Print Page Options
Previous Prev Day Next DayNext

Revised Common Lectionary (Semicontinuous)

Daily Bible readings that follow the church liturgical year, with sequential stories told across multiple weeks.
Duration: 1245 days
Beibl William Morgan (BWM)
Version
Salmau 131

Caniad y graddau, o’r eiddo Dafydd.

131 O Arglwydd, nid ymfalchïodd fy nghalon, ac nid ymddyrchafodd fy llygaid: ni rodiais chwaith mewn pethau rhy fawr, a rhy uchel i mi. Eithr gosodais a gostegais fy enaid, fel un wedi ei ddiddyfnu oddi wrth ei fam: fy enaid sydd ynof fel un wedi ei ddiddyfnu. Disgwylied Israel wrth yr Arglwydd, o’r pryd hwn hyd yn dragywydd.

Eseia 31

31 Gwae y rhai a ddisgynnant i’r Aifft am gynhorthwy, ac a ymddiriedant mewn meirch, ac a hyderant ar gerbydau, am eu bod yn aml; ac ar wŷr meirch, am eu bod yn nerthol iawn: ond nid edrychant am Sanct Israel, ac ni cheisiant yr Arglwydd. Eto y mae efe yn ddoeth, ac a ddaw â chosbedigaeth, ac ni eilw ei air yn ôl; eithr cyfyd yn erbyn tŷ y rhai drygionus, ac yn erbyn cynhorthwy y rhai a weithredant anwiredd. Yr Eifftiaid hefyd ydynt ddynion, ac nid Duw; a’u meirch yn gnawd, ac nid yn ysbryd. Pan estynno yr Arglwydd ei law, yna y syrth y cynorthwywr, ac y cwymp y cynorthwyedig, a hwynt oll a gydballant. Canys fel hyn y dywedodd yr Arglwydd wrthyf, Megis y rhua hen lew a’r llew ieuanc ar ei ysglyfaeth, yr hwn, er galw lliaws o fugeiliaid yn ei erbyn, ni ddychryn rhag eu llef hwynt, ac nid ymostwng er eu twrf hwynt: felly y disgyn Arglwydd y lluoedd i ryfela dros fynydd Seion, a thros ei fryn ef. Megis adar yn ehedeg, felly yr amddiffyn Arglwydd y lluoedd Jerwsalem; gan amddiffyn a gwared, gan basio heibio ac achub.

Dychwelwch at yr hwn y llwyr giliodd meibion Israel oddi wrtho. Oherwydd yn y dydd hwnnw gwrthodant bob un ei eilunod arian, a’i eilunod aur, y rhai a wnaeth eich dwylo eich hun yn bechod i chwi.

A’r Asyriad a syrth trwy gleddyf, nid eiddo gŵr grymus; a chleddyf, nid eiddo dyn gwael, a’i difa ef: ac efe a ffy rhag y cleddyf, a’i wŷr ieuainc a fyddant dan dreth. Ac efe a â i’w graig rhag ofn; a’i dywysogion a ofnant rhag y faner, medd yr Arglwydd, yr hwn y mae ei dân yn Seion, a’i ffwrn yn Jerwsalem.

Luc 11:14-23

14 Ac yr oedd efe yn bwrw allan gythraul, a hwnnw oedd fud. A bu, wedi i’r cythraul fyned allan, i’r mudan lefaru: a’r bobloedd a ryfeddasant. 15 Eithr rhai ohonyn a ddywedasant, Trwy Beelsebub, pennaeth y cythreuliaid, y mae efe yn bwrw allan gythreuliaid. 16 Ac eraill, gan ei demtio, a geisiasant ganddo arwydd o’r nef. 17 Yntau, yn gwybod eu meddyliau hwynt, a ddywedodd wrthynt, Pob teyrnas wedi ymrannu yn ei herbyn ei hun, a anghyfanheddir; a thŷ yn erbyn tŷ, a syrth. 18 Ac os Satan hefyd sydd wedi ymrannu yn ei erbyn ei hun, pa fodd y saif ei deyrnas ef? gan eich bod yn dywedyd, mai trwy Beelsebub yr wyf fi yn bwrw allan gythreuliaid. 19 Ac os trwy Beelsebub yr wyf fi yn bwrw allan gythreuliaid, trwy bwy y mae eich plant chwi yn eu bwrw hwynt allan? am hynny y byddant hwy yn farnwyr arnoch chwi. 20 Eithr os myfi trwy fys Duw ydwyf yn bwrw allan gythreuliaid, diamau ddyfod teyrnas Dduw atoch chwi. 21 Pan fyddo un cryf arfog yn cadw ei neuadd, y mae’r hyn sydd ganddo mewn heddwch: 22 Ond pan ddêl un cryfach nag ef arno, a’i orchfygu, efe a ddwg ymaith ei holl arfogaeth ef yn yr hon yr oedd yn ymddiried, ac a ran ei anrhaith ef. 23 Y neb nid yw gyda mi, sydd yn fy erbyn: a’r neb nid yw yn casglu gyda mi, sydd yn gwasgaru.

Beibl William Morgan (BWM)

William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.