Revised Common Lectionary (Complementary)
112 Molwch yr Arglwydd. Gwyn ei fyd y gŵr a ofna yr Arglwydd, ac sydd yn hoffi ei orchmynion ef yn ddirfawr. 2 Ei had fydd gadarn ar y ddaear: cenhedlaeth y rhai uniawn a fendithir. 3 Golud a chyfoeth fydd yn ei dŷ ef: a’i gyfiawnder sydd yn parhau byth. 4 Cyfyd goleuni i’r rhai uniawn yn y tywyllwch: trugarog, a thosturiol, a chyfiawn, yw efe. 5 Gŵr da sydd gymwynasgar, ac yn rhoddi benthyg: wrth farn y llywodraetha efe ei achosion. 6 Yn ddiau nid ysgogir ef byth: y cyfiawn fydd byth mewn coffadwriaeth. 7 Nid ofna efe rhag chwedl drwg: ei galon sydd ddi‐sigl, yn ymddiried yn yr Arglwydd. 8 Ategwyd ei galon: nid ofna efe, hyd oni welo ei ewyllys ar ei elynion. 9 Gwasgarodd, rhoddodd i’r tlodion; a’i gyfiawnder sydd yn parhau byth; ei gorn a ddyrchefir mewn gogoniant. 10 Yr annuwiol a wêl hyn, ac a ddigia; efe a ysgyrnyga ei ddannedd, ac a dawdd ymaith: derfydd am ddymuniad y rhai annuwiol.
13 Calon lawen a wna wyneb siriol: ond trwy ddolur y galon y torrir yr ysbryd. 14 Calon y synhwyrol a ymgais â gwybodaeth: ond genau y ffyliaid a borthir â ffolineb. 15 Holl ddyddiau y cystuddiedig sydd flin: ond gwledd wastadol yw calon lawen. 16 Gwell yw ychydig gydag ofn yr Arglwydd, na thrysor mawr a thrallod gydag ef. 17 Gwell yw pryd o ddail lle byddo cariad, nag ych pasgedig a chas gydag ef.
8 Am ben hyn, byddwch oll yn unfryd, yn cydoddef â’ch gilydd, yn caru fel brodyr, yn drugarogion, yn fwynaidd: 9 Nid yn talu drwg am ddrwg, neu sen am sen: eithr, yng ngwrthwyneb, yn bendithio; gan wybod mai i hyn y’ch galwyd, fel yr etifeddoch fendith. 10 Canys y neb a ewyllysio hoffi bywyd, a gweled dyddiau da, atalied ei dafod oddi wrth ddrwg, a’i wefusau rhag adrodd twyll: 11 Gocheled y drwg, a gwnaed y da; ceisied heddwch, a dilyned ef. 12 Canys y mae llygaid yr Arglwydd ar y rhai cyfiawn, a’i glustiau ef tuag at eu gweddi hwynt: eithr y mae wyneb yr Arglwydd yn erbyn y rhai sydd yn gwneuthur drwg.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.