Revised Common Lectionary (Complementary)
I’r Pencardd ar Seminith, Salm Dafydd.
12 Achub, Arglwydd; canys darfu y trugarog: oherwydd pallodd y ffyddloniaid o blith meibion dynion. 2 Oferedd a ddywedant bob un wrth ei gymydog: â gwefus wenieithgar, ac â chalon ddauddyblyg, y llefarant. 3 Torred yr Arglwydd yr holl wefusau gweneithus,a’r tafod a person ddywedo fawrhydi: 4 Y rhai a ddywedant, Â’n tafod y gorfyddwn; ein gwefusau a sydd eiddom ni: pwy sydd arglwydd arnom ni? 5 Oherwydd anrhaith y rhai cystuddiedig, oherwydd uchenaid y tlodion, y cyfodaf yn awr, medd yr Arglwydd; rhoddaf mewn iachawdwriaeth yr hwn y magler iddo. 6 Geiriau yr Arglwydd ydynt eiriau purion; fel arian wedi ei goethi mewn ffwrn bridd, wedi ei buro seithwaith. 7 Ti, Arglwydd, a’u cedwi hwynt: cedwi hwynt rhag y genhedlaeth hon yn dragywydd. 8 Yr annuwiolion a rodiant o amgylch, pan ddyrchafer y gwaelaf o feibion dynion.
10 Enaid yr annuwiol a ddeisyf ddrwg: nid grasol yw ei gymydog yn ei olwg ef. 11 Pan gosber gwatwarwr, y bydd yr ehud gallach: a phan ddysger y doeth, efe a dderbyn wybodaeth. 12 Call y mae y cyfiawn yn ystyried am dŷ yr annuwiol: ond y mae Duw yn difetha y rhai annuwiol am eu drygioni. 13 Y neb a gaeo ei glust rhag llef y tlawd, a lefain ei hunan, ac nis gwrandewir ef. 14 Rhodd yn y dirgel a dyr ddigofaint; a gwobr yn y fynwes, lid cryf. 15 Llawen gan y cyfiawn wneuthur barn: ond dinistr fydd i weithwyr anwiredd. 16 Dyn yn myned ar gyfeiliorn oddi ar ffordd deall, a orffwys yng nghynulleidfa y meirw.
45 Ac a’r holl bobl yn clywed, efe a ddywedodd wrth ei ddisgyblion, 46 Ymogelwch rhag yr ysgrifenyddion, y rhai a ewyllysiant rodio mewn dillad llaesion, ac a garant gyfarchiadau yn y marchnadoedd, a’r prif gadeiriau yn y synagogau, a’r prif eisteddleoedd yn y gwleddoedd; 47 Y rhai sydd yn llwyr fwyta tai gwragedd gweddwon, ac mewn rhith yn hir weddïo: y rhai hyn a dderbyniant farn fwy.
21 Ac wedi iddo edrych i fyny, efe a ganfu y rhai goludog yn bwrw eu rhoddion i’r drysorfa. 2 Ac efe a ganfu hefyd ryw wraig weddw dlawd yn bwrw yno ddwy hatling. 3 Ac efe a ddywedodd, Yn wir meddaf i chwi, fwrw o’r wraig weddw dlawd hon i mewn fwy na hwynt oll: 4 Canys y rhai hyn oll o’r hyn oedd weddill ganddynt a fwriasant at offrymau Duw: eithr hon o’i phrinder a fwriodd i mewn yr holl fywyd a oedd ganddi.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.