Revised Common Lectionary (Complementary)
Caniad y graddau.
123 Atat ti y dyrchafaf fy llygaid, ti yr hwn a breswyli yn y nefoedd. 2 Wele, fel y mae llygaid gweision ar law eu meistriaid, neu fel y mae llygaid llawforwyn ar law ei meistres; felly y mae ein llygaid ni ar yr Arglwydd ein Duw, hyd oni thrugarhao efe wrthym ni. 3 Trugarha wrthym, Arglwydd, trugarha wrthym; canys llanwyd ni â dirmyg yn ddirfawr. 4 Yn ddirfawr y llanwyd ein henaid â gwatwargerdd y rhai goludog, ac â diystyrwch y beilchion.
25 Yna Bildad y Suhiad a atebodd ac a ddywedodd, 2 Arglwyddiaeth ac ofn sydd gydag ef: y mae efe yn gwneuthur heddwch yn ei uchelfannau. 3 A oes gyfrif o’i luoedd ef? ac ar bwy ni chyfyd ei oleuni? 4 Pa fodd y cyfiawnheir dyn gyda Duw? neu pa fodd y bydd yr hwn a aned o wraig yn lân? 5 Wele hyd yn oed y lleuad, ac ni lewyrcha hi; a’r sêr nid ydynt bur yn ei olwg ef: 6 Pa faint llai dyn, yr hwn sydd bryf; a mab dyn, yr hwn sydd abwydyn?
26 A Job a atebodd ac a ddywedodd, 2 Pwy a gynorthwyaist ti? ai y di‐nerth? a achubaist ti y braich sydd heb gadernid? 3 Pa fodd y cynghoraist ti yr annoeth? ac y mynegaist yn helaeth y peth fel y mae? 4 Wrth bwy y mynegaist ymadroddion? ac ysbryd pwy a ddaeth allan ohonot ti? 5 Pethau meirw a lunnir oddi tan y dyfroedd, a’r rhai sydd yn trigo ynddynt hwy. 6 Y mae uffern yn noeth ger ei fron ef: ac nid oes do ar ddistryw. 7 Y mae efe yn taenu’r gogledd ar y gwagle: y mae efe yn crogi’r ddaear ar ddiddim. 8 Y mae efe yn rhwymo’r dyfroedd yn ei gymylau; ac nid ydyw y cwmwl yn hollti danynt hwy. 9 Y mae efe yn atal wyneb ei orseddfainc: y mae efe yn taenu ei gwmwl arni hi. 10 Efe a amgylchodd wyneb y dyfroedd â therfynau, nes dibennu goleuni a thywyllwch. 11 Y mae colofnau y nefoedd yn crynu, ac yn synnu wrth ei gerydd ef. 12 Efe a ranna y môr â’i nerth; ac a dery falchder â’i ddoethineb. 13 Efe a addurnodd y nefoedd â’i ysbryd: ei law ef a luniodd y sarff dorchog. 14 Wele, dyma rannau ei ffyrdd ef: ond mor fychan ydyw y peth yr ydym ni yn ei glywed amdano ef! ond pwy a ddeall daranau ei gadernid ef?
19 Yna yr Iesu a atebodd ac a ddywedodd wrthynt, Yn wir, yn wir, meddaf i chwi, Ni ddichon y Mab wneuthur dim ohono ei hunan, eithr yr hyn a welo efe y Tad yn ei wneuthur: canys beth bynnag y mae efe yn ei wneuthur, hynny hefyd y mae’r Mab yr un ffunud yn ei wneuthur. 20 Canys y Tad sydd yn caru’r Mab, ac yn dangos iddo yr hyn oll y mae efe yn ei wneuthur: ac efe a ddengys iddo ef weithredoedd mwy na’r rhai hyn, fel y rhyfeddoch chwi. 21 Oblegid megis y mae’r Tad yn cyfodi’r rhai meirw, ac yn eu bywhau; felly hefyd y mae’r Mab yn bywhau y rhai a fynno. 22 Canys y Tad nid yw yn barnu neb; eithr efe a roddes bob barn i’r Mab: 23 Fel yr anrhydeddai pawb y Mab, fel y maent yn anrhydeddu’r Tad. Yr hwn nid yw yn anrhydeddu’r Mab, nid yw yn anrhydeddu’r Tad yr hwn a’i hanfonodd ef. 24 Yn wir, yn wir, meddaf i chwi, Y neb sydd yn gwrando fy ngair i, ac yn credu i’r hwn a’m hanfonodd i, a gaiff fywyd tragwyddol, ac ni ddaw i farn; eithr efe a aeth trwodd o farwolaeth i fywyd. 25 Yn wir, yn wir, meddaf i chwi, Y mae’r awr yn dyfod, ac yn awr y mae, pan glywo’r meirw lef Mab Duw: a’r rhai a glywant, a fyddant byw. 26 Canys megis y mae gan y Tad fywyd ynddo ei hunan, felly y rhoddes efe i’r Mab hefyd fod ganddo fywyd ynddo ei hun; 27 Ac a roddes awdurdod iddo i wneuthur barn hefyd, oherwydd ei fod yn Fab dyn. 28 Na ryfeddwch am hyn: canys y mae’r awr yn dyfod, yn yr hon y caiff pawb a’r sydd yn y beddau glywed ei leferydd ef: 29 A hwy a ddeuant allan: y rhai a wnaethant dda, i atgyfodiad bywyd; ond y rhai a wnaethant ddrwg, i atgyfodiad barn.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.