Print Page Options
Previous Prev Day Next DayNext

Revised Common Lectionary (Semicontinuous)

Daily Bible readings that follow the church liturgical year, with sequential stories told across multiple weeks.
Duration: 1245 days
Beibl William Morgan (BWM)
Version
Salmau 131

Caniad y graddau, o’r eiddo Dafydd.

131 O Arglwydd, nid ymfalchïodd fy nghalon, ac nid ymddyrchafodd fy llygaid: ni rodiais chwaith mewn pethau rhy fawr, a rhy uchel i mi. Eithr gosodais a gostegais fy enaid, fel un wedi ei ddiddyfnu oddi wrth ei fam: fy enaid sydd ynof fel un wedi ei ddiddyfnu. Disgwylied Israel wrth yr Arglwydd, o’r pryd hwn hyd yn dragywydd.

Diarhebion 12:22-28

22 Ffiaidd gan yr Arglwydd wefusau celwyddog: ond y rhai a wnânt yn ffyddlon, a ryngant fodd iddo ef. 23 Gŵr pwyllog a gela wybodaeth: ond calon ffyliaid a gyhoedda ffolineb. 24 Llaw y diesgeulus a deyrnasa: a llaw y twyllodrus a fydd dan deyrnged. 25 Gofid yng nghalon gŵr a bair iddi grymu: ond gair da a’i llawenha hi. 26 Y cyfiawn a ragora ar ei gymydog: ond ffordd y rhai drygionus a’u twylla hwynt. 27 Ni rostia y twyllodrus ei helwriaeth: ond golud y dyn diesgeulus sydd werthfawr. 28 Yn ffordd cyfiawnder y mae bywyd; ac yn ei llwybrau hi nid oes marwolaeth.

Philipiaid 2:19-24

19 Ac yr wyf yn gobeithio yn yr Arglwydd Iesu anfon Timotheus ar fyrder atoch, fel y’m cysurer innau hefyd, wedi i mi wybod eich helynt chwi. 20 Canys nid oes gennyf neb o gyffelyb feddwl, yr hwn a wir ofala am y pethau a berthyn i chwi. 21 Canys pawb sydd yn ceisio’r eiddynt eu hunain, nid yr eiddo Crist Iesu. 22 Eithr y prawf ohono ef chwi a’i gwyddoch, mai fel plentyn gyda thad, y gwasanaethodd efe gyda myfi yn yr efengyl. 23 Hwn gan hynny yr ydwyf yn gobeithio ei ddanfon, cyn gynted ag y gwelwyf yr hyn a fydd i mi. 24 Ac y mae gennyf hyder yn yr Arglwydd y deuaf finnau hefyd ar fyrder atoch.

Beibl William Morgan (BWM)

William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.