Revised Common Lectionary (Semicontinuous)
8 Fel hyn y dywed yr Arglwydd, Mewn amser bodlongar y’th wrandewais, ac yn nydd iachawdwriaeth y’th gynorthwyais; a mi a’th gadwaf, ac a’th roddaf yn gyfamod y bobl, i sicrhau y ddaear, i beri etifeddu yr etifeddiaethau anghyfanheddol; 9 Fel y dywedych wrth y carcharorion, Ewch allan; wrth y rhai sydd mewn tywyllwch, Ymddangoswch. Ar y ffyrdd y porant, ac yn yr holl uchelfannau y bydd eu porfa hwynt. 10 Ni newynant, ac ni sychedant; ac nis tery gwres na haul hwynt: oherwydd yr hwn a dosturia wrthynt a’u tywys, ac a’u harwain wrth y ffynhonnau dyfroedd. 11 A mi a wnaf fy holl fynydd yn ffordd, a’m priffyrdd a gyfodir. 12 Wele, y rhai hyn a ddeuant o bell: ac wele, y rhai acw o’r gogledd, ac o’r gorllewin; a’r rhai yma o dir Sinim.
13 Cenwch, nefoedd; a gorfoledda, ddaear; bloeddiwch ganu, y mynyddoedd: canys yr Arglwydd a gysurodd ei bobl, ac a drugarha wrth ei drueiniaid. 14 Eto dywedodd Seion, Yr Arglwydd a’m gwrthododd, a’m Harglwydd a’m hanghofiodd. 15 A anghofia gwraig ei phlentyn sugno, fel na thosturio wrth fab ei chroth? ie, hwy a allant anghofio, eto myfi nid anghofiaf di. 16 Wele, ar gledr fy nwylo y’th argreffais; dy furiau sydd ger fy mron bob amser.
Caniad y graddau, o’r eiddo Dafydd.
131 O Arglwydd, nid ymfalchïodd fy nghalon, ac nid ymddyrchafodd fy llygaid: ni rodiais chwaith mewn pethau rhy fawr, a rhy uchel i mi. 2 Eithr gosodais a gostegais fy enaid, fel un wedi ei ddiddyfnu oddi wrth ei fam: fy enaid sydd ynof fel un wedi ei ddiddyfnu. 3 Disgwylied Israel wrth yr Arglwydd, o’r pryd hwn hyd yn dragywydd.
4 Felly cyfrifed dyn nyni, megis gweinidogion i Grist, a goruchwylwyr ar ddirgeledigaethau Duw. 2 Am ben hyn, yr ydys yn disgwyl mewn goruchwylwyr, gael un yn ffyddlon. 3 Eithr gennyf fi bychan iawn yw fy marnu gennych chwi, neu gan farn dyn: ac nid wyf chwaith yn fy marnu fy hun. 4 Canys ni wn i ddim arnaf fy hun; ond yn hyn ni’m cyfiawnhawyd: eithr yr Arglwydd yw’r hwn sydd yn fy marnu. 5 Am hynny na fernwch ddim cyn yr amser, hyd oni ddelo’r Arglwydd, yr hwn a oleua ddirgelion y tywyllwch, ac a eglura fwriadau’r calonnau: ac yna y bydd y glod i bob un gan Dduw.
24 Ni ddichon neb wasanaethu dau arglwydd; canys naill ai efe a gasâ y naill, ac a gâr y llall; ai efe a ymlŷn wrth y naill, ac a esgeulusa’r llall. Ni ellwch wasanaethu Duw a mamon. 25 Am hynny meddaf i chwi, Na ofelwch am eich bywyd, pa beth a fwytaoch, neu pa beth a yfoch; neu am eich corff, pa beth a wisgoch. Onid yw’r bywyd yn fwy na’r bwyd, a’r corff yn fwy na’r dillad? 26 Edrychwch ar adar y nefoedd: oblegid nid ydynt yn hau, nac yn medi, nac yn cywain i ysguboriau; ac y mae eich Tad nefol yn eu porthi hwy. Onid ydych chwi yn rhagori llawer arnynt hwy? 27 A phwy ohonoch gan ofalu, a ddichon chwanegu un cufydd at ei faintioli? 28 A phaham yr ydych chwi yn gofalu am ddillad? Ystyriwch lili’r maes, pa fodd y maent yn tyfu; nid ydynt nac yn llafurio nac yn nyddu: 29 Eithr yr wyf yn dywedyd i chwi, na wisgwyd Solomon yn ei holl ogoniant fel un o’r rhai hyn. 30 Am hynny os dillada Duw felly lysieuyn y maes, yr hwn sydd heddiw, ac yfory a fwrir i’r ffwrn, oni ddillada efe chwi yn hytrach o lawer, O chwi o ychydig ffydd? 31 Am hynny na ofelwch, gan ddywedyd, Beth a fwytawn? neu, Beth a yfwn? neu, A pha beth yr ymddilladwn? 32 (Canys yr holl bethau hyn y mae’r Cenhedloedd yn eu ceisio;) oblegid gŵyr eich Tad nefol fod arnoch eisiau’r holl bethau hyn. 33 Eithr yn gyntaf ceisiwch deyrnas Dduw, a’i gyfiawnder ef, a’r holl bethau hyn a roddir i chwi yn ychwaneg. 34 Na ofelwch gan hynny dros drannoeth: canys trannoeth a ofala am ei bethau ei hun. Digon i’r diwrnod ei ddrwg ei hun.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.