Print Page Options
Previous Prev Day Next DayNext

Revised Common Lectionary (Semicontinuous)

Daily Bible readings that follow the church liturgical year, with sequential stories told across multiple weeks.
Duration: 1245 days
Beibl William Morgan (BWM)
Version
1 Brenhinoedd 17:8-16

A gair yr Arglwydd a ddaeth ato ef, gan ddywedyd, Cyfod, dos i Sareffta, yr hon sydd yn perthyn i Sidon, ac aros yno: wele, gorchmynnais i wraig weddw dy borthi di yno. 10 Felly efe a gyfododd, ac a aeth i Sareffta. A phan ddaeth efe at borth y ddinas, wele yno wraig weddw yn casglu briwydd: ac efe a alwodd arni, ac a ddywedodd, Dwg, atolwg, i mi ychydig ddwfr mewn llestr, fel yr yfwyf. 11 Ac a hi yn myned i’w gyrchu, efe a alwodd arni, ac a ddywedodd, Dwg, atolwg, i mi damaid o fara yn dy law. 12 A hi a ddywedodd, Fel mai byw yr Arglwydd dy Dduw, nid oes gennyf deisen, ond llonaid llaw o flawd mewn celwrn, ac ychydig olew mewn ystên: ac wele fi yn casglu dau o friwydd, i fyned i mewn, ac i baratoi hynny i mi ac i’m mab, fel y bwytaom hynny, ac y byddom feirw. 13 Ac Eleias a ddywedodd wrthi, Nac ofna; dos, gwna yn ôl dy air: eto gwna i mi o hynny deisen fechan yn gyntaf, a dwg i mi; a gwna i ti ac i’th fab ar ôl hynny. 14 Canys fel hyn y dywed Arglwydd Dduw Israel, Y blawd yn y celwrn ni threulir, a’r olew o’r ystên ni dderfydd, hyd y dydd y rhoddo yr Arglwydd law ar wyneb y ddaear. 15 A hi a aeth, ac a wnaeth yn ôl gair Eleias: a hi a fwytaodd, ac yntau, a’i thylwyth, ysbaid blwyddyn. 16 Ni ddarfu y celwrn blawd, a’r ystên olew ni ddarfu, yn ôl gair yr Arglwydd, yr hwn a ddywedasai efe trwy law Eleias.

1 Brenhinoedd 17:17-24

17 Ac wedi y pethau hyn y clafychodd mab gwraig y tŷ, ac yr oedd ei glefyd ef mor gryf, fel na thrigodd anadl ynddo. 18 A hi a ddywedodd wrth Eleias, Beth sydd i mi a wnelwyf â thi, gŵr Duw? a ddaethost ti ataf i goffáu fy anwiredd, ac i ladd fy mab? 19 Ac efe a ddywedodd wrthi, Moes i mi dy fab. Ac efe a’i cymerth ef o’i mynwes hi, ac a’i dug ef i fyny i ystafell yr oedd efe yn aros ynddi, ac a’i gosododd ef ar ei wely ei hun. 20 Ac efe a lefodd ar yr Arglwydd, ac a ddywedodd, O Arglwydd fy Nuw, a ddrygaist ti y wraig weddw yr ydwyf fi yn ymdeithio gyda hi, gan ladd ei mab hi? 21 Ac efe a ymestynnodd ar y bachgen dair gwaith, ac a lefodd ar yr Arglwydd, ac a ddywedodd, O Arglwydd fy Nuw, dychweled, atolwg, enaid y bachgen hwn iddo eilwaith. 22 A’r Arglwydd a wrandawodd ar lef Eleias; ac enaid y bachgen a ddychwelodd i mewn iddo, ac efe a ddadebrodd. 23 Ac Eleias a gymerodd y bachgen, ac a’i dug ef i waered o’r ystafell i’r tŷ, ac a’i rhoddes ef i’w fam: ac Eleias a ddywedodd, Gwêl, byw yw dy fab.

24 A’r wraig a ddywedodd wrth Eleias, Yn awr wrth hyn y gwn mai gŵr Duw ydwyt ti, ac mai gwirionedd yw gair yr Arglwydd yn dy enau di.

Salmau 146

146 Molwch yr Arglwydd. Fy enaid, mola di yr Arglwydd. Molaf yr Arglwydd yn fy myw: canaf i’m Duw tra fyddwyf. Na hyderwch ar dywysogion, nac ar fab dyn, yr hwn nid oes iachawdwriaeth ynddo. Ei anadl a â allan, efe a ddychwel i’w ddaear: y dydd hwnnw y derfydd am ei holl amcanion ef. Gwyn ei fyd yr hwn y mae Duw Jacob yn gymorth iddo, sydd â’i obaith yn yr Arglwydd ei Dduw: Yr hwn a wnaeth nefoedd a daear, y môr, a’r hyn oll y sydd ynddynt: yr hwn sydd yn cadw gwirionedd yn dragywydd: Yr hwn sydd yn gwneuthur barn i’r rhai gorthrymedig, yn rhoddi bara i’r newynog. Yr Arglwydd sydd yn gollwng y carcharorion yn rhydd. Yr Arglwydd sydd yn agoryd llygaid y deillion: yr Arglwydd sydd yn codi y rhai a ddarostyngwyd: yr Arglwydd sydd yn hoffi y rhai cyfiawn. Yr Arglwydd sydd yn cadw y dieithriaid: efe a gynnal yr amddifad a’r weddw; ac a ddadymchwel ffordd y rhai annuwiol. 10 Yr Arglwydd a deyrnasa byth, sef dy Dduw di, Seion, dros genhedlaeth a chenhedlaeth. Molwch yr Arglwydd.

Galatiaid 1:11-24

11 Eithr yr ydwyf yn hysbysu i chwi, frodyr, am yr efengyl a bregethwyd gennyf fi, nad yw hi ddynol. 12 Canys nid gan ddyn y derbyniais i hi, nac y’m dysgwyd; eithr trwy ddatguddiad Iesu Grist. 13 Canys chwi a glywsoch fy ymarweddiad i gynt yn y grefydd Iddewig, i mi allan o fesur erlid eglwys Dduw, a’i hanrheithio hi; 14 Ac i mi gynyddu yn y grefydd Iddewig yn fwy na llawer o’m cyfoedion yn fy nghenedl fy hun, gan fod yn fwy awyddus i draddodiadau fy nhadau. 15 Ond pan welodd Duw yn dda, yr hwn a’m neilltuodd i o groth fy mam, ac a’m galwodd i trwy ei ras, 16 I ddatguddio ei Fab ef ynof fi, fel y pregethwn ef ymhlith y cenhedloedd; yn y fan nid ymgynghorais â chig a gwaed: 17 Ac nid euthum yn fy ôl i Jerwsalem at y rhai oedd o’m blaen i yn apostolion; ond mi a euthum i Arabia, a thrachefn y dychwelais i Ddamascus. 18 Yna ar ôl tair blynedd y deuthum yn fy ôl i Jerwsalem i ymweled â Phedr; ac a arhosais gydag ef bymtheng niwrnod. 19 Eithr neb arall o’r apostolion nis gwelais, ond Iago brawd yr Arglwydd. 20 A’r pethau yr wyf yn eu hysgrifennu atoch, wele, gerbron Duw, nad wyf yn dywedyd celwydd. 21 Wedi hynny y deuthum i wledydd Syria a Cilicia; 22 Ac yr oeddwn heb fy adnabod wrth fy wyneb yn eglwysi Jwdea y rhai oedd yng Nghrist: 23 Ond yn unig hwy a glywsent, fod yr hwn oedd gynt yn ein herlid ni, yr awron yn pregethu’r ffydd, yr hon gynt a anrheithiasai. 24 A hwy a ogoneddasant Dduw ynof fi.

Luc 7:11-17

11 A bu drannoeth, iddo ef fyned i ddinas a elwid Nain; a chydag ef yr aeth llawer o’i ddisgyblion, a thyrfa fawr. 12 A phan ddaeth efe yn agos at borth y ddinas, wele, un marw a ddygid allan, yr hwn oedd unig fab ei fam, a honno yn weddw: a bagad o bobl y ddinas oedd gyda hi. 13 A’r Arglwydd pan welodd hi, a gymerodd drugaredd arni, ac a ddywedodd wrthi, Nac wyla. 14 A phan ddaeth atynt, efe a gyffyrddodd â’r elor: a’r rhai oedd yn ei dwyn, a safasant. Ac efe a ddywedodd, Y mab ieuanc, yr wyf yn dywedyd wrthyt, Cyfod. 15 A’r marw a gyfododd yn ei eistedd, ac a ddechreuodd lefaru. Ac efe a’i rhoddes i’w fam. 16 Ac ofn a ddaeth ar bawb: a hwy a ogoneddasant Dduw, gan ddywedyd, Proffwyd mawr a gyfododd yn ein plith; ac, Ymwelodd Duw â’i bobl. 17 A’r gair hwn a aeth allan amdano trwy holl Jwdea, a thrwy gwbl o’r wlad oddi amgylch.

Beibl William Morgan (BWM)

William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.