Revised Common Lectionary (Semicontinuous)
Salm Dafydd.
103 Fy enaid, bendithia yr Arglwydd; a chwbl sydd ynof, ei enw sanctaidd ef. 2 Fy enaid, bendithia yr Arglwydd; ac nac anghofia ei holl ddoniau ef: 3 Yr hwn sydd yn maddau dy holl anwireddau; yr hwn sydd yn iacháu dy holl lesgedd: 4 Yr hwn sydd yn gwaredu dy fywyd o ddistryw: yr hwn sydd yn dy goroni â thrugaredd ac â thosturi: 5 Yr hwn sydd yn diwallu dy enau â daioni; fel yr adnewyddir dy ieuenctid fel yr eryr. 6 Yr Arglwydd sydd yn gwneuthur cyfiawnder a barn i’r rhai gorthrymedig oll. 7 Hysbysodd ei ffyrdd i Moses; ei weithredoedd i feibion Israel. 8 Trugarog a graslon yw yr Arglwydd; hwyrfrydig i lid, a mawr o drugarowgrwydd. 9 Nid byth yr ymryson efe: ac nid byth y ceidw efe ei ddigofaint. 10 Nid yn ôl ein pechodau y gwnaeth efe â ni; ac nid yn ôl ein hanwireddau y talodd efe i ni. 11 Canys cyfuwch ag yw y nefoedd uwchlaw y ddaear, y rhagorodd ei drugaredd ef ar y rhai a’i hofnant ef. 12 Cyn belled ag yw y dwyrain oddi wrth y gorllewin, y pellhaodd efe ein camweddau oddi wrthym. 13 Fel y tosturia tad wrth ei blant, felly y tosturia yr Arglwydd wrth y rhai a’i hofnant ef.
22 Bendithiwch yr Arglwydd, ei holl weithredoedd ef, ym mhob man o’i lywodraeth: fy enaid, bendithia yr Arglwydd.
53 Pan ddychwelwyf eu caethiwed hwynt, caethiwed Sodom a’i merched, a chaethiwed Samaria a’i merched, yna y dychwelaf gaethiwed dy gaethion dithau a’th ferched yn eu canol hwynt: 54 Fel y dygech dy warth, ac y’th waradwydder, am yr hyn oll a wnaethost, gan gysuro ohonot hwynt. 55 Pan ddychwelo dy chwiorydd, Sodom a’i merched, i’w hen gyflwr, a phan ddychwelo Samaria a’i merched i’w hen gyflwr, yna tithau a’th ferched a ddychwelwch i’ch hen gyflwr. 56 Canys nid oedd mo’r sôn am Sodom dy chwaer yn dy enau yn nydd dy falchder, 57 Cyn datguddio dy ddrygioni, megis yn amser dy waradwydd gan ferched Syria, a’r holl rai o’i hamgylch, merched y Philistiaid, y rhai a’th ddiystyrant o bob parth. 58 Dy ysgelerder, a’th ffieidd‐dra hefyd, ti a’u dygaist hwynt, medd yr Arglwydd. 59 Canys fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw; Felly y gwnaf â thi fel y gwnaethost, yr hon a ddiystyraist lw, i ddiddymu’r cyfamod.
60 Eto mi a gofiaf fy nghyfamod â thi yn nyddiau dy ieuenctid, ac a sicrhaf i ti gyfamod tragwyddol. 61 Yna y cofi dy ffyrdd, ac y cywilyddi, pan dderbyniech dy chwiorydd hŷn na thi, gyda’r rhai ieuangach na thi: a rhoddaf hwynt yn ferched i ti, a hynny nid wrth dy amod di. 62 A mi a sicrhaf fy nghyfamod â thi; a chei wybod mai myfi yw yr Arglwydd: 63 Fel y cofiech di, ac y cywilyddiech, ac na byddo i ti mwy agoryd safn gan dy waradwydd, pan ddyhudder fi tuag atat, am yr hyn oll a wnaethost, medd yr Arglwydd Dduw.
53 A phob un a aeth i’w dŷ ei hun.
8 A’r Iesu a aeth i fynydd yr Olewydd: 2 Ac a ddaeth drachefn y bore i’r deml; a’r holl bobl a ddaeth ato ef: yntau a eisteddodd, ac a’u dysgodd hwynt. 3 A’r ysgrifenyddion a’r Phariseaid a ddygasant ato ef wraig, yr hon a ddaliesid mewn godineb; ac wedi ei gosod hi yn y canol, 4 Hwy a ddywedasant wrtho, Athro, y wraig hon a ddaliwyd ar y weithred yn godinebu. 5 A Moses yn y gyfraith a orchmynnodd i ni labyddio’r cyfryw: beth gan hynny yr wyt ti yn ei ddywedyd? 6 A hyn a ddywedasant hwy, gan ei demtio ef, fel y gallent ei gyhuddo ef. Eithr yr Iesu, wedi ymgrymu tua’r llawr, a ysgrifennodd â’i fys ar y ddaear, heb gymryd arno eu clywed. 7 Ond fel yr oeddynt hwy yn parhau yn gofyn iddo, efe a ymunionodd, ac a ddywedodd wrthynt, Yr hwn sydd ddibechod ohonoch, tafled yn gyntaf garreg ati hi. 8 Ac wedi iddo eilwaith ymgrymu tua’r llawr, efe a ysgrifennodd ar y ddaear. 9 Hwythau, pan glywsant hyn, wedi hefyd eu hargyhoeddi gan eu cydwybod, a aethant allan o un i un, gan ddechrau o’r hynaf hyd yr olaf: a gadawyd yr Iesu yn unig, a’r wraig yn sefyll yn y canol. 10 A’r Iesu wedi ymunioni, ac heb weled neb ond y wraig, a ddywedodd wrthi, Ha wraig, pa le y mae dy gyhuddwyr di? oni chondemniodd neb di? 11 Hithau a ddywedodd, Naddo neb, Arglwydd. A dywedodd yr Iesu wrthi, Nid wyf finnau yn dy gondemnio di: dos, ac na phecha mwyach.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.