Revised Common Lectionary (Complementary)
112 Molwch yr Arglwydd. Gwyn ei fyd y gŵr a ofna yr Arglwydd, ac sydd yn hoffi ei orchmynion ef yn ddirfawr. 2 Ei had fydd gadarn ar y ddaear: cenhedlaeth y rhai uniawn a fendithir. 3 Golud a chyfoeth fydd yn ei dŷ ef: a’i gyfiawnder sydd yn parhau byth. 4 Cyfyd goleuni i’r rhai uniawn yn y tywyllwch: trugarog, a thosturiol, a chyfiawn, yw efe. 5 Gŵr da sydd gymwynasgar, ac yn rhoddi benthyg: wrth farn y llywodraetha efe ei achosion. 6 Yn ddiau nid ysgogir ef byth: y cyfiawn fydd byth mewn coffadwriaeth. 7 Nid ofna efe rhag chwedl drwg: ei galon sydd ddi‐sigl, yn ymddiried yn yr Arglwydd. 8 Ategwyd ei galon: nid ofna efe, hyd oni welo ei ewyllys ar ei elynion. 9 Gwasgarodd, rhoddodd i’r tlodion; a’i gyfiawnder sydd yn parhau byth; ei gorn a ddyrchefir mewn gogoniant. 10 Yr annuwiol a wêl hyn, ac a ddigia; efe a ysgyrnyga ei ddannedd, ac a dawdd ymaith: derfydd am ddymuniad y rhai annuwiol.
21 Fel afonydd o ddwfr y mae calon y brenin yn llaw yr Arglwydd: efe a’i try hi lle y mynno. 2 Pob ffordd gŵr sydd uniawn yn ei olwg ei hun: ond yr Arglwydd a bwysa y calonnau. 3 Gwneuthur cyfiawnder a barn sydd well gan yr Arglwydd nag aberth. 4 Uchder golwg, a balchder calon, ac âr yr annuwiol, sydd bechod.
24 Y balch a’r gwatwarwr uchel, yw enw y gŵr a wnelo beth mewn dicllonedd balch. 25 Deisyfiad y diog a’i lladd: canys ei ddwylo a wrthodant weithio: 26 Yn hyd y dydd y mae yn fawr ei awydd: ond y cyfiawn a rydd, ac ni arbed.
20 Yna y daeth mam meibion Sebedeus ato gyda’i meibion, gan addoli, a deisyf rhyw beth ganddo. 21 Ac efe a ddywedodd wrthi, Pa beth a fynni? Dywedodd hithau wrtho, Dywed am gael o’m dau fab hyn eistedd, y naill ar dy law ddeau, a’r llall ar dy law aswy, yn dy frenhiniaeth. 22 A’r Iesu a atebodd ac a ddywedodd, Ni wyddoch chwi beth yr ydych yn ei ofyn. A ellwch chwi yfed o’r cwpan yr ydwyf fi ar yfed ohono, a’ch bedyddio â’r bedydd y bedyddir fi? Dywedasant wrtho, Gallwn. 23 Ac efe a ddywedodd wrthynt, Diau yr yfwch o’m cwpan, ac y’ch bedyddir â’r bedydd y’m bedyddir ag ef: eithr eistedd ar fy llaw ddeau ac ar fy llaw aswy, nid eiddof ei roddi; ond i’r sawl y darparwyd gan fy Nhad. 24 A phan glybu’r deg hyn, hwy a sorasant wrth y ddau frodyr. 25 A’r Iesu a’u galwodd hwynt ato, ac a ddywedodd, Chwi a wyddoch fod penaethiaid y Cenhedloedd yn tra‐arglwyddiaethu arnynt, a’r rhai mawrion yn tra‐awdurdodi arnynt hwy. 26 Eithr nid felly y bydd yn eich plith chwi: ond pwy bynnag a fynno fod yn fawr yn eich plith chwi, bydded yn weinidog i chwi; 27 A phwy bynnag a fynno fod yn bennaf yn eich plith, bydded yn was i chwi: 28 Megis na ddaeth Mab y dyn i’w wasanaethu, ond i wasanaethu, ac i roddi ei einioes yn bridwerth dros lawer.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.