cedrwydd Libanus, y rhai a blannodd efe; 17 Lle y nytha yr adar: y ffynidwydd yw tŷ y ciconia. 18 Y mynyddoedd uchel sydd noddfa i’r geifr; a’r creigiau i’r cwningod. 19 Efe a wnaeth y lleuad i amserau nodedig: yr haul a edwyn ei fachludiad. 20 Gwnei dywyllwch, a nos fydd: ynddi yr ymlusga pob bwystfil coed. 21 Y cenawon llewod a ruant am ysglyfaeth, ac a geisiant eu bwyd gan Dduw. 22 Pan godo haul, ymgasglant, a gorweddant yn eu llochesau. 23 Dyn a â allan i’w waith, ac i’w orchwyl hyd yr hwyr. 24 Mor lluosog yw dy weithredoedd, O Arglwydd! gwnaethost hwynt oll mewn doethineb: llawn yw y ddaear o’th gyfoeth. 25 Felly y mae y môr mawr, llydan: yno y mae ymlusgiaid heb rifedi, bwystfilod bychain a mawrion. 26 Yno yr â y llongau: yno y mae y lefiathan, yr hwn a luniaist i chwarae ynddo. 27 Y rhai hyn oll a ddisgwyliant wrthyt; am roddi iddynt eu bwyd yn ei bryd. 28 A roddech iddynt, a gasglant: agori dy law, a diwellir hwynt â daioni. 29 Ti a guddi dy wyneb, hwythau a drallodir: dygi ymaith eu hanadl, a threngant, a dychwelant i’w llwch. 30 Pan ollyngych dy ysbryd, y crëir hwynt; ac yr adnewyddi wyneb y ddaear. 31 Gogoniant yr Arglwydd fydd yn dragywydd: yr Arglwydd a lawenycha yn ei weithredoedd. 32 Efe a edrych ar y ddaear, a hi a gryna: efe a gyffwrdd â’r mynyddoedd, a hwy a fygant. 33 Canaf i’r Arglwydd tra fyddwyf fyw: canaf i’m Duw tra fyddwyf. 34 Bydd melys fy myfyrdod amdano: mi a lawenychaf yn yr Arglwydd. 35 Darfydded y pechaduriaid o’r tir, na fydded yr annuwiolion mwy. Fy enaid, bendithia di yr Arglwydd. Molwch yr Arglwydd.
32 Gwrandewch, y nefoedd, a llefaraf; a chlywed y ddaear eiriau fy ngenau. 2 Fy athrawiaeth a ddefnynna fel glaw: fy ymadrodd a ddifera fel gwlith; fel gwlithlaw ar irwellt, ac fel cawodydd ar laswellt. 3 Canys enw yr Arglwydd a gyhoeddaf fi: rhoddwch fawredd i’n Duw ni. 4 Efe yw y Graig; perffaith yw ei weithred; canys ei holl ffyrdd ydynt farn: Duw gwirionedd, a heb anwiredd, cyfiawn ac uniawn yw efe. 5 Y genhedlaeth ŵyrog a throfaus a ymlygrodd yn ei erbyn trwy eu bai, heb fod yn blant iddo ef. 6 Ai hyn a delwch i’r Arglwydd, bobl ynfyd ac angall? onid efe yw dy dad a’th brynwr? onid efe a’th wnaeth, ac a’th sicrhaodd?
7 Cofia y dyddiau gynt; ystyriwch flynyddoedd cenhedlaeth a chenhedlaeth: gofyn i’th dad, ac efe a fynega i ti; i’th henuriaid, a hwy a ddywedant wrthyt. 8 Pan gyfrannodd y Goruchaf etifeddiaeth y cenhedloedd, pan neilltuodd efe feibion Adda, y gosododd efe derfynau y bobloedd yn ôl rhifedi meibion Israel. 9 Canys rhan yr Arglwydd yw ei bobl; Jacob yw rhan ei etifeddiaeth ef. 10 Efe a’i cafodd ef mewn tir anial, ac mewn diffeithwch gwag erchyll:arweinioddef o amgylch, a pharodd iddo ddeall, a chadwodd ef fel cannwyll ei lygad. 11 Fel y cyfyd eryr ei nyth, y castella dros ei gywion, y lleda ei esgyll, y cymer hwynt, ac a’u dwg ar ei adenydd; 12 Felly yr Arglwydd yn unig a’i harweiniodd yntau, ac nid oedd duw dieithr gydag ef. 13 Gwnaeth iddo farchogaeth ar uchelder y ddaear, a bwyta cnwd y maes, a sugno mêl o’r graig, ac olew o’r graig gallestr; 14 Ymenyn gwartheg, a llaeth defaid, ynghyd â braster ŵyn, a hyrddod o rywogaeth Basan, a bychod, ynghyd â braster grawn gwenith, a phurwaed grawnwin a yfaist.
32 Ond gelwch i’ch cof y dyddiau o’r blaen, yn y rhai, wedi eich goleuo, y dioddefasoch ymdrech mawr o helbulon: 33 Wedi eich gwneuthur weithiau yn wawd, trwy waradwyddiadau a chystuddiau; ac weithiau yn bod yn gyfranogion â’r rhai a drinid felly. 34 Canys chwi a gyd‐ddioddefasoch â’m rhwymau i hefyd, ac a gymerasoch eich ysbeilio am y pethau oedd gennych yn llawen; gan wybod fod gennych i chwi eich hunain olud gwell yn y nefoedd, ac un parhaus. 35 Am hynny na fwriwch ymaith eich hyder, yr hwn sydd iddo fawr wobr. 36 Canys rhaid i chwi wrth amynedd; fel, wedi i chwi wneuthur ewyllys Duw, y derbynioch yr addewid. 37 Oblegid ychydig bachigyn eto, a’r hwn sydd yn dyfod a ddaw, ac nid oeda. 38 A’r cyfiawn a fydd byw trwy ffydd: eithr o thyn neb yn ôl, nid yw fy enaid yn ymfodloni ynddo. 39 Eithr nid ydym ni o’r rhai sydd yn tynnu yn ôl i golledigaeth; namyn o ffydd, i gadwedigaeth yr enaid.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.