Revised Common Lectionary (Complementary)
Salm Dafydd.
101 Canaf am drugaredd a barn: i ti, Arglwydd, y canaf. 2 Byddaf ddeallus mewn ffordd berffaith. Pa bryd y deui ataf? rhodiaf mewn perffeithrwydd fy nghalon o fewn fy nhŷ. 3 Ni osodaf ddim anwir o flaen fy llygaid: cas gennyf waith y rhai cildynnus; ni lŷn wrthyf fi. 4 Calon gyndyn a gilia oddi wrthyf: nid adnabyddaf ddyn drygionus. 5 Torraf ymaith yr hwn a enllibio ei gymydog yn ddirgel: yr uchel o olwg, a’r balch ei galon, ni allaf ei ddioddef. 6 Fy llygaid fydd ar ffyddloniaid y tir, fel y trigont gyda mi: yr hwn a rodio mewn ffordd berffaith, hwnnw a’m gwasanaetha i. 7 Ni thrig o fewn fy nhŷ yr un a wnelo dwyll: ni thrig yn fy ngolwg yr un a ddywedo gelwydd. 8 Yn fore y torraf ymaith holl annuwiolion y tir, i ddiwreiddio holl weithredwyr anwiredd o ddinas yr Arglwydd.
19 A Rabsace a ddywedodd wrthynt hwy, Dywedwch yn awr wrth Heseceia, Fel hyn y dywedodd y brenin mawr, brenin Asyria, Pa hyder yw hwn yr wyt yn ymddiried ynddo? 20 Dywedyd yr ydwyt, (ond nid ydynt ond geiriau ofer,) Y mae gennyf gyngor a nerth i ryfel. Ar bwy y mae dy hyder, pan wrthryfelaist i’m herbyn i? 21 Wele yn awr, y mae dy hyder ar y ffon gorsen ddrylliedig hon, ar yr Aifft, yr hon pwy bynnag a bwyso arni, hi a â i gledr ei law ef, ac a dylla trwyddi hi: felly y mae Pharo brenin yr Aifft i bawb a hyderant arno ef. 22 Ac os dywedwch wrthyf, Yn yr Arglwydd ein Duw yr ydym ni yn ymddiried; onid efe yw yr hwn y tynnodd Heseceia ymaith ei uchelfeydd, a’i allorau, ac y dywedodd wrth Jwda ac wrth Jerwsalem, O flaen yr allor hon yr ymgrymwch chwi yn Jerwsalem? 23 Yn awr gan hynny dod wystlon, atolwg, i’m harglwydd, brenin Asyria, a rhoddaf i ti ddwy fil o feirch, os gelli di roddi rhai a farchogo arnynt hwy. 24 A pha fodd y troi di ymaith wyneb un capten o’r gweision lleiaf i’m harglwydd, ac yr ymddiriedi yn yr Aifft am gerbydau a gwŷr meirch? 25 Ai heb yr Arglwydd y deuthum i fyny yn erbyn y lle hwn, i’w ddinistrio ef? Yr Arglwydd a ddywedodd wrthyf, Dos i fyny yn erbyn y wlad hon, a dinistria hi.
19 A phan glybu y brenin Heseceia hynny, efe a rwygodd ei ddillad, ac a ymwisgodd â sachliain, ac a aeth i mewn i dŷ yr Arglwydd. 2 Ac efe a anfonodd Eliacim, yr hwn oedd benteulu, a Sebna yr ysgrifennydd, a henuriaid yr offeiriaid, wedi ymwisgo mewn sachliain, at Eseia y proffwyd mab Amos. 3 A hwy a ddywedasant wrtho ef, Fel hyn y dywed Heseceia, Diwrnod cyfyngdra, a cherydd, a chabledd yw y dydd hwn: canys y plant a ddaethant hyd yr enedigaeth, ond nid oes grym i esgor. 4 Fe allai y gwrendy yr Arglwydd dy Dduw holl eiriau Rabsace, yr hwn a anfonodd brenin Asyria ei feistr ef i gablu y Duw byw, ac y cerydda efe y geiriau a glybu yr Arglwydd dy Dduw: am hynny dyrcha dy weddi dros y gweddill sydd i’w gael. 5 Felly gweision y brenin Heseceia a ddaethant at Eseia.
6 Ac Eseia a ddywedodd wrthynt, Fel hyn y dywedwch wrth eich meistr, Fel hyn y dywed yr Arglwydd, Nac ofna y geiriau a glywaist, trwy y rhai y cablodd gweision brenin Asyria fi. 7 Wele fi yn rhoddi arno ef wynt, ac efe a glyw sŵn, ac a ddychwel i’w wlad: gwnaf hefyd iddo syrthio gan y cleddyf yn ei wlad ei hun.
18 A rhyw lywodraethwr a ofynnodd iddo, gan ddywedyd, Athro da, wrth wneuthur pa beth yr etifeddaf fi fywyd tragwyddol? 19 A’r Iesu a ddywedodd wrtho, Paham y’m gelwi yn dda? nid oes neb yn dda ond un, sef Duw. 20 Ti a wyddost y gorchmynion, Na odineba, Na ladd, Na ladrata, Na ddwg gamdystiolaeth, Anrhydedda dy dad a’th fam. 21 Ac efe a ddywedodd, Hyn oll a gedwais o’m hieuenctid. 22 A’r Iesu pan glybu hyn, a ddywedodd wrtho, Y mae un peth eto yn ôl i ti: gwerth yr hyn oll sydd gennyt, a dyro i’r tlodion; a thi a gei drysor yn y nef: a thyred, canlyn fi. 23 Ond pan glybu efe y pethau hyn, efe a aeth yn athrist: canys yr oedd efe yn gyfoethog iawn. 24 A’r Iesu, pan welodd ef wedi myned yn athrist, a ddywedodd, Mor anodd yr â’r rhai y mae golud ganddynt i mewn i deyrnas Dduw! 25 Canys haws yw i gamel fyned trwy grau’r nodwydd ddur, nag i oludog fyned i mewn i deyrnas Dduw. 26 A’r rhai a glywsent a ddywedasant, A phwy a all fod yn gadwedig? 27 Ac efe a ddywedodd, Y pethau sydd amhosibl gyda dynion, sydd bosibl gyda Duw. 28 A dywedodd Pedr, Wele, nyni a adawsom bob peth, ac a’th ganlynasom di. 29 Ac efe a ddywedodd wrthynt, Yn wir meddaf i chwi, Nid oes neb a’r a adawodd dŷ, neu rieni, neu frodyr, neu wraig, neu blant, er mwyn teyrnas Dduw, 30 A’r ni dderbyn lawer cymaint yn y pryd hwn, ac yn y byd a ddaw fywyd tragwyddol.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.