Revised Common Lectionary (Complementary)
111 Molwch yr Arglwydd. Clodforaf yr Arglwydd â’m holl galon, yng nghymanfa y rhai uniawn, ac yn y gynulleidfa. 2 Mawr yw gweithredoedd yr Arglwydd, wedi eu ceisio gan bawb a’u hoffant. 3 Gogoniant a harddwch yw ei waith ef; a’i gyfiawnder sydd yn parhau byth. 4 Gwnaeth gofio ei ryfeddodau: graslon a thrugarog yw yr Arglwydd. 5 Rhoddodd ymborth i’r rhai a’i hofnant ef: efe a gofia ei gyfamod yn dragywydd. 6 Mynegodd i’w bobl gadernid ei weithredoedd, i roddi iddynt etifeddiaeth y cenhedloedd. 7 Gwirionedd a barn yw gweithredoedd ei ddwylo ef: ei holl orchmynion ydynt sicr: 8 Wedi eu sicrhau byth ac yn dragywydd, a’u gwneuthur mewn gwirionedd ac uniawnder. 9 Anfonodd ymwared i’w bobl: gorchmynnodd ei gyfamod yn dragwyddol: sancteiddiol ac ofnadwy yw ei enw ef. 10 Dechreuad doethineb yw ofn yr Arglwydd: deall da sydd gan y rhai a wnânt ei orchmynion ef: y mae ei foliant ef yn parhau byth.
33 A llefarodd yr Arglwydd wrth Moses ac Aaron, gan ddywedyd, 34 Pan ddeloch i dir Canaan, yr hwn yr ydwyf yn ei roddi i chwi yn feddiant, os rhoddaf bla gwahanglwyf ar dŷ o fewn tir eich meddiant; 35 A dyfod o’r hwn biau’r tŷ, a dangos i’r offeiriad, gan ddywedyd, Gwelaf megis pla yn y tŷ: 36 Yna gorchmynned yr offeiriad iddynt arloesi’r tŷ, cyn dyfod yr offeiriad i weled y pla; fel na haloger yr hyn oll a fyddo yn tŷ: ac wedi hynny deued yr offeiriad i edrych y tŷ; 37 Ac edryched ar y pla: ac wele, os y pla fydd ym mharwydydd y tŷ, yn agennau gwyrddleision neu gochion, a’r olwg arnynt yn is na’r pared; 38 Yna aed yr offeiriad allan o’r tŷ, i ddrws y tŷ, a chaeed y tŷ saith niwrnod. 39 A’r seithfed dydd deued yr offeiriad drachefn, ac edryched: ac os lledodd y pla ym mharwydydd y tŷ; 40 Yna gorchmynned yr offeiriad iddynt dynnu’r cerrig y byddo y pla arnynt, a bwriant hwynt allan o’r ddinas i le aflan. 41 A phared grafu’r tŷ o’i fewn o amgylch; a thywalltant y llwch a grafont, o’r tu allan i’r ddinas i le aflan. 42 A chymerant gerrig eraill, a gosodant yn lle y cerrig hynny; a chymered bridd arall, a phridded y tŷ. 43 Ond os daw’r pla drachefn, a tharddu yn y tŷ, wedi tynnu’r cerrig, ac wedi crafu’r tŷ, ac wedi priddo; 44 Yna doed yr offeiriad, ac edryched: ac wele, os lledodd y pla yn y tŷ, gwahanglwyf ysol yw hwnnw yn y tŷ: aflan yw efe. 45 Yna tynned y tŷ i lawr, ei gerrig, a’i goed, a holl bridd y tŷ; a bwried i’r tu allan i’r ddinas i le aflan. 46 A’r hwn a ddêl i’r tŷ yr holl ddyddiau y parodd efe ei gau, efe a fydd aflan hyd yr hwyr. 47 A’r hwn a gysgo yn y tŷ, golched ei ddillad: felly yr hwn a fwytao yn y tŷ, golched ei ddillad. 48 Ac os yr offeiriad gan ddyfod a ddaw, ac a edrych; ac wele, ni ledodd y pla yn y tŷ, wedi priddo’r tŷ: yna barned yr offeiriad y tŷ yn lân, oherwydd iacháu y pla. 49 A chymered i lanhau y tŷ ddau aderyn y to, a choed cedr ac ysgarlad, ac isop. 50 A lladded y naill aderyn mewn llestr pridd, oddi ar ddwfr rhedegog. 51 A chymered y coed cedr, a’r isop, a’r ysgarlad, a’r aderyn byw, a throched hwynt yng ngwaed yr aderyn a laddwyd, ac yn y dwfr rhedegog, a thaenelled ar y tŷ seithwaith. 52 A glanhaed y tŷ â gwaed yr aderyn, ac â’r dwfr rhedegog, ac â’r aderyn byw, ac â’r coed cedr, ac â’r isop, ac â’r ysgarlad. 53 A gollynged yr aderyn byw allan o’r ddinas ar wyneb y maes, a gwnaed gymod dros y tŷ; a glân fydd.
13 Bydded gennyt ffurf yr ymadroddion iachus, y rhai a glywaist gennyf fi, yn y ffydd a’r cariad sydd yng Nghrist Iesu. 14 Y peth da a rodded i’w gadw atat, cadw trwy’r Ysbryd Glân, yr hwn sydd yn preswylio ynom. 15 Ti a wyddost hyn, ddarfod i’r rhai oll sydd yn Asia droi oddi wrthyf fi; o’r sawl y mae Phygelus a Hermogenes. 16 Rhodded yr Arglwydd drugaredd i dŷ Onesifforus; canys efe a’m llonnodd i yn fynych, ac nid oedd gywilydd ganddo fy nghadwyn i: 17 Eithr pan oedd yn Rhufain, efe a’m ceisiodd yn ddiwyd iawn, ac a’m cafodd. 18 Rhodded yr Arglwydd iddo gael trugaredd gan yr Arglwydd yn y dydd hwnnw: a maint a wnaeth efe o wasanaeth yn Effesus, gorau y gwyddost ti.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.