Revised Common Lectionary (Semicontinuous)
146 Molwch yr Arglwydd. Fy enaid, mola di yr Arglwydd. 2 Molaf yr Arglwydd yn fy myw: canaf i’m Duw tra fyddwyf. 3 Na hyderwch ar dywysogion, nac ar fab dyn, yr hwn nid oes iachawdwriaeth ynddo. 4 Ei anadl a â allan, efe a ddychwel i’w ddaear: y dydd hwnnw y derfydd am ei holl amcanion ef. 5 Gwyn ei fyd yr hwn y mae Duw Jacob yn gymorth iddo, sydd â’i obaith yn yr Arglwydd ei Dduw: 6 Yr hwn a wnaeth nefoedd a daear, y môr, a’r hyn oll y sydd ynddynt: yr hwn sydd yn cadw gwirionedd yn dragywydd: 7 Yr hwn sydd yn gwneuthur barn i’r rhai gorthrymedig, yn rhoddi bara i’r newynog. Yr Arglwydd sydd yn gollwng y carcharorion yn rhydd. 8 Yr Arglwydd sydd yn agoryd llygaid y deillion: yr Arglwydd sydd yn codi y rhai a ddarostyngwyd: yr Arglwydd sydd yn hoffi y rhai cyfiawn. 9 Yr Arglwydd sydd yn cadw y dieithriaid: efe a gynnal yr amddifad a’r weddw; ac a ddadymchwel ffordd y rhai annuwiol. 10 Yr Arglwydd a deyrnasa byth, sef dy Dduw di, Seion, dros genhedlaeth a chenhedlaeth. Molwch yr Arglwydd.
17 A llefarodd yr Arglwydd wrth Moses, gan ddywedyd, 18 Llefara wrth feibion Israel, a dywed wrthynt, Pan ddeloch i’r tir yr ydwyf yn eich dwyn chwi iddo; 19 Yna pan fwytaoch o fara’r tir, y dyrchefwch offrwm dyrchafael i’r Arglwydd. 20 O flaenion eich toes yr offrymwch deisen yn offrwm dyrchafael: fel offrwm dyrchafael y llawr dyrnu, felly y dyrchefwch hithau. 21 O ddechrau eich toes y rhoddwch i’r Arglwydd offrwm dyrchafael trwy eich cenedlaethau.
22 A phan eloch dros y ffordd, ac na wneloch yr holl orchmynion hyn, y rhai a lefarodd yr Arglwydd wrth Moses, 23 Sef yr hyn oll a orchmynnodd yr Arglwydd i chwi trwy law Moses, o’r dydd y gorchmynnodd yr Arglwydd, ac o hynny allan, trwy eich cenedlaethau; 24 Yna bydded, os allan o olwg y gynulleidfa y gwnaed dim trwy anwybod, i’r holl gynulleidfa ddarparu un bustach ieuanc yn offrwm poeth, i fod yn arogl peraidd i’r Arglwydd, â’i fwyd‐offrwm, a’i ddiod‐offrwm, wrth y ddefod, ac un bwch geifr yn bech‐aberth. 25 A gwnaed yr offeiriad gymod dros holl gynulleidfa meibion Israel, a maddeuir iddynt; canys anwybodaeth yw: a dygant eu hoffrwm, aberth tanllyd i’r Arglwydd, a’u pech‐aberth, gerbron yr Arglwydd, am eu hanwybodaeth. 26 A maddeuir i holl gynulleidfa meibion Israel, ac i’r dieithr a ymdeithio yn eu mysg; canys digwyddodd i’r holl bobl trwy anwybod.
26 Ac Agripa a ddywedodd wrth Paul, Y mae cennad i ti i ddywedyd drosot dy hunan. Yna Paul a estynnodd ei law, ac a’i hamddiffynnodd ei hun. 2 Yr ydwyf yn fy nhybied fy hun yn ddedwydd, O frenin Agripa, gan fy mod yn cael fy amddiffyn fy hun ger dy fron di heddiw, am yr holl bethau yr achwynir arnaf gan yr Iddewon: 3 Yn bendifaddau gan wybod dy fod di yn gydnabyddus â’r holl ddefodau a’r holion sydd ymhlith yr Iddewon: oherwydd paham yr ydwyf yn deisyf arnat fy ngwrando i yn ddioddefgar. 4 Fy muchedd i o’m mebyd, yr hon oedd o’r dechreuad ymhlith fy nghenedl yn Jerwsalem, a ŵyr yr Iddewon oll; 5 Y rhai a’m hadwaenent i o’r dechrau, (os mynnant dystiolaethu,) mai yn ôl y sect fanylaf o’n crefydd ni y bûm i fyw yn Pharisead. 6 Ac yn awr, am obaith yr addewid a wnaed i’n tadau gan Dduw, yr wyf yn sefyll i’m barnu: 7 I’r hon addewid y mae ein deuddeg llwyth ni, heb dor yn gwasanaethu Duw nos a dydd, yn gobeithio dyfod. Am yr hwn obaith yr achwynir arnaf, O frenin Agripa, gan yr Iddewon. 8 Pa beth? ai anghredadwy y bernir gennych chwi, y cyfyd Duw y meirw? 9 Minnau yn wir a dybiais ynof fy hun, fod yn rhaid i mi wneuthur llawer o bethau yn erbyn enw Iesu o Nasareth. 10 Yr hyn hefyd a wneuthum yn Jerwsalem: a llawer o’r saint a gaeais i mewn carcharau, wedi derbyn awdurdod gan yr archoffeiriaid; ac wrth eu difetha, mi a roddais farn yn eu herbyn. 11 Ac ym mhob synagog yn fynych mi a’u cosbais hwy, ac a’u cymhellais i gablu; a chan ynfydu yn fwy yn eu herbyn, mi a’u herlidiais hyd ddinasoedd dieithr hefyd.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.