Print Page Options
Previous Prev Day Next DayNext

Revised Common Lectionary (Semicontinuous)

Daily Bible readings that follow the church liturgical year, with sequential stories told across multiple weeks.
Duration: 1245 days
Beibl William Morgan (BWM)
Version
Salmau 38

Salm Dafydd, er coffa.

38 Arglwydd, na cherydda fi yn dy lid: ac na chosba fi yn dy ddicllonedd. Canys y mae dy saethau ynglŷn ynof, a’th law yn drom arnaf. Nid oes iechyd yn fy nghnawd, oherwydd dy ddicllonedd; ac nid oes heddwch i’m hesgyrn, oblegid fy mhechod. Canys fy nghamweddau a aethant dros fy mhen: megis baich trwm y maent yn rhy drwm i mi. Fy nghleisiau a bydrasant ac a lygrasant, gan fy ynfydrwydd. Crymwyd a darostyngwyd fi yn ddirfawr: beunydd yr ydwyf yn myned yn alarus. Canys fy lwynau a lanwyd o ffieiddglwyf; ac nid oes iechyd yn fy nghnawd. Gwanhawyd, a drylliwyd fi yn dra mawr: rhuais gan aflonyddwch fy nghalon. O’th flaen di, Arglwydd, y mae fy holl ddymuniad; ac ni chuddiwyd fy uchenaid oddi wrthyt. 10 Fy nghalon sydd yn llamu; fy nerth a’m gadawodd; a llewyrch fy llygaid nid yw chwaith gennyf. 11 Fy ngharedigion a’m cyfeillion a safent oddi ar gyfer fy mhla; a’m cyfneseifiaid a safent o hirbell. 12 Y rhai hefyd a geisient fy einioes, a osodasent faglau; a’r rhai a geisient fy niwed, a draethent anwireddau, ac a ddychmygent ddichellion ar hyd y dydd. 13 A minnau fel byddar ni chlywn; eithr oeddwn fel mudan heb agoryd ei enau. 14 Felly yr oeddwn fel gŵr ni chlywai, ac heb argyhoeddion yn ei enau. 15 Oherwydd i mi obeithio ynot, Arglwydd; ti, Arglwydd fy Nuw, a wrandewi. 16 Canys dywedais, Gwrando fi, rhag llawenychu ohonynt i’m herbyn: pan lithrai fy nhroed, ymfawrygent i’m herbyn. 17 Canys parod wyf i gloffi, a’m dolur sydd ger fy mron yn wastad. 18 Diau y mynegaf fy anwiredd, ac y pryderaf oherwydd fy mhechod. 19 Ac y mae fy ngelynion yn fyw, ac yn gedyrn: amlhawyd hefyd y rhai a’m casânt ar gam. 20 A’r rhai a dalant ddrwg dros dda, a’m gwrthwynebant; am fy mod yn dilyn daioni. 21 Na ad fi, O Arglwydd: fy Nuw, nac ymbellha oddi wrthyf. 22 Brysia i’m cymorth, O Arglwydd fy iachawdwriaeth.

Galarnad 5

Cofia, O Arglwydd, beth a ddaeth i ni: edrych a gwêl ein gwaradwydd. Ein hetifeddiaeth ni a drowyd i estroniaid, a’n tai i ddieithriaid. Amddifaid ydym heb dadau; ein mamau sydd megis gweddwon. Yr ydym yn yfed ein dwfr am arian; ein coed sydd yn dyfod am werth. Ein gwarrau sydd dan erlid; llafurio yr ydym, nid oes gorffwystra i ni. Rhoesom ein llaw i’r Eifftiaid, i’r Asyriaid, i gael digon o fara. Ein tadau a bechasant, ac nid ydynt: ninnau sydd yn dwyn eu cosb hwynt. Gweision sydd yn llywodraethu arnom ni, heb fod a’n gwaredo o’u llaw hwynt. Mewn enbydrwydd am ein heinioes y dygasom ein bara i mewn, oherwydd cleddyf yr anialwch. 10 Ein croen a dduodd fel ffwrn, gan y newyn tost. 11 Hwy a dreisiasant y gwragedd yn Seion, a’r morynion yn ninasoedd Jwda. 12 Crogasant dywysogion â’u dwylo; ni pherchid wynebau yr hynafgwyr. 13 Hwy a gymerasant y gwŷr ieuainc i falu; a’r plant a syrthiasant dan y coed. 14 Yr hynafgwyr a beidiasant â’r porth; y gwŷr ieuainc â’u cerdd. 15 Darfu llawenydd ein calon: ein dawns a drodd yn alar. 16 Syrthiodd y goron oddi am ein pen: gwae ni yn awr bechu ohonom! 17 Am hyn y mae ein calon yn ofidus; am hyn y tywyllodd ein llygaid. 18 Oherwydd mynydd Seion, yr hwn a anrheithiwyd, y mae y llwynogod yn rhodio ynddo. 19 Ti, Arglwydd, a barhei byth; dy orseddfainc yn oes oesoedd. 20 Paham yr anghofi ni byth, ac y gadewi ni dros hir ddyddiau? 21 Dychwel ni, O Arglwydd, atat ti, a ni a ddychwelir: adnewydda ein dyddiau megis cynt. 22 Eithr ti a’n llwyr wrthodaist ni: ti a ddigiaist wrthym ni yn ddirfawr.

Ioan 5:19-29

19 Yna yr Iesu a atebodd ac a ddywedodd wrthynt, Yn wir, yn wir, meddaf i chwi, Ni ddichon y Mab wneuthur dim ohono ei hunan, eithr yr hyn a welo efe y Tad yn ei wneuthur: canys beth bynnag y mae efe yn ei wneuthur, hynny hefyd y mae’r Mab yr un ffunud yn ei wneuthur. 20 Canys y Tad sydd yn caru’r Mab, ac yn dangos iddo yr hyn oll y mae efe yn ei wneuthur: ac efe a ddengys iddo ef weithredoedd mwy na’r rhai hyn, fel y rhyfeddoch chwi. 21 Oblegid megis y mae’r Tad yn cyfodi’r rhai meirw, ac yn eu bywhau; felly hefyd y mae’r Mab yn bywhau y rhai a fynno. 22 Canys y Tad nid yw yn barnu neb; eithr efe a roddes bob barn i’r Mab: 23 Fel yr anrhydeddai pawb y Mab, fel y maent yn anrhydeddu’r Tad. Yr hwn nid yw yn anrhydeddu’r Mab, nid yw yn anrhydeddu’r Tad yr hwn a’i hanfonodd ef. 24 Yn wir, yn wir, meddaf i chwi, Y neb sydd yn gwrando fy ngair i, ac yn credu i’r hwn a’m hanfonodd i, a gaiff fywyd tragwyddol, ac ni ddaw i farn; eithr efe a aeth trwodd o farwolaeth i fywyd. 25 Yn wir, yn wir, meddaf i chwi, Y mae’r awr yn dyfod, ac yn awr y mae, pan glywo’r meirw lef Mab Duw: a’r rhai a glywant, a fyddant byw. 26 Canys megis y mae gan y Tad fywyd ynddo ei hunan, felly y rhoddes efe i’r Mab hefyd fod ganddo fywyd ynddo ei hun; 27 Ac a roddes awdurdod iddo i wneuthur barn hefyd, oherwydd ei fod yn Fab dyn. 28 Na ryfeddwch am hyn: canys y mae’r awr yn dyfod, yn yr hon y caiff pawb a’r sydd yn y beddau glywed ei leferydd ef: 29 A hwy a ddeuant allan: y rhai a wnaethant dda, i atgyfodiad bywyd; ond y rhai a wnaethant ddrwg, i atgyfodiad barn.

Beibl William Morgan (BWM)

William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.