Print Page Options
Previous Prev Day Next DayNext

Revised Common Lectionary (Semicontinuous)

Daily Bible readings that follow the church liturgical year, with sequential stories told across multiple weeks.
Duration: 1245 days
Beibl William Morgan (BWM)
Version
Salmau 68:1-10

I’r Pencerdd, Salm neu Gân Dafydd.

68 Cyfoded Duw, gwasgarer ei elynion: a ffoed ei gaseion o’i flaen ef. Chweli hwynt fel chwalu mwg: fel y tawdd cwyr wrth y tân, difether y rhai annuwiol o flaen Duw. Ond llawenycher y rhai cyfiawn, a gorfoleddant gerbron Duw; a byddant hyfryd o lawenydd. Cenwch i Dduw, canmolwch ei enw: dyrchefwch yr hwn sydd yn marchogaeth ar y nefoedd, a’i enw yn JAH, a gorfoleddwch ger ei fron ef. Tad yr amddifaid, a Barnwr y gweddwon, yw Duw, yn ei breswylfa sanctaidd. Duw sydd yn gosod yr unig mewn teulu: yn dwyn allan y rhai a rwymwyd mewn gefynnau; ond y rhai cyndyn a breswyliant grastir. Pan aethost, O Dduw, o flaen dy bobl, pan gerddaist trwy yr anialwch; Sela: Y ddaear a grynodd, a’r nefoedd a ddiferasant o flaen Duw: Sinai yntau a grynodd o flaen Duw, sef Duw Israel. Dihidlaist law graslon, O Dduw, ar dy etifeddiaeth: ti a’i gwrteithiaist wedi ei blino. 10 Dy gynulleidfa di sydd yn trigo ynddi: yn dy ddaioni, O Dduw, yr wyt yn darparu i’r tlawd.

Salmau 68:19-20

19 Bendigedig fyddo yr Arglwydd, yr hwn a’n llwytha beunydd â daioni; sef Duw ein hiachawdwriaeth. Sela. 20 Ein Duw ni sydd Dduw iachawdwriaeth; ac i’r Arglwydd Dduw y perthyn diangfâu rhag marwolaeth.

Job 24:9-25

Tynnant yr amddifad oddi wrth y fron: cymerant wystl gan y tlawd. 10 Gwnânt iddo fyned yn noeth heb ddillad; a dygant ddyrneidiau lloffa y rhai newynog. 11 Y rhai sydd yn gwneuthur olew o fewn eu parwydydd hwynt, ac sydd yn sathru eu cafnau gwin, ydynt sychedig. 12 Y mae gwŷr yn griddfan o’r ddinas, ac y mae eneidiau y rhai archolledig yn gweiddi; ac nid yw Duw yn rhoi ffolineb yn eu herbyn. 13 Y rhai hynny sydd ymhlith y rhai sydd yn gwrthwynebu goleuni; nid ydynt yn adnabod ei ffyrdd, nac yn aros yn ei lwybrau. 14 Gyda’r goleuad y cyfyd y lleiddiad, ac y lladd efe y tlawd a’r anghenog; a’r nos y bydd efe fel lleidr. 15 A llygad y godinebwr sydd yn gwylied am y cyfnos, gan ddywedyd, Ni chaiff llygad fy ngweled; ac efe a esyd hug ar ei wyneb. 16 Yn y tywyll y maent yn cloddio trwy dai, y thai a nodasant iddynt eu hunain liw dydd: nid adwaenant hwy oleuni. 17 Canys megis cysgod marwolaeth ydyw y bore iddynt hwy: dychryn cysgod marwolaeth yw, os edwyn neb hwynt. 18 Ysgafn ydyw ar wyneb y dyfroedd; melltigedig ydyw eu rhandir hwy ar y ddaear: ni thry efe ei wyneb at ffordd y gwinllannoedd. 19 Sychder a gwres sydd yn cipio dyfroedd eira: felly y bedd y rhai a bechasant. 20 Y groth a’i gollwng ef dros gof, melys fydd gan y pryf ef; ni chofir ef mwy: ac anwiredd a dorrir fel pren. 21 Y mae efe yn dryllio yr amhlantadwy, yr hon ni phlanta; ac nid ydyw yn gwneuthur daioni i’r weddw. 22 Ac y mae efe yn tynnu y rhai cedyrn wrth ei nerth: y mae efe yn codi, ac nid oes neb diogel o’i einioes. 23 Er rhoddi iddo fod mewn diogelwch, ar yr hyn y mae ei bwys; eto y mae ei lygaid ef ar eu ffyrdd hwy. 24 Hwynt‐hwy a ddyrchafwyd dros ychydig, ond hwy a ddarfuant, ac a ostyngwyd; hwy a dducpwyd ymaith fel pawb eraill, ac a dorrwyd ymaith fel pen tywysen. 25 Ac onid ydyw felly yn awr, pwy a’m gwna i yn gelwyddog, ac a esyd fy ymadrodd yn ddiddim?

Galatiaid 2:11-14

11 A phan ddaeth Pedr i Antiochia, mi a’i gwrthwynebais yn ei wyneb, am ei fod i’w feio. 12 Oblegid cyn dyfod rhai oddi wrth Iago, efe a fwytaodd gyda’r Cenhedloedd: ond wedi iddynt ddyfod, efe a giliodd, ac a’i neilltuodd ei hun oddi wrthynt, gan ofni’r rhai oedd o’r enwaediad. 13 A’r Iddewon eraill hefyd a gyd-ragrithiasant ag ef; yn gymaint ag y dygwyd Barnabas hefyd i’w rhagrith hwy. 14 Eithr pan welais i nad oeddynt yn iawn droedio at wirionedd yr efengyl, mi a ddywedais wrth Pedr yn eu gŵydd hwy oll, Os wyt ti, a thi yn Iddew, yn byw fel y Cenhedloedd, ac nid fel yr Iddewon, paham yr wyt ti yn cymell y Cenhedloedd i fyw yn Iddewaidd?

Beibl William Morgan (BWM)

William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.