Revised Common Lectionary (Complementary)
111 Molwch yr Arglwydd. Clodforaf yr Arglwydd â’m holl galon, yng nghymanfa y rhai uniawn, ac yn y gynulleidfa. 2 Mawr yw gweithredoedd yr Arglwydd, wedi eu ceisio gan bawb a’u hoffant. 3 Gogoniant a harddwch yw ei waith ef; a’i gyfiawnder sydd yn parhau byth. 4 Gwnaeth gofio ei ryfeddodau: graslon a thrugarog yw yr Arglwydd. 5 Rhoddodd ymborth i’r rhai a’i hofnant ef: efe a gofia ei gyfamod yn dragywydd. 6 Mynegodd i’w bobl gadernid ei weithredoedd, i roddi iddynt etifeddiaeth y cenhedloedd. 7 Gwirionedd a barn yw gweithredoedd ei ddwylo ef: ei holl orchmynion ydynt sicr: 8 Wedi eu sicrhau byth ac yn dragywydd, a’u gwneuthur mewn gwirionedd ac uniawnder. 9 Anfonodd ymwared i’w bobl: gorchmynnodd ei gyfamod yn dragwyddol: sancteiddiol ac ofnadwy yw ei enw ef. 10 Dechreuad doethineb yw ofn yr Arglwydd: deall da sydd gan y rhai a wnânt ei orchmynion ef: y mae ei foliant ef yn parhau byth.
12 Llefarodd Miriam hefyd ac Aaron yn erbyn Moses, o achos y wraig o Ethiopia yr hon a briodasai efe: canys efe a gymerasai Ethiopes yn wraig. 2 A dywedasant, Ai yn unig trwy Moses y llefarodd yr Arglwydd? oni lefarodd efe trwom ninnau hefyd? A’r Arglwydd a glybu hynny. 3 A’r gŵr Moses ydoedd larieiddiaf o’r holl ddynion oedd ar wyneb y ddaear. 4 A dywedodd yr Arglwydd yn ddisymwth wrth Moses, ac wrth Aaron, ac wrth Miriam, Deuwch allan eich trioedd i babell y cyfarfod. A hwy a aethant allan ill trioedd. 5 Yna y disgynnodd yr Arglwydd yng ngholofn y cwmwl, ac a safodd wrth ddrws y babell, ac a alwodd Aaron a Miriam. A hwy a aethant allan ill dau. 6 Ac efe a ddywedodd, Gwrandewch yr awr hon fy ngeiriau. Os bydd proffwyd yr Arglwydd yn eich mysg, mewn gweledigaeth yr ymhysbysaf iddo, neu mewn breuddwyd y llefaraf wrtho. 7 Nid felly y mae fy ngwas Moses, yr hwn sydd ffyddlon yn fy holl dŷ. 8 Wyneb yn wyneb y llefaraf wrtho, mewn gwelediad, nid mewn damhegion; ond caiff edrych ar wedd yr Arglwydd: paham gan hynny nad oeddech yn ofni dywedyd yn erbyn fy ngwas, sef yn erbyn Moses? 9 A digofaint yr Arglwydd a enynnodd yn eu herbyn hwynt; ac efe a aeth ymaith. 10 A’r cwmwl a ymadawodd oddi ar y babell: ac wele, Miriam ydoedd wahanglwyfus, fel yr eira. Ac edrychodd Aaron ar Miriam; ac wele hi yn wahanglwyfus. 11 Yna y dywedodd Aaron wrth Moses, O fy arglwydd, atolwg, na osod yn ein herbyn y pechod yr hwn yn ynfyd a wnaethom, a thrwy yr hwn y pechasom. 12 Na fydded hi, atolwg, fel un marw, yr hwn y bydd hanner ei gnawd wedi ei ddifa pan ddêl allan o groth ei fam. 13 A Moses a waeddodd ar yr Arglwydd, gan ddywedyd, O Dduw, atolwg, meddyginiaetha hi yr awr hon.
14 A dywedodd yr Arglwydd wrth Moses, Os ei thad a boerai yn ei hwyneb, oni chywilyddiai hi saith niwrnod? caeer arni saith niwrnod o’r tu allan i’r gwersyll ac wedi hynny derbynier hi. 15 A chaewyd ar Miriam o’r tu allan i’r gwersyll saith niwrnod: a’r bobl ni chychwynnodd hyd oni ddaeth Miriam i mewn drachefn.
12 A bu, fel yr oedd efe mewn rhyw ddinas, wele ŵr yn llawn o’r gwahanglwyf: a phan welodd efe yr Iesu, efe a syrthiodd ar ei wyneb, ac a ymbiliodd ag ef, gan ddywedyd, O Arglwydd, os ewyllysi, ti a elli fy nglanhau. 13 Yntau a estynnodd ei law, ac a gyffyrddodd ag ef, gan ddywedyd, Yr wyf yn ewyllysio; bydd lân. Ac yn ebrwydd y gwahanglwyf a aeth ymaith oddi wrtho. 14 Ac efe a orchmynnodd iddo na ddywedai i neb: eithr dos ymaith, a dangos dy hun i’r offeiriad, ac offrwm dros dy lanhad, fel y gorchmynnodd Moses, er tystiolaeth iddynt. 15 A’r gair amdano a aeth yn fwy ar led: a llawer o bobloedd a ddaethant ynghyd i’w wrando ef, ac i’w hiacháu ganddo o’u clefydau.
16 Ac yr oedd efe yn cilio o’r neilltu yn y diffeithwch, ac yn gweddïo.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.