Revised Common Lectionary (Complementary)
Salm Dafydd.
103 Fy enaid, bendithia yr Arglwydd; a chwbl sydd ynof, ei enw sanctaidd ef. 2 Fy enaid, bendithia yr Arglwydd; ac nac anghofia ei holl ddoniau ef: 3 Yr hwn sydd yn maddau dy holl anwireddau; yr hwn sydd yn iacháu dy holl lesgedd: 4 Yr hwn sydd yn gwaredu dy fywyd o ddistryw: yr hwn sydd yn dy goroni â thrugaredd ac â thosturi: 5 Yr hwn sydd yn diwallu dy enau â daioni; fel yr adnewyddir dy ieuenctid fel yr eryr. 6 Yr Arglwydd sydd yn gwneuthur cyfiawnder a barn i’r rhai gorthrymedig oll. 7 Hysbysodd ei ffyrdd i Moses; ei weithredoedd i feibion Israel. 8 Trugarog a graslon yw yr Arglwydd; hwyrfrydig i lid, a mawr o drugarowgrwydd.
15 Yn y dyddiau hynny y gwelais yn Jwda rai yn sengi gwinwryfau ar y Saboth, ac yn dwyn i mewn ysgubau ŷd, ac yn llwytho asynnod, gwin hefyd, a grawnwin, a ffigys, a phob beichiau, ac yn eu dwyn i Jerwsalem ar y dydd Saboth: a mi a dystiolaethais yn eu herbyn ar y dydd y gwerthasant luniaeth. 16 Y Tyriaid hefyd oedd yn trigo ynddi, ac yn dwyn pysgod, a phob peth gwerthadwy, y rhai yr oeddynt hwy yn eu gwerthu ar y Saboth i feibion Jwda, ac yn Jerwsalem. 17 Yna y dwrdiais bendefigion Jwda, ac y dywedais wrthynt, Pa beth drygionus yw hwn yr ydych chwi yn ei wneuthur, gan halogi’r dydd Saboth? 18 Onid fel hyn y gwnaeth eich tadau chwi? ac oni ddug ein Duw ni yr holl ddrwg hyn arnom ni, ac ar y ddinas hon? a chwithau ydych yn ychwanegu digofaint ar Israel, trwy halogi’r Saboth. 19 A phan dywyllasai pyrth Jerwsalem cyn y Saboth, yr erchais gau’r dorau, ac a orchmynnais nad agorid hwynt hyd wedi’r Saboth: a mi a osodais rai o’m gweision wrth y pyrth, fel na ddelai baich i mewn ar ddydd y Saboth. 20 Felly y marchnadwyr, a gwerthwyr pob peth gwerthadwy, a letyasant o’r tu allan i Jerwsalem unwaith neu ddwy. 21 A mi a dystiolaethais yn eu herbyn hwynt, ac a ddywedais wrthynt, Paham yr ydych chwi yn aros dros nos wrth y mur? os gwnewch eilwaith, mi a estynnaf fy llaw i’ch erbyn. O’r pryd hwnnw ni ddaethant ar y Saboth mwyach. 22 A mi a ddywedais wrth y Lefiaid, am iddynt ymlanhau, a dyfod i gadw y pyrth, gan sancteiddio’r dydd Saboth. Am hyn hefyd cofia fi, fy Nuw, ac arbed fi yn ôl lliaws dy drugaredd.
6 A bu ar yr ail prif Saboth, fyned ohono trwy’r ŷd: a’i ddisgyblion a dynasant y tywys, ac a’u bwytasant, gwedi eu rhwbio â’u dwylo. 2 A rhai o’r Phariseaid a ddywedasant wrthynt, Paham yr ydych yn gwneuthur yr hyn nid yw gyfreithlon ei wneuthur ar y Sabothau? 3 A’r Iesu gan ateb iddynt a ddywedodd, Oni ddarllenasoch hyn chwaith, yr hyn a wnaeth Dafydd, pan oedd chwant bwyd arno ef, a’r rhai oedd gydag ef; 4 Y modd yr aeth efe i mewn i dŷ Dduw, ac y cymerth ac y bwytaodd y bara gosod, ac a’i rhoddes hefyd i’r rhai oedd gydag ef; yr hwn nid yw gyfreithlon ei fwyta, ond i’r offeiriaid yn unig? 5 Ac efe a ddywedodd wrthynt, Y mae Mab y dyn yn Arglwydd ar y Saboth hefyd.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.