Print Page Options
Previous Prev Day Next DayNext

Revised Common Lectionary (Complementary)

Daily Bible readings that follow the church liturgical year, with thematically matched Old and New Testament readings.
Duration: 1245 days
Beibl William Morgan (BWM)
Version
Habacuc 1:1-4

Y baich a welodd y proffwyd Habacuc. Pa hyd, Arglwydd, y gwaeddaf, ac nis gwrandewi! y bloeddiaf arnat rhag trais, ac nid achubi! Paham y gwnei i mi weled anwiredd, ac y peri i mi edrych ar flinder? anrhaith a thrais sydd o’m blaen i; ac y mae a gyfyd ddadl ac ymryson. Am hynny yr oedir cyfraith, ac nid â barn allan byth: am fod y drygionus yn amgylchu y cyfiawn; am hynny cam farn a â allan.

Habacuc 2:1-4

Safaf ar fy nisgwylfa, ac ymsefydlaf ar y tŵr, a gwyliaf, i edrych beth a ddywed efe wrthyf, a pha beth a atebaf pan y’m cerydder. A’r Arglwydd a atebodd ac a ddywedodd, Ysgrifenna y weledigaeth, a gwna hi yn eglur ar lechau, fel y rhedo yr hwn a’i darlleno. Canys y weledigaeth sydd eto dros amser gosodedig, ond hi a ddywed o’r diwedd, ac ni thwylla: os erys, disgwyl amdani; canys gan ddyfod y daw, nid oeda. Wele, yr hwn a ymchwydda, nid yw uniawn ei enaid ynddo: ond y cyfiawn a fydd byw trwy ei ffydd.

Salmau 37:1-9

Salm Dafydd.

37 Nac ymddigia oherwydd y rhai drygionus, ac na chenfigenna wrth y rhai a wnânt anwiredd. Canys yn ebrwydd y torrir hwynt i’r llawr fel glaswellt, ac y gwywant fel gwyrddlysiau. Gobeithia yn yr Arglwydd, a gwna dda; felly y trigi yn y tir, a thi a borthir yn ddiau. Ymddigrifa hefyd yn yr Arglwydd; ac efe a ddyry i ti ddymuniadau dy galon. Treigla dy ffordd ar yr Arglwydd, ac ymddiried ynddo; ac efe a’i dwg i ben. Efe a ddwg allan dy gyfiawnder fel y goleuni, a’th farn fel hanner dydd. Distawa yn yr Arglwydd, a disgwyl wrtho: nac ymddigia oherwydd yr hwn a lwyddo ganddo ei ffordd, wrth y gŵr sydd yn gwneuthur ei ddrwg amcanion. Paid â digofaint, a gad ymaith gynddaredd: nac ymddigia er dim i wneuthur drwg. Canys torrir ymaith y drwg ddynion: ond y rhai a ddisgwyliant wrth yr Arglwydd, hwynt‐hwy a etifeddant y tir.

2 Timotheus 1:1-14

Paul, apostol Iesu Grist trwy ewyllys Duw, yn ôl addewid y bywyd, yr hwn sydd yng Nghrist Iesu, At Timotheus, fy mab annwyl: Gras, trugaredd, a thangnefedd, oddi wrth Dduw Dad, a Crist Iesu ein Harglwydd. Y mae gennyf ddiolch i Dduw, yr hwn yr ydwyf yn ei wasanaethu o’m rhieni â chydwybod bur, mor ddi-baid y mae gennyf goffa amdanat ti yn fy ngweddïau nos a dydd; Gan fawr ewyllysio dy weled, gan gofio dy ddagrau, fel y’m llanwer o lawenydd; Gan alw i’m cof y ffydd ddiffuant sydd ynot ti, yr hon a drigodd yn gyntaf yn dy nain Lois, ac yn dy fam Eunice; a diamau gennyf ei bod ynot tithau hefyd. Oherwydd pa achos yr ydwyf yn dy goffáu i ailennyn dawn Duw, yr hwn sydd ynot trwy arddodiad fy nwylo i. Canys ni roddes Duw i ni ysbryd ofn; ond ysbryd nerth, a chariad, a phwyll. Am hynny na fydded arnat gywilydd o dystiolaeth ein Harglwydd, nac ohonof finnau ei garcharor ef: eithr cydoddef di gystudd â’r efengyl, yn ôl nerth Duw; Yr hwn a’n hachubodd ni, ac a’n galwodd â galwedigaeth sanctaidd, nid yn ôl ein gweithredoedd ni, ond yn ôl ei arfaeth ei hun a’i ras, yr hwn a roddwyd i ni yng Nghrist Iesu, cyn dechrau’r byd, 10 Eithr a eglurwyd yr awron trwy ymddangosiad ein Hiachawdwr Iesu Grist, yr hwn a ddiddymodd angau, ac a ddug fywyd ac anllygredigaeth i oleuni trwy’r efengyl: 11 I’r hon y’m gosodwyd i yn bregethwr, ac yn apostol, ac yn athro’r Cenhedloedd. 12 Am ba achos yr ydwyf hefyd yn dioddef y pethau hyn: ond nid oes arnaf gywilydd: canys mi a wn i bwy y credais; ac y mae yn ddiamau gennyf ei fod ef yn abl i gadw’r hyn a roddais ato erbyn y dydd hwnnw. 13 Bydded gennyt ffurf yr ymadroddion iachus, y rhai a glywaist gennyf fi, yn y ffydd a’r cariad sydd yng Nghrist Iesu. 14 Y peth da a rodded i’w gadw atat, cadw trwy’r Ysbryd Glân, yr hwn sydd yn preswylio ynom.

Luc 17:5-10

A’r apostolion a ddywedasant wrth yr Arglwydd, Anghwanega ein ffydd ni. A’r Arglwydd a ddywedodd, Pe byddai gennych ffydd gymaint â gronyn o had mwstard, chwi a allech ddywedyd wrth y sycamorwydden hon, Ymddadwreiddia, a phlanner di yn y môr; a hi a ufuddhâi i chwi. Eithr pwy ohonoch chwi ac iddo was yn aredig, neu’n bugeilio, a ddywed wrtho yn y man pan ddêl o’r maes, Dos ac eistedd i lawr i fwyta? Ond yn hytrach a ddywed wrtho, Arlwya i mi i swperu, ac ymwregysa, a gwasanaetha arnaf fi, nes i mi fwyta ac yfed: ac wedi hynny y bwytei ac yr yfi dithau? Oes ganddo ddiolch i’r gwas hwnnw, am wneuthur ohono y pethau a orchmynasid iddo? Nid wyf yn tybied. 10 Felly chwithau hefyd, gwedi i chwi wneuthur y cwbl oll ag a orchmynnwyd i chwi, dywedwch, Gweision anfuddiol ydym: oblegid yr hyn a ddylasem ei wneuthur, a wnaethom.

Beibl William Morgan (BWM)

William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.