Revised Common Lectionary (Complementary)
1 Gwyn ei fyd y gŵr ni rodia yng nghyngor yr annuwiolion, ac ni saif yn ffordd pechaduriaid, ac nid eistedd yn eisteddfa gwatwarwyr. 2 Ond sydd â’i ewyllys yng nghyfraith yr Arglwydd; ac yn myfyrio yn ei gyfraith ef ddydd a nos. 3 Ac efe a fydd fel pren wedi ei blannu ar lan afonydd dyfroedd, yr hwn a rydd ei ffrwyth yn ei bryd; a’i ddalen ni wywa; a pha beth bynnag a wnêl, efe a lwydda. 4 Nid felly y bydd yr annuwiol; ond fel mân us yr hwn a chwâl y gwynt ymaith. 5 Am hynny yr annuwiolion ni safant yn y farn, na phechaduriaid yng nghynulleidfa y rhai cyfiawn. 6 Canys yr Arglwydd a edwyn ffordd y rhai cyfiawn: ond ffordd yr annuwiolion a ddifethir.
12 A bydd, o achos gwrando ohonoch ar y barnedigaethau hyn, a’u cadw, a’u gwneuthur hwynt; y ceidw yr Arglwydd dy Duw â thi y cyfamod, a’r drugaredd, a addawodd efe trwy lw i’th dadau di: 13 Ac a’th gâr, ac a’th fendithia, ac a’th amlha di; ac a fendiga ffrwyth dy fru, a ffrwyth dy dir di, dy ŷd, a’th win, a’th olew, a chynnydd dy wartheg, a diadellau dy ddefaid, yn y tir y tyngodd efe wrth dy dadau, ar ei roddi i ti. 14 Bendigedig fyddi uwchlaw yr holl bobloedd: ni bydd yn dy blith di un gwryw nac un fenyw yn anffrwythlon, nac ymhlith dy anifeiliaid di. 15 Hefyd yr Arglwydd a dynn oddi wrthyt ti bob gwendid, ac ni esyd arnat ti yr un o glefydau drwg yr Aifft, y rhai a adwaenost: ond ar dy holl gaseion di y rhydd efe hwynt. 16 Difetha gan hynny yr holl bobloedd y mae yr Arglwydd dy Dduw yn eu rhoddi i ti: nac arbeded dy lygad hwynt, ac na wasanaetha eu duwiau hwynt; oblegid magl i ti a fyddai hynny. 17 Os dywedi yn dy galon, Lluosocach yw y cenhedloedd hyn na myfi; pa ddelw y gallaf eu gyrru hwynt ymaith? 18 Nac ofna rhagddynt: gan gofio cofia yr hyn a wnaeth yr Arglwydd dy Dduw i Pharo, ac i’r holl Aifft: 19 Y profedigaethau mawrion y rhai a welodd dy lygaid, a’r arwyddion, a’r rhyfeddodau, a’r llaw gadarn, a’r braich estynedig, â’r rhai y’th ddug yr Arglwydd dy Dduw allan: felly y gwna’r Arglwydd dy Dduw i’r holl bobloedd yr wyt ti yn eu hofni. 20 A’r Arglwydd dy Dduw hefyd a ddenfyn gacwn yn eu plith hwynt, hyd oni ddarfyddo am y rhai gweddill, a’r rhai a ymguddiant rhagot ti. 21 Nac ofna rhagddynt: oblegid yr Arglwydd dy Dduw sydd yn dy ganol di, yn Dduw mawr, ac ofnadwy. 22 A’r Arglwydd dy Dduw a yrr ymaith y cenhedloedd hynny o’th flaen di, bob ychydig ac ychydig: ni elli eu difetha hwynt ar unwaith, rhag myned o fwystfilod y maes yn amlach na thydi. 23 Ond yr Arglwydd dy Dduw a’u rhydd hwynt o’th flaen di, ac a’u cystuddia hwynt â chystudd dirfawr, nes eu difetha hwynt; 24 Ac a rydd eu brenhinoedd hwynt yn dy law di, a thi a ddifethi eu henw hwynt oddi tan y nefoedd: ni saif gŵr yn dy wyneb di, nes difetha ohonot ti hwynt. 25 Llosg ddelwau cerfiedig eu duwiau hwynt yn tân: na chwennych na’r arian na’r aur a fyddo arnynt, i’w cymryd i ti; rhag dy faglu ag ef: oblegid ffieidd‐dra i’r Arglwydd dy Dduw ydyw. 26 Na ddwg dithau ffieidd‐dra i’th dŷ, fel y byddech ysgymunbeth megis yntau: gan ddirmygu dirmyga ef, a chan ffieiddio ffieiddia ef: oblegid ysgymunbeth yw efe.
7 Fy holl helynt i a fynega Tychicus i chwi, y brawd annwyl, a’r gweinidog ffyddlon, a’r cyd‐was yn yr Arglwydd: 8 Yr hwn a ddanfonais atoch er mwyn hyn, fel y gwybyddai eich helynt chwi, ac y diddanai eich calonnau chwi; 9 Gydag Onesimus, y ffyddlon a’r annwyl frawd, yr hwn sydd ohonoch chwi. Hwy a hysbysant i chwi bob peth a wneir yma. 10 Y mae Aristarchus, fy nghyd‐garcharor, yn eich annerch; a Marc, nai Barnabas fab ei chwaer, (am yr hwn y derbyniasoch orchmynion: os daw efe atoch, derbyniwch ef;) 11 A Jesus, yr hwn a elwir Jwstus, y rhai ydynt o’r enwaediad. Y rhai hyn yn unig yw fy nghyd‐weithwyr i deyrnas Dduw, y rhai a fuant yn gysur i mi. 12 Y mae Epaffras, yr hwn sydd ohonoch, gwas Crist, yn eich annerch, gan ymdrechu yn wastadol drosoch mewn gweddïau, ar i chwi sefyll yn berffaith ac yn gyflawn yng nghwbl o ewyllys Duw. 13 Canys yr ydwyf yn dyst iddo, fod ganddo sêl mawr trosoch chwi, a’r rhai o Laodicea, a’r rhai o Hierapolis. 14 Y mae Luc y ffisigwr annwyl, a Demas, yn eich annerch. 15 Anerchwch y brodyr sydd yn Laodicea, a Nymffas, a’r eglwys sydd yn ei dŷ ef. 16 Ac wedi darllen yr epistol hwn gyda chwi, perwch ei ddarllen hefyd yn eglwys y Laodiceaid: a darllen ohonoch chwithau yr un o Laodicea. 17 A dywedwch wrth Archipus, Edrych at y weinidogaeth a dderbyniaist yn yr Arglwydd, ar i ti ei chyflawni hi.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.