Revised Common Lectionary (Complementary)
Salm Dafydd.
101 Canaf am drugaredd a barn: i ti, Arglwydd, y canaf. 2 Byddaf ddeallus mewn ffordd berffaith. Pa bryd y deui ataf? rhodiaf mewn perffeithrwydd fy nghalon o fewn fy nhŷ. 3 Ni osodaf ddim anwir o flaen fy llygaid: cas gennyf waith y rhai cildynnus; ni lŷn wrthyf fi. 4 Calon gyndyn a gilia oddi wrthyf: nid adnabyddaf ddyn drygionus. 5 Torraf ymaith yr hwn a enllibio ei gymydog yn ddirgel: yr uchel o olwg, a’r balch ei galon, ni allaf ei ddioddef. 6 Fy llygaid fydd ar ffyddloniaid y tir, fel y trigont gyda mi: yr hwn a rodio mewn ffordd berffaith, hwnnw a’m gwasanaetha i. 7 Ni thrig o fewn fy nhŷ yr un a wnelo dwyll: ni thrig yn fy ngolwg yr un a ddywedo gelwydd. 8 Yn fore y torraf ymaith holl annuwiolion y tir, i ddiwreiddio holl weithredwyr anwiredd o ddinas yr Arglwydd.
24 A brenin Asyria a ddug bobl o Babilon, ac o Cutha, ac o Afa, o Hamath hefyd, ac o Seffarfaim, ac a’u cyfleodd hwynt yn ninasoedd Samaria, yn lle meibion Israel. A hwy a feddianasant Samaria, ac a drigasant yn ei dinasoedd hi. 25 Ac yn nechrau eu trigias hwy yno, nid ofnasant hwy yr Arglwydd; am hynny yr Arglwydd a anfonodd lewod yn eu plith hwynt, y rhai a laddasant rai ohonynt. 26 Am hynny y mynegasant i frenin Asyria, gan ddywedyd, Y cenhedloedd y rhai a fudaist ti, ac a gyfleaist yn ninasoedd Samaria, nid adwaenant ddefod Duw y wlad: am hynny efe a anfonodd lewod yn eu mysg hwynt, ac wele, lladdasant hwynt, am na wyddent ddefod Duw y wlad. 27 Yna brenin Asyria a orchmynnodd, gan ddywedyd, Dygwch yno un o’r offeiriaid a ddygasoch oddi yno, i fyned ac i drigo yno, ac i ddysgu iddynt ddefod Duw y wlad. 28 Felly un o’r offeiriaid a ddygasent hwy o Samaria a ddaeth ac a drigodd yn Bethel, ac a ddysgodd iddynt pa fodd yr ofnent yr Arglwydd. 29 Eto pob cenedl oedd yn gwneuthur eu duwiau eu hun, ac yn eu gosod yn nhai yr uchelfeydd a wnaethai y Samariaid, pob cenedl yn eu dinasoedd yr oeddynt yn preswylio ynddynt. 30 A gwŷr Babilon a wnaethant Succoth‐Benoth, a gwŷr Cuth a wnaethant Nergal, a gwŷr Hamath a wnaethant Asima, 31 A’r Afiaid a wnaethant Nibhas a Thartac, a’r Seffarfiaid a losgasant eu meibion yn tân i Adrammelech ac i Anammelech, duwiau Seffarfaim. 32 Felly hwy a ofnasant yr Arglwydd, ac a wnaethant iddynt rai o’u gwehilion yn offeiriaid yr uchelfeydd, y rhai a wnaethant aberthau iddynt yn nhai yr uchelfeydd. 33 Yr Arglwydd yr oeddynt hwy yn ei ofni, a gwasanaethu yr oeddynt eu duwiau, yn ôl defod y cenhedloedd y rhai a ddygasent oddi yno. 34 Hyd y dydd hwn y maent hwy yn gwneuthur yn ôl eu hen arferion: nid ydynt yn ofni yr Arglwydd, ac nid ydynt yn gwneuthur yn ôl eu deddfau hwynt, nac yn ôl eu harfer, nac yn ôl y gyfraith na’r gorchymyn a orchmynnodd yr Arglwydd i feibion Jacob, yr hwn y gosododd efe ei enw, Israel. 35 A’r Arglwydd a wnaethai gyfamod â hwynt, ac a orchmynasai iddynt, gan ddywedyd, Nac ofnwch dduwiau dieithr, ac nac ymgrymwch iddynt, ac na wasanaethwch hwynt, ac nac aberthwch iddynt: 36 Ond yr Arglwydd yr hwn a’ch dug chwi i fyny o wlad yr Aifft â nerth mawr, ac â braich estynedig, ef a ofnwch chwi, ac iddo ef yr ymgrymwch, ac iddo ef yr aberthwch. 37 Y deddfau hefyd, a’r barnedigaethau, a’r gyfraith, a’r gorchymyn, a ysgrifennodd efe i chwi, a gedwch chwi i’w gwneuthur byth; ac nac ofnwch dduwiau dieithr. 38 Ac nac anghofiwch y cyfamod a amodais â chwi, ac nac ofnwch dduwiau dieithr: 39 Eithr ofnwch yr Arglwydd eich Duw; ac efe a’ch gwared chwi o law eich holl elynion. 40 Ond ni wrandawsant hwy, eithr yn ôl eu hen arfer y gwnaethant hwy. 41 Felly y cenhedloedd hyn oedd yn ofni’r Arglwydd, ac yn gwasanaethu eu delwau cerfiedig; eu plant a’u hwyrion: fel y gwnaeth eu tadau, y maent hwy yn gwneuthur hyd y dydd hwn.
14 Y pethau hyn yr ydwyf yn eu hysgrifennu atat, gan obeithio dyfod atat ar fyrder: 15 Ond os tariaf yn hir, fel y gwypech pa fodd y mae’n rhaid iti ymddwyn yn nhŷ Dduw, yr hwn yw eglwys y Duw byw, colofn a sylfaen y gwirionedd. 16 Ac yn ddi‐ddadl, mawr yw dirgelwch duwioldeb; Duw a ymddangosodd yn y cnawd, a gyfiawnhawyd yn yr Ysbryd, a welwyd gan angylion, a bregethwyd i’r Cenhedloedd, a gredwyd iddo yn y byd, a gymerwyd i fyny mewn gogoniant.
4 Ac y mae’r Ysbryd yn eglur yn dywedyd yr ymedy rhai yn yr amseroedd diwethaf oddi wrth y ffydd, gan roddi coel i ysbrydion cyfeiliornus, ac i athrawiaethau cythreuliaid; 2 Yn dywedyd celwydd mewn rhagrith, a’u cydwybod eu hunain wedi ei serio â haearn poeth; 3 Yn gwahardd priodi, ac yn erchi ymatal oddi wrth fwydydd, y rhai a greodd Duw i’w derbyn, trwy roddi diolch, gan y ffyddloniaid a’r rhai a adwaenant y gwirionedd. 4 Oblegid y mae pob peth a greodd Duw yn dda, ac nid oes dim i’w wrthod, os cymerir trwy dalu diolch. 5 Canys y mae wedi ei sancteiddio gan air Duw a gweddi.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.