Revised Common Lectionary (Semicontinuous)
I’r Pencerdd, Salm neu Gân Dafydd.
68 Cyfoded Duw, gwasgarer ei elynion: a ffoed ei gaseion o’i flaen ef. 2 Chweli hwynt fel chwalu mwg: fel y tawdd cwyr wrth y tân, difether y rhai annuwiol o flaen Duw. 3 Ond llawenycher y rhai cyfiawn, a gorfoleddant gerbron Duw; a byddant hyfryd o lawenydd. 4 Cenwch i Dduw, canmolwch ei enw: dyrchefwch yr hwn sydd yn marchogaeth ar y nefoedd, a’i enw yn JAH, a gorfoleddwch ger ei fron ef. 5 Tad yr amddifaid, a Barnwr y gweddwon, yw Duw, yn ei breswylfa sanctaidd. 6 Duw sydd yn gosod yr unig mewn teulu: yn dwyn allan y rhai a rwymwyd mewn gefynnau; ond y rhai cyndyn a breswyliant grastir. 7 Pan aethost, O Dduw, o flaen dy bobl, pan gerddaist trwy yr anialwch; Sela: 8 Y ddaear a grynodd, a’r nefoedd a ddiferasant o flaen Duw: Sinai yntau a grynodd o flaen Duw, sef Duw Israel. 9 Dihidlaist law graslon, O Dduw, ar dy etifeddiaeth: ti a’i gwrteithiaist wedi ei blino. 10 Dy gynulleidfa di sydd yn trigo ynddi: yn dy ddaioni, O Dduw, yr wyt yn darparu i’r tlawd.
19 Bendigedig fyddo yr Arglwydd, yr hwn a’n llwytha beunydd â daioni; sef Duw ein hiachawdwriaeth. Sela. 20 Ein Duw ni sydd Dduw iachawdwriaeth; ac i’r Arglwydd Dduw y perthyn diangfâu rhag marwolaeth.
22 Yna Eliffas y Temaniad a atebodd ac a ddywedodd, 2 A wna gŵr lesâd i Dduw, fel y gwna y synhwyrol lesâd iddo ei hun? 3 Ai digrifwch ydyw i’r Hollalluog dy fod di yn gyfiawn? neu ai elw dy fod yn perffeithio dy ffyrdd? 4 Ai rhag dy ofn y cerydda efe dydi? neu yr â efe gyda thi i farn? 5 Onid ydyw dy ddrygioni di yn aml? a’th anwireddau heb derfyn? 6 Canys cymeraist wystl gan dy frawd yn ddiachos; a diosgaist ddillad y rhai noethion. 7 Ni roddaist ddwfr i’w yfed i’r lluddedig; a thi a ateliaist fara oddi wrth y newynog. 8 Ond y gŵr cadarn, efe bioedd y ddaear; a’r anrhydeddus a drigai ynddi. 9 Danfonaist ymaith wragedd gweddwon yn waglaw; a breichiau y rhai amddifaid a dorrwyd. 10 Am hynny y mae maglau o’th amgylch, ac ofn disymwth yn dy ddychrynu di; 11 Neu dywyllwch rhag gweled ohonot: a llawer o ddyfroedd a’th orchuddiant. 12 Onid ydyw Duw yn uchelder y nefoedd? gwêl hefyd uchder y sêr, mor uchel ydynt. 13 A thi a ddywedi, Pa fodd y gŵyr Duw? a farn efe trwy’r cwmwl tywyll? 14 Y tew gymylau sydd loches iddo, ac ni wêl; ac y mae efe yn rhodio ar gylch y nefoedd. 15 A ystyriaist di yr hen ffordd a sathrodd y gwŷr anwir? 16 Y rhai a dorrwyd pan nid oedd amser; afon a dywalltwyd ar eu sylfaen hwy. 17 Hwy a ddywedasant wrth Dduw, Cilia oddi wrthym: a pha beth a wna’r Hollalluog iddynt hwy? 18 Eto efe a lanwasai eu tai hwy o ddaioni: ond pell yw cyngor yr annuwiolion oddi wrthyf fi. 19 Y rhai cyfiawn a welant, ac a lawenychant: a’r diniwed a’u gwatwar hwynt. 20 Gan na thorred ymaith ein sylwedd ni, eithr y tân a ysodd eu gweddill hwy.
2 Yna wedi pedair blynedd ar ddeg yr euthum drachefn i fyny i Jerwsalem gyda Barnabas, gan gymryd Titus hefyd gyda mi. 2 Ac mi a euthum i fyny yn ôl datguddiad, ac a fynegais iddynt yr efengyl yr hon yr wyf yn ei phregethu ymhlith y Cenhedloedd; ond o’r neilltu i’r rhai cyfrifol, rhag mewn un modd fy mod yn rhedeg yn ofer, neu ddarfod i mi redeg. 3 Eithr Titus, yr hwn oedd gyda mi, er ei fod yn Roegwr, ni chymhellwyd chwaith i enwaedu arno: 4 A hynny oherwydd y gau frodyr a ddygasid i mewn, y rhai a ddaethant i mewn i ysbïo ein rhyddid ni yr hon sydd gennym yng Nghrist Iesu, fel y’n caethiwent ni: 5 I ba rai nid ymroesom trwy ddarostyngiad, naddo dros awr; fel yr arhosai gwirionedd yr efengyl gyda chwi. 6 A chan y rhai a dybid eu bod yn rhywbeth, (pa fath gynt oeddynt, nid yw ddim i mi; nid yw Duw yn derbyn wyneb dyn;) canys y rhai cyfrifol ni chwanegasant ddim i mi: 7 Eithr yn y gwrthwyneb, pan welsant ddarfod ymddiried i mi am efengyl y dienwaediad, megis am efengyl yr enwaediad i Pedr: 8 (Canys yr hwn oedd yn gweithredu yn nerthol yn Pedr i apostoliaeth yr enwaediad, a nerthol weithredodd ynof finnau hefyd tuag at y Cenhedloedd:) 9 A phan wybu Iago, a Cheffas, ac Ioan, y rhai a dybid eu bod yn golofnau, y gras a roddwyd i mi, hwy a roddasant i mi ac i Barnabas ddeau‐ddwylo cymdeithas; fel yr elem ni at y Cenhedloedd, a hwythau at yr enwaediad. 10 Yn unig ar fod i ni gofio’r tlodion; yr hyn hefyd y bûm i ddiwyd i’w wneuthur.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.