Revised Common Lectionary (Complementary)
I’r Pencerdd, i Jedwthwn, Salm Dafydd.
62 Wrth Dduw yn unig y disgwyl fy enaid: ohono ef y daw fy iachawdwriaeth. 2 Efe yn unig yw fy nghraig, a’m hiachawdwriaeth, a’m hamddiffyn; ni’m mawr ysgogir. 3 Pa hyd y bwriedwch aflwydd yn erbyn gŵr? lleddir chwi oll; a byddwch fel magwyr ogwyddedig, neu bared ar ei ogwydd. 4 Ymgyngorasant yn unig i’w fwrw ef i lawr o’i fawredd; hoffasant gelwydd: â’u geneuau y bendithiant, ond o’u mewn y melltithiant. Sela. 5 O fy enaid, disgwyl wrth Dduw yn unig: canys ynddo ef y mae fy ngobaith. 6 Efe yn unig yw fy nghraig, a’m hiachawdwriaeth: efe yw fy amddiffynfa: ni’m hysgogir. 7 Yn Nuw y mae fy iachawdwriaeth a’m gogoniant: craig fy nghadernid, a’m noddfa, sydd yn Nuw. 8 Gobeithiwch ynddo ef bob amser; O bobl, tywelltwch eich calon ger ei fron ef: Duw sydd noddfa i ni. Sela. 9 Gwagedd yn ddiau yw meibion dynion, geudeb yw meibion gwŷr: i’w gosod yn y clorian, ysgafnach ydynt hwy i gyd na gwegi. 10 Nac ymddiriedwch mewn trawster, ac mewn trais na fyddwch ofer: os cynydda golud, na roddwch eich calon arno. 11 Unwaith y dywedodd Duw, clywais hynny ddwywaith; mai eiddo Duw yw cadernid. 12 Trugaredd hefyd sydd eiddot ti, O Arglwydd: canys ti a deli i bob dyn yn ôl ei weithred.
2 Ac y mae gan yr Arglwydd gŵyn ar Jwda; ac efe a ymwêl â Jacob yn ôl ei ffyrdd: yn ôl ei weithredoedd y tâl iddo y pwyth.
3 Yn y groth y daliodd efe sawdl ei frawd, ac yn ei nerth y cafodd allu gyda Duw. 4 Ie, cafodd nerth ar yr angel, a gorchfygodd; wylodd, ac ymbiliodd ag ef: cafodd ef yn Bethel, ac yno yr ymddiddanodd â ni; 5 Sef Arglwydd Dduw y lluoedd: yr Arglwydd yw ei goffadwriaeth. 6 Tro dithau at dy Dduw; cadw drugaredd a barn, a disgwyl wrth dy Dduw bob amser.
7 Marsiandwr yw efe; yn ei law ef y mae cloriannau twyll: da ganddo orthrymu. 8 A dywedodd Effraim, Eto mi a gyfoethogais, cefais i mi olud; ni chafwyd yn fy holl lafur anwiredd ynof, a fyddai bechod. 9 A mi, yr hwn yw yr Arglwydd dy Dduw a’th ddug o dir yr Aifft, a wnaf i ti drigo eto mewn pebyll, megis ar ddyddiau uchel ŵyl. 10 Ymddiddenais trwy y proffwydi, a mi a amlheais weledigaethau, ac a arferais gyffelybiaethau, trwy law y proffwydi. 11 A oes anwiredd yn Gilead? yn ddiau gwagedd ydynt; yn Gilgal yr aberthant ychen: eu hallorau hefyd sydd fel carneddau yn rhychau y meysydd. 12 Ffodd Jacob hefyd i wlad Syria, a gwasanaethodd Israel am wraig, ac am wraig y cadwodd ddefaid. 13 A thrwy broffwyd y dug yr Arglwydd Israel o’r Aifft, a thrwy broffwyd y cadwyd ef. 14 Effraim a’i cyffrôdd ef i ddig ynghyd â chwerwedd; am hynny y gad efe ei waed ef arno, a’i Arglwydd a dâl iddo ei waradwydd.
16 Ac wele, un a ddaeth, ac a ddywedodd wrtho, Athro da, pa beth da a wnaf, fel y caffwyf fywyd tragwyddol? 17 Yntau a ddywedodd wrtho, Paham y gelwi fi yn dda? nid da neb ond un, sef Duw: ond os ewyllysi fyned i mewn i’r bywyd, cadw’r gorchmynion. 18 Efe a ddywedodd wrtho yntau, Pa rai? A’r Iesu a ddywedodd, Na ladd, Na odineba, Na ladrata, Na ddwg gamdystiolaeth, 19 Anrhydedda dy dad a’th fam, a Châr dy gymydog fel ti dy hun. 20 Y gŵr ieuanc a ddywedodd wrtho, Mi a gedwais y rhai hyn oll o’m hieuenctid: beth sydd yn eisiau i mi eto? 21 Yr Iesu a ddywedodd wrtho, Os ewyllysi fod yn berffaith, dos, gwerth yr hyn sydd gennyt, a dyro i’r tlodion; a thi a gei drysor yn y nef: a thyred, canlyn fi. 22 A phan glybu’r gŵr ieuanc yr ymadrodd, efe a aeth i ffordd yn drist: canys yr oedd yn berchen da lawer.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.