Revised Common Lectionary (Complementary)
Salm Dafydd.
24 Eiddo yr Arglwydd y ddaear, a’i chyflawnder; y byd, ac a breswylia ynddo. 2 Canys efe a’i seiliodd ar y moroedd, ac a’i sicrhaodd ar yr afonydd. 3 Pwy a esgyn i fynydd yr Arglwydd? a phwy a saif yn ei le sanctaidd ef? 4 Y glân ei ddwylo, a’r pur ei galon; yr hwn ni ddyrchafodd ei feddwl at wagedd, ac ni thyngodd i dwyllo. 5 Efe a dderbyn fendith gan yr Arglwydd, a chyfiawnder gan Dduw ei iachawdwriaeth. 6 Dyma genhedlaeth y rhai a’i ceisiant ef, y rhai a geisiant dy wyneb di, O Jacob. Sela. 7 O byrth, dyrchefwch eich pennau; ac ymddyrchefwch, ddrysau tragwyddol; a Brenin y gogoniant a ddaw i mewn. 8 Pwy yw y Brenin gogoniant hwn? yr Arglwydd nerthol a chadarn, yr Arglwydd cadarn mewn rhyfel. 9 O byrth, dyrchefwch eich pennau; ac ymddyrchefwch, ddrysau tragwyddol; a Brenin y gogoniant a ddaw i mewn. 10 Pwy yw y Brenin gogoniant hwn? Arglwydd y lluoedd, efe yw Brenin y gogoniant. Sela.
18 Fel mai byw fi, medd y Brenin, enw yr hwn yw Arglwydd y lluoedd, cyn sicred â bod Tabor yn y mynyddoedd, a Charmel yn y môr, efe a ddaw. 19 O ferch drigiannol yr Aifft, gwna i ti offer caethglud; canys Noff a fydd anghyfannedd, ac a ddifethir heb breswylydd. 20 Yr Aifft sydd anner brydferth, y mae dinistr yn dyfod: o’r gogledd y mae yn dyfod. 21 Ei gwŷr cyflog hefyd sydd o’i mewn hi fel lloi pasgedig: canys hwythau hefyd a droesant eu hwynebau, ac a gydffoesant; ac ni safasant, oherwydd dydd eu gofid, ac amser eu gofwy a ddaethai arnynt. 22 Ei llais hi a â allan fel sarff: canys â llu yr ânt hwy, ac â bwyeill y deuant yn ei herbyn hi, fel cymynwyr coed. 23 Hwy a gymynant i lawr ei choed hi, medd yr Arglwydd, er na ellir ei chwilio: canys amlach fyddant na’r ceiliogod rhedyn, ac heb rifedi arnynt. 24 Merch yr Aifft a gywilyddir; hi a roddir yn llaw pobl y gogledd. 25 Arglwydd y lluoedd, Duw Israel, sydd yn dywedyd, Wele, myfi a ymwelaf â lliaws No, ac â Pharo, ac â’r Aifft, ac â’i duwiau hi, ac â’i brenhinoedd, sef â Pharo, ac â’r rhai sydd yn ymddiried ynddo; 26 A mi a’u rhoddaf hwynt yn llaw y rhai sydd yn ceisio eu heinioes, ac yn llaw Nebuchodonosor brenin Babilon, ac yn llaw ei weision ef; ac wedi hynny hi a gyfanheddir megis y dyddiau gynt, medd yr Arglwydd.
27 Ond nac ofna di, O fy ngwas Jacob; a thithau Israel, na ddychryna; canys wele, myfi a’th gadwaf di o bell, a’th had o wlad eu caethiwed; a Jacob a ddychwel, ac a orffwys, ac a fydd esmwyth arno, ac heb neb a’i dychryno. 28 O fy ngwas Jacob, nac ofna, medd yr Arglwydd; canys yr ydwyf fi gyda thi; canys mi a wnaf ddiben ar yr holl genhedloedd y rhai y’th fwriais atynt; ond ni wnaf fi ddiben arnat ti; eithr mi a’th gosbaf di mewn barn, ac ni’th dorraf ymaith yn llwyr.
5 A dywedodd yr hwn oedd yn eistedd ar yr orseddfainc, Wele, yr wyf yn gwneuthur pob peth yn newydd. Ac efe a ddywedodd wrthyf, Ysgrifenna: canys y mae’r geiriau hyn yn gywir ac yn ffyddlon. 6 Ac efe a ddywedodd wrthyf, Darfu. Myfi yw Alffa ac Omega, y dechrau a’r diwedd. I’r hwn sydd sychedig y rhoddaf o ffynnon dwfr y bywyd yn rhad. 7 Yr hwn sydd yn gorchfygu, a etifedda bob peth: ac mi a fyddaf iddo ef yn Dduw, ac yntau a fydd i minnau yn fab. 8 Ond i’r rhai ofnog, a’r di-gred, a’r ffiaidd, a’r llofruddion, a’r puteinwyr, a’r swyn-gyfareddwyr, a’r eilun-addolwyr, a’r holl gelwyddwyr, y bydd eu rhan yn y llyn sydd yn llosgi â thân a brwmstan: yr hwn yw’r ail farwolaeth. 9 A daeth ataf un o’r saith angel yr oedd y saith ffiol ganddynt yn llawn o’r saith bla diwethaf, ac a ymddiddanodd â mi, gan ddywedyd, Tyred, mi a ddangosaf i ti’r briodasferch, gwraig yr Oen. 10 Ac efe a’m dug i ymaith yn yr ysbryd i fynydd mawr ac uchel, ac a ddangosodd i mi’r ddinas fawr, Jerwsalem sanctaidd, yn disgyn allan o’r nef oddi wrth Dduw, 11 A gogoniant Duw ganddi: a’i golau hi oedd debyg i faen o’r gwerthfawrocaf, megis maen iasbis, yn loyw fel grisial; 12 Ac iddi fur mawr ac uchel, ac iddi ddeuddeg porth, ac wrth y pyrth ddeuddeg angel, ac enwau wedi eu hysgrifennu arnynt, y rhai yw enwau deuddeg llwyth plant Israel. 13 O du’r dwyrain, tri phorth; o du’r gogledd, tri phorth; o du’r deau, tri phorth; o du’r gorllewin, tri phorth. 14 Ac yr oedd mur y ddinas â deuddeg sylfaen iddo, ac ynddynt enwau deuddeg apostol yr Oen. 15 A’r hwn oedd yn ymddiddan â mi, oedd â chorsen aur ganddo, i fesuro’r ddinas, a’i phyrth hi, a’i mur. 16 A’r ddinas sydd wedi ei gosod yn bedeirongl, a’i hyd sydd gymaint â’i lled. Ac efe a fesurodd y ddinas â’r gorsen, yn ddeuddeng mil o ystadau. A’i hyd, a’i lled, a’i huchder, sydd yn ogymaint. 17 Ac efe a fesurodd ei mur hi yn gant a phedwar cufydd a deugain, wrth fesur dyn, hynny yw, eiddo’r angel. 18 Ac adeilad ei mur hi oedd o faen iasbis: a’r ddinas oedd aur pur, yn debyg i wydr gloyw. 19 A seiliau mur y ddinas oedd wedi eu harddu â phob rhyw faen gwerthfawr. Y sail cyntaf oedd faen iasbis; yr ail, saffir; y trydydd, chalcedon; y pedwerydd, smaragdus; 20 Y pumed, sardonycs; y chweched, sardius; y seithfed, chrysolithus; yr wythfed, beryl; y nawfed, topasion; y degfed, chrysoprasus; yr unfed ar ddeg, hyacinthus; y deuddegfed, amethystus. 21 A’r deuddeg porth, deuddeg perl oeddynt; a phob un o’r pyrth oedd o un perl: a heol y ddinas oedd aur pur, fel gwydr gloyw. 22 A theml ni welais ynddi: canys yr Arglwydd Dduw Hollalluog, a’r Oen, yw ei theml hi. 23 A’r ddinas nid rhaid iddi wrth yr haul, na’r lleuad, i oleuo ynddi: canys gogoniant Duw a’i goleuodd hi, a’i goleuni hi ydyw’r Oen. 24 A chenhedloedd y rhai cadwedig a rodiant yn ei goleuni hi: ac y mae brenhinoedd y ddaear yn dwyn eu gogoniant a’u hanrhydedd iddi hi. 25 A’i phyrth hi ni chaeir ddim y dydd: canys ni bydd nos yno. 26 A hwy a ddygant ogoniant ac anrhydedd y cenhedloedd iddi hi. 27 Ac nid â i mewn iddi ddim aflan, nac yn gwneuthur ffieidd-dra, na chelwydd: ond y rhai sydd wedi eu hysgrifennu yn llyfr bywyd yr Oen.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.