Revised Common Lectionary (Complementary)
5 Gwyn ei fyd yr hwn y mae Duw Jacob yn gymorth iddo, sydd â’i obaith yn yr Arglwydd ei Dduw: 6 Yr hwn a wnaeth nefoedd a daear, y môr, a’r hyn oll y sydd ynddynt: yr hwn sydd yn cadw gwirionedd yn dragywydd: 7 Yr hwn sydd yn gwneuthur barn i’r rhai gorthrymedig, yn rhoddi bara i’r newynog. Yr Arglwydd sydd yn gollwng y carcharorion yn rhydd. 8 Yr Arglwydd sydd yn agoryd llygaid y deillion: yr Arglwydd sydd yn codi y rhai a ddarostyngwyd: yr Arglwydd sydd yn hoffi y rhai cyfiawn. 9 Yr Arglwydd sydd yn cadw y dieithriaid: efe a gynnal yr amddifad a’r weddw; ac a ddadymchwel ffordd y rhai annuwiol. 10 Yr Arglwydd a deyrnasa byth, sef dy Dduw di, Seion, dros genhedlaeth a chenhedlaeth. Molwch yr Arglwydd.
2 A Hanna a weddïodd, ac a ddywedodd, Llawenychodd fy nghalon yn yr Arglwydd; fy nghorn a ddyrchafwyd yn yr Arglwydd: fy ngenau a ehangwyd ar fy ngelynion: canys llawenychais yn dy iachawdwriaeth di. 2 Nid sanctaidd neb fel yr Arglwydd; canys nid dim hebot ti: ac nid oes graig megis ein Duw ni. 3 Na chwanegwch lefaru yn uchel uchel; na ddeued allan ddim balch o’ch genau: canys Duw gwybodaeth yw yr Arglwydd, a’i amcanion ef a gyflawnir. 4 Bwâu y cedyrn a dorrwyd, a’r gweiniaid a ymwregysasant â nerth. 5 Y rhai digonol a ymgyflogasant er bara; a’r rhai newynog a beidiasant; hyd onid esgorodd yr amhlantadwy ar saith, a llesgáu yr aml ei meibion. 6 Yr Arglwydd sydd yn marwhau, ac yn bywhau: efe sydd yn dwyn i waered i’r bedd, ac yn dwyn i fyny. 7 Yr Arglwydd sydd yn tlodi, ac yn cyfoethogi; yn darostwng, ac yn dyrchafu. 8 Efe sydd yn cyfodi’r tlawd o’r llwch, ac yn dyrchafu’r anghenus o’r tomennau, i’w gosod gyda thywysogion, ac i beri iddynt etifeddu teyrngadair gogoniant: canys eiddo yr Arglwydd colofnau y ddaear, ac efe a osododd y byd arnynt.
3 Yn y bymthegfed flwyddyn o ymerodraeth Tiberius Cesar, a Phontius Peilat yn rhaglaw Jwdea, a Herod yn detrarch Galilea, a’i frawd Philip yn detrarch Iturea a gwlad Trachonitis, a Lysanias yn detrarch Abilene, 2 Dan yr archoffeiriaid Annas a Chaiaffas, y daeth gair Duw at Ioan, mab Sachareias, yn y diffeithwch. 3 Ac efe a ddaeth i bob goror ynghylch yr Iorddonen, gan bregethu bedydd edifeirwch er maddeuant pechodau; 4 Fel y mae yn ysgrifenedig yn llyfr ymadroddion Eseias y proffwyd, yr hwn sydd yn dywedyd, Llef un yn llefain yn y diffeithwch, Paratowch ffordd yr Arglwydd, gwnewch ei lwybrau ef yn union. 5 Pob pant a lenwir, a phob mynydd a bryn a ostyngir, a’r gŵyrgeimion a wneir yn union, a’r geirwon yn ffyrdd gwastad: 6 A phob cnawd a wêl iachawdwriaeth Duw. 7 Am hynny efe a ddywedodd wrth y bobl oedd yn dyfod i’w bedyddio ganddo, O genhedlaeth gwiberod, pwy a’ch rhagrybuddiodd chwi i ffoi oddi wrth y digofaint sydd ar ddyfod? 8 Dygwch gan hynny ffrwythau addas i edifeirwch; ac na ddechreuwch ddywedyd ynoch eich hunain, Y mae gennym ni Abraham yn dad: canys yr ydwyf yn dywedyd i chwi, y dichon Duw o’r cerrig hyn godi plant i Abraham. 9 Ac yr awr hon y mae’r fwyell wedi ei gosod ar wreiddyn y prennau: pob pren gan hynny a’r nid yw yn dwyn ffrwyth da, a gymynir i lawr, ac a fwrir yn tân. 10 A’r bobloedd a ofynasant iddo, gan ddywedyd, Pa beth gan hynny a wnawn ni? 11 Ac efe a atebodd ac a ddywedodd wrthynt, Y neb sydd ganddo ddwy bais, rhodded i’r neb sydd heb yr un; a’r neb sydd ganddo fwyd, gwnaed yr un modd. 12 A’r publicanod hefyd a ddaethant i’w bedyddio, ac a ddywedasant wrtho, Athro, beth a wnawn ni? 13 Ac efe a ddywedodd wrthynt, Na cheisiwch ddim mwy nag sydd wedi ei osod i chwi. 14 A’r milwyr hefyd a ofynasant iddo, gan ddywedyd, A pha beth a wnawn ninnau? Ac efe a ddywedodd wrthynt, Na fyddwch draws wrth neb, ac na cham-achwynwch ar neb; a byddwch fodlon i’ch cyflogau. 15 Ac fel yr oedd y bobl yn disgwyl, a phawb yn meddylied yn eu calonnau am Ioan, ai efe oedd y Crist; 16 Ioan a atebodd, gan ddywedyd wrthynt oll, Myfi yn ddiau ydwyf yn eich bedyddio chwi â dwfr: ond y mae un cryfach na myfi yn dyfod, yr hwn nid wyf fi deilwng i ddatod carrai ei esgidiau: efe a’ch bedyddia chwi â’r Ysbryd Glân, ac â thân. 17 Yr hwn y mae ei wyntyll yn ei law, ac efe a lwyr lanha ei lawr dyrnu, ac a gasgl y gwenith i’w ysgubor; ond yr us a lysg efe â thân anniffoddadwy. 18 A llawer o bethau eraill a gynghorodd efe, ac a bregethodd i’r bobl.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.