Print Page Options
Previous Prev Day Next DayNext

Revised Common Lectionary (Complementary)

Daily Bible readings that follow the church liturgical year, with thematically matched Old and New Testament readings.
Duration: 1245 days
Beibl William Morgan (BWM)
Version
Salmau 1

Gwyn ei fyd y gŵr ni rodia yng nghyngor yr annuwiolion, ac ni saif yn ffordd pechaduriaid, ac nid eistedd yn eisteddfa gwatwarwyr. Ond sydd â’i ewyllys yng nghyfraith yr Arglwydd; ac yn myfyrio yn ei gyfraith ef ddydd a nos. Ac efe a fydd fel pren wedi ei blannu ar lan afonydd dyfroedd, yr hwn a rydd ei ffrwyth yn ei bryd; a’i ddalen ni wywa; a pha beth bynnag a wnêl, efe a lwydda. Nid felly y bydd yr annuwiol; ond fel mân us yr hwn a chwâl y gwynt ymaith. Am hynny yr annuwiolion ni safant yn y farn, na phechaduriaid yng nghynulleidfa y rhai cyfiawn. Canys yr Arglwydd a edwyn ffordd y rhai cyfiawn: ond ffordd yr annuwiolion a ddifethir.

Genesis 39

39 A Joseff a ddygwyd i waered i’r Aifft: a Potiffar yr Eifftwr, tywysog Pharo a’i ddistain, a’i prynodd ef o law yr Ismaeliaid, y rhai a’i dygasant ef i waered yno. Ac yr oedd yr Arglwydd gyda Joseff, ac efe oedd ŵr llwyddiannus: ac yr oedd efe yn nhŷ ei feistr yr Eifftiad. A’i feistr a welodd fod yr Arglwydd gydag ef, a bod yr Arglwydd yn llwyddo yn ei law ef yr hyn oll a wnelai efe. A Joseff a gafodd ffafr yn ei olwg ef, ac a’i gwasanaethodd ef: yntau a’i gwnaeth ef yn olygwr ar ei dŷ, ac a roddes yr hyn oll oedd eiddo dan ei law ef. Ac er pan wnaethai efe ef yn olygwr ar ei dŷ, ac ar yr hyn oll oedd eiddo, bu i’r Arglwydd fendithio tŷ’r Eifftiad, er mwyn Joseff: ac yr oedd bendith yr Arglwydd ar yr hyn oll oedd eiddo ef, yn y tŷ, ac yn y maes. Ac efe a adawodd yr hyn oll oedd ganddo dan law Joseff; ac ni wyddai oddi wrth ddim a’r a oedd gydag ef, oddieithr y bwyd yr oedd efe yn ei fwyta: Joseff hefyd oedd deg o bryd, a glân yr olwg.

A darfu wedi’r pethau hynny, i wraig ei feistr ef ddyrchafu ei golwg ar Joseff, a dywedyd, Gorwedd gyda mi. Yntau a wrthododd, ac a ddywedodd wrth wraig ei feistr, Wele, fy meistr ni ŵyr pa beth sydd gyda mi yn y tŷ; rhoddes hefyd yr hyn oll sydd eiddo dan fy llaw i. Nid oes neb fwy yn y tŷ hwn na myfi; ac ni waharddodd efe ddim rhagof onid tydi; oblegid ei wraig ef wyt ti: pa fodd, gan hynny, y gallaf wneuthur y mawr ddrwg hwn, a phechu yn erbyn Duw! 10 A bu, fel yr oedd hi yn dywedyd wrth Joseff beunydd, ac yntau heb wrando arni hi, i orwedd yn ei hymyl hi, neu i fod gyda hi. 11 A bu, ynghylch yr amser hwnnw, i Joseff ddyfod i’r tŷ, i wneuthur ei orchwyl; ac nid oedd yr un o ddynion y tŷ yno yn tŷ. 12 Hithau a’i daliodd ef erbyn ei wisg, gan ddywedyd, Gorwedd gyda mi. Yntau a adawodd ei wisg yn ei llaw hi, ac a ffodd, ac a aeth allan. 13 A phan welodd hi adael ohono ef ei wisg yn ei llaw hi, a ffoi ohono allan; 14 Yna hi a alwodd ar ddynion ei thŷ, ac a draethodd wrthynt, gan ddywedyd, Gwelwch, efe a ddug i ni Hebrëwr i’n gwaradwyddo: daeth ataf fi i orwedd gyda myfi; minnau a waeddais â llef uchel; 15 A phan glywodd efe ddyrchafu ohonof fi fy llef, a gweiddi; yna efe a adawodd ei wisg yn fy ymyl i, ac a ffodd, ac a aeth allan. 16 A hi a osododd ei wisg ef yn ei hymyl, hyd oni ddaeth ei feistr ef adref. 17 A hi a lefarodd wrtho yn y modd hwn, gan ddywedyd, Yr Hebrewas, yr hwn a ddygaist i ni, a ddaeth ataf i’m gwaradwyddo; 18 Ond pan ddyrchefais fy llef, a gweiddi, yna efe a adawodd ei wisg yn fy ymyl, ac a ffodd allan. 19 A phan glybu ei feistr ef eiriau ei wraig, y rhai a lefarodd hi wrtho ef, gan ddywedyd, Yn y modd hwn y gwnaeth dy was di i mi; yna yr enynnodd ei lid ef. 20 A meistr Joseff a’i cymerth ef, ac a’i rhoddes yn y carchardy, yn y lle yr oedd carcharorion y brenin yn rhwym. Ac yno y bu efe yn y carchardy.

21 Ond yr Arglwydd oedd gyda Joseff, ac a ddangosodd iddo ef drugaredd, ac a roddes ffafr iddo yng ngolwg pennaeth y carchardy. 22 A phennaeth y carchardy a roddes dan law Joseff yr holl garcharorion y rhai oedd yn y carchardy; a pha beth bynnag a wnaent yno, efe oedd yn ei wneuthur. 23 Nid oedd pennaeth y carchardy yn edrych am ddim oll a’r a oedd dan ei law ef, am fod yr Arglwydd gydag ef; a’r hyn a wnâi efe, yr Arglwydd a’i llwyddai.

Philipiaid 2:25-30

25 Eithr mi a dybiais yn angenrheidiol ddanfon atoch Epaffroditus, fy mrawd, a’m cyd‐weithiwr, a’m cyd‐filwr, ond eich cennad chwi, a gweinidog i’m cyfreidiau innau. 26 Canys yr oedd efe yn hiraethu amdanoch oll, ac yn athrist iawn, oblegid i chwi glywed ei fod ef yn glaf. 27 Canys yn wir efe a fu glaf yn agos i angau: ond Duw a drugarhaodd wrtho ef; ac nid wrtho ef yn unig, ond wrthyf finnau hefyd, rhag cael ohonof dristwch ar dristwch. 28 Yn fwy diwyd gan hynny yr anfonais i ef, fel gwedi i chwi ei weled ef drachefn, y byddech chwi lawen, ac y byddwn innau yn llai fy nhristwch. 29 Derbyniwch ef gan hynny yn yr Arglwydd gyda phob llawenydd; a’r cyfryw rai gwnewch gyfrif ohonynt: 30 Canys oblegid gwaith Crist y bu efe yn agos i angau, ac y bu diddarbod am ei einioes, fel y cyflawnai efe eich diffyg chwi o’ch gwasanaeth tuag ataf fi.

Beibl William Morgan (BWM)

William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.