Revised Common Lectionary (Complementary)
I’r Pencardd ar Seminith, Salm Dafydd.
12 Achub, Arglwydd; canys darfu y trugarog: oherwydd pallodd y ffyddloniaid o blith meibion dynion. 2 Oferedd a ddywedant bob un wrth ei gymydog: â gwefus wenieithgar, ac â chalon ddauddyblyg, y llefarant. 3 Torred yr Arglwydd yr holl wefusau gweneithus,a’r tafod a person ddywedo fawrhydi: 4 Y rhai a ddywedant, Â’n tafod y gorfyddwn; ein gwefusau a sydd eiddom ni: pwy sydd arglwydd arnom ni? 5 Oherwydd anrhaith y rhai cystuddiedig, oherwydd uchenaid y tlodion, y cyfodaf yn awr, medd yr Arglwydd; rhoddaf mewn iachawdwriaeth yr hwn y magler iddo. 6 Geiriau yr Arglwydd ydynt eiriau purion; fel arian wedi ei goethi mewn ffwrn bridd, wedi ei buro seithwaith. 7 Ti, Arglwydd, a’u cedwi hwynt: cedwi hwynt rhag y genhedlaeth hon yn dragywydd. 8 Yr annuwiolion a rodiant o amgylch, pan ddyrchafer y gwaelaf o feibion dynion.
12 Y mae ffordd sydd uniawn yng ngolwg dyn: ond ei diwedd hi yw ffyrdd angau. 13 Ie, wrth chwerthin y bydd blin ar y galon; a diwedd y llawenydd hwnnw yw tristwch. 14 Y gwrthnysig o galon a gaiff ddigon o’i ffyrdd ei hun: ond y gŵr daionus a gilia oddi wrtho ef. 15 Yr ehud a goelia bob gair: a’r call a ddeil ar ei gamre. 16 Y doeth sydd yn ofni, ac yn cilio oddi wrth ddrygioni: ond y ffôl sydd ffrom a hyderus. 17 Gŵr dicllon a wna ffolineb: a chas yw y gŵr dichellgar. 18 Y rhai ehud a etifeddant ffolineb: ond y rhai call a goronir â gwybodaeth. 19 Y rhai drygionus a ymostyngant gerbron y daionus: a’r annuwiol ym mhyrth y cyfiawn. 20 Y tlawd a gaseir, ie, gan ei gymydog ei hun: ond llawer fydd yn caru y cyfoethog. 21 A ddirmygo ei gymydog, sydd yn pechu: ond y trugarog wrth y tlawd, gwyn ei fyd ef. 22 Onid ydyw y rhai a ddychmygant ddrwg yn cyfeiliorni? eithr trugaredd a gwirionedd a fydd i’r sawl a ddychmygant ddaioni. 23 Ym mhob llafur y mae elw: ond o eiriau gwefusau nid oes dim ond tlodi. 24 Coron y doethion yw eu cyfoeth: ond ffolineb y ffyliaid sydd ffolineb. 25 Tyst ffyddlon a weryd eneidiau: ond y twyllodrus a ddywed gelwyddau. 26 Yn ofn yr Arglwydd y mae gobaith cadarn: ac i’w blant ef y bydd noddfa. 27 Ofn yr Arglwydd yw ffynnon y bywyd, i ddianc rhag maglau angau. 28 Mewn amlder y bobl y mae anrhydedd y brenin: ac o ddiffyg pobl y dinistrir y tywysog. 29 Y diog i ddigofaint sydd yn llawn o synnwyr: ond y dicllon ei ysbryd a ddyrchafa ynfydrwydd. 30 Calon iach yw bywyd y cnawd: ond cenfigen a bydra yr esgyrn. 31 Y neb a orthryma y tlawd, a gywilyddia ei Greawdydd: ond y neb a drugarhao wrth yr anghenus, a’i hanrhydedda ef.
4 Ac fel yr oeddynt yn llefaru wrth y bobl, yr offeiriaid, a blaenor y deml, a’r Sadwceaid, a ddaethant arnynt hwy; 2 Yn flin ganddynt am eu bod hwy yn dysgu’r bobl, ac yn pregethu trwy’r Iesu yr atgyfodiad o feirw. 3 A hwy a osodasant ddwylo arnynt hwy, ac a’u dodasant mewn dalfa hyd drannoeth: canys yr oedd hi yn awr yn hwyr. 4 Eithr llawer o’r rhai a glywsant y gair a gredasant: a rhifedi’r gwŷr a wnaed ynghylch pum mil.
5 A digwyddodd drannoeth ddarfod i’w llywodraethwyr hwy, a’r henuriaid, a’r ysgrifenyddion, ymgynnull i Jerwsalem, 6 Ac Annas yr archoffeiriad, a Chaiaffas, ac Ioan, ac Alexander, a chymaint ag oedd o genedl yr archoffeiriad. 7 Ac wedi iddynt eu gosod hwy yn y canol, hwy a ofynasant, Trwy ba awdurdod, neu ym mha enw, y gwnaethoch chwi hyn? 8 Yna Pedr, yn gyflawn o’r Ysbryd Glân, a ddywedodd wrthynt, Chwychwi benaethiaid y bobl, a henuriaid Israel, 9 Od ydys yn ein holi ni heddiw am y weithred dda i’r dyn claf, sef pa wedd yr iachawyd ef; 10 Bydded hysbys i chwi oll, ac i bawb o bobl Israel, mai trwy enw Iesu Grist o Nasareth, yr hwn a groeshoeliasoch chwi, yr hwn a gyfododd Duw o feirw, trwy hwnnw y mae hwn yn sefyll yn iach ger eich bron chwi. 11 Hwn yw’r maen a lyswyd gennych chwi’r adeiladwyr, yr hwn a wnaed yn ben i’r gongl. 12 Ac nid oes iachawdwriaeth yn neb arall: canys nid oes enw arall dan y nef, wedi ei roddi ymhlith dynion, trwy yr hwn y mae yn rhaid i ni fod yn gadwedig.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.