Revised Common Lectionary (Complementary)
21 Tithau, Arglwydd Dduw, gwna erof fi er mwyn dy enw: am fod yn dda dy drugaredd, gwared fi. 22 Canys truan a thlawd ydwyf fi, a’m calon a archollwyd o’m mewn. 23 Euthum fel cysgod pan gilio: fel locust y’m hysgydwir. 24 Fy ngliniau a aethant yn egwan gan ympryd; a’m cnawd a guriodd o eisiau braster. 25 Gwaradwydd hefyd oeddwn iddynt: pan welent fi, siglent eu pennau. 26 Cynorthwya fi, O Arglwydd fy Nuw; achub fi yn ôl dy drugaredd: 27 Fel y gwypont mai dy law di yw hyn; mai ti, Arglwydd, a’i gwnaethost. 28 Melltithiant hwy, ond bendithia di: cywilyddier hwynt, pan gyfodant; a llawenyched dy was. 29 Gwisger fy ngwrthwynebwyr â gwarth, ac ymwisgant â’u cywilydd, megis â chochl. 30 Clodforaf yr Arglwydd yn ddirfawr â’m genau; ie, moliannaf ef ymysg llawer. 31 Oherwydd efe a saif ar ddeheulaw y tlawd, i’w achub oddi wrth y rhai a farnant ei enaid.
33 Fel mai byw fi, medd yr Arglwydd Dduw, yn ddiau â llaw gadarn, ac â braich estynedig, ac â llidiowgrwydd tywalltedig, y teyrnasaf arnoch. 34 A dygaf chwi allan ymysg y bobloedd, a chasglaf chwi o’r gwledydd y rhai y’ch gwasgarwyd ynddynt, â llaw gadarn, ac â braich estynedig, ac â llidiowgrwydd tywalltedig. 35 A dygaf chwi i anialwch y bobloedd, ac ymddadleuaf â chwi yno wyneb yn wyneb. 36 Fel yr ymddadleuais â’ch tadau yn anialwch tir yr Aifft, felly yr ymddadleuaf â chwithau, medd yr Arglwydd Dduw. 37 A gwnaf i chwi fyned dan y wialen, a dygaf chwi i rwym y cyfamod. 38 A charthaf ohonoch y rhai gwrthryfelgar, a’r rhai a droseddant i’m herbyn: dygaf hwynt o wlad eu hymdaith, ac i wlad Israel ni ddeuant: a chewch wybod mai myfi yw yr Arglwydd. 39 Chwithau, tŷ Israel, fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw; Ewch, gwasanaethwch bob un ei eilunod, ac ar ôl hyn hefyd, oni wrandewch arnaf fi: ond na halogwch mwy fy enw sanctaidd â’ch offrymau, ac â’ch eilunod. 40 Canys yn fy mynydd sanctaidd, ym mynydd uchelder Israel, medd yr Arglwydd Dduw, yno y’m gwasanaetha holl dŷ Israel, cwbl o’r wlad: yno y byddaf fodlon iddynt; ac yno y gofynnaf eich offrymau, a blaenffrwyth eich offrymau, gyda’ch holl sanctaidd bethau. 41 Byddaf fodlon i chwi gyda’ch arogl peraidd, pan ddygwyf chwi allan o blith y bobloedd, a’ch casglu chwi o’r tiroedd y’ch gwasgarwyd ynddynt; a mi a sancteiddir ynoch yng ngolwg y cenhedloedd. 42 Hefyd cewch wybod mai myfi yw yr Arglwydd, pan ddygwyf chwi i dir Israel, i’r tir y tyngais am ei roddi i’ch tadau. 43 Ac yno y cofiwch eich ffyrdd, a’ch holl weithredoedd y rhai yr ymhalogasoch ynddynt; fel yr alaroch arnoch eich hun am yr holl ddrygioni a wnaethoch. 44 A chewch wybod mai myfi yw yr Arglwydd, pan wnelwyf â chwi er mwyn fy enw, nid yn ôl eich ffyrdd drygionus chwi, nac yn ôl eich gweithredoedd llygredig, O dŷ Israel, medd yr Arglwydd Dduw.
6 A bu hefyd ar Saboth arall, iddo fyned i mewn i’r synagog, ac athrawiaethu: ac yr oedd yno ddyn a’i law ddeau wedi gwywo. 7 A’r ysgrifenyddion a’r Phariseaid a’i gwyliasant ef, a iachâi efe ef ar y dydd Saboth; fel y caffent achwyn yn ei erbyn ef. 8 Eithr efe a wybu eu meddyliau hwynt, ac a ddywedodd wrth y dyn oedd â’r llaw wedi gwywo, Cyfod i fyny, a saf yn y canol. Ac efe a gyfododd i fyny, ac a safodd. 9 Yr Iesu am hynny a ddywedodd wrthynt, Myfi a ofynnaf i chwi, Beth sydd gyfreithlon ar y Sabothau? gwneuthur da, ynteu gwneuthur drwg? cadw einioes, ai colli? 10 Ac wedi edrych arnynt oll oddi amgylch, efe a ddywedodd wrth y dyn, Estyn dy law. Ac efe a wnaeth felly: a’i law ef a wnaed yn iach fel y llall. 11 A hwy a lanwyd o ynfydrwydd, ac a ymddiddanasant y naill wrth y llall, pa beth a wnaent i’r Iesu.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.