Revised Common Lectionary (Complementary)
Salm Dafydd.
103 Fy enaid, bendithia yr Arglwydd; a chwbl sydd ynof, ei enw sanctaidd ef. 2 Fy enaid, bendithia yr Arglwydd; ac nac anghofia ei holl ddoniau ef: 3 Yr hwn sydd yn maddau dy holl anwireddau; yr hwn sydd yn iacháu dy holl lesgedd: 4 Yr hwn sydd yn gwaredu dy fywyd o ddistryw: yr hwn sydd yn dy goroni â thrugaredd ac â thosturi: 5 Yr hwn sydd yn diwallu dy enau â daioni; fel yr adnewyddir dy ieuenctid fel yr eryr. 6 Yr Arglwydd sydd yn gwneuthur cyfiawnder a barn i’r rhai gorthrymedig oll. 7 Hysbysodd ei ffyrdd i Moses; ei weithredoedd i feibion Israel. 8 Trugarog a graslon yw yr Arglwydd; hwyrfrydig i lid, a mawr o drugarowgrwydd.
12 Yna Solomon a offrymodd boethoffrymau i’r Arglwydd ar allor yr Arglwydd, yr hon a adeiladasai efe o flaen y porth; 13 I boethoffrymu dogn dydd yn ei ddydd, yn ôl gorchymyn Moses, ar y Sabothau, ac ar y newyddloerau, ac ar y gwyliau arbennig, dair gwaith yn y flwyddyn; sef ar ŵyl y bara croyw, ac ar ŵyl yr wythnosau, ac ar ŵyl y pebyll.
14 Ac efe a osododd, yn ôl trefn Dafydd ei dad, ddosbarthiadau yr offeiriaid yn eu gwasanaeth, a’r Lefiaid yn eu goruchwyliaeth, i foliannu ac i weini gerbron yr offeiriaid, fel yr oedd ddyledus bob dydd yn ei ddydd, a’r porthorion yn eu dosbarthiadau, wrth bob porth: canys felly yr oedd gorchymyn Dafydd gŵr Duw. 15 Ac ni throesant hwy oddi wrth orchymyn y brenin i’r offeiriaid a’r Lefiaid, am un peth, nac am y trysorau.
17 Gwedi iddynt dramwy trwy Amffipolis ac Apolonia, hwy a ddaethant i Thesalonica, lle yr oedd synagog i’r Iddewon. 2 A Phaul, yn ôl ei arfer, a aeth i mewn atynt, a thros dri Saboth a ymresymodd â hwynt allan o’r ysgrythurau, 3 Gan egluro a dodi ger eu bronnau, mai rhaid oedd i Grist ddioddef, a chyfodi oddi wrth y meirw; ac mai hwn yw’r Crist Iesu, yr hwn yr wyf fi yn ei bregethu i chwi. 4 A rhai ohonynt a gredasant, ac a ymwasgasant â Phaul a Silas, ac o’r Groegwyr crefyddol liaws mawr, ac o’r gwragedd pennaf nid ychydig.
5 Eithr yr Iddewon y rhai oedd heb gredu, gan genfigennu, a gymerasant atynt ryw ddynion drwg o grwydriaid; ac wedi casglu tyrfa, hwy a wnaethant gyffro yn y ddinas, ac a osodasant ar dŷ Jason, ac a geisiasant eu dwyn hwynt allan at y bobl. 6 A phan na chawsant hwynt, hwy a lusgasant Jason, a rhai o’r brodyr, at benaethiaid y ddinas, gan lefain, Y rhai sydd yn aflonyddu’r byd, y rhai hynny a ddaethant yma hefyd; 7 Y rhai a dderbyniodd Jason: ac y mae’r rhai hyn oll yn gwneuthur yn erbyn ordeiniadau Cesar, gan ddywedyd fod brenin arall, sef Iesu. 8 A hwy a gyffroesant y dyrfa, a llywodraethwyr y ddinas hefyd, wrth glywed y pethau hyn. 9 Ac wedi iddynt gael sicrwydd gan Jason a’r lleill, hwy a’u gollyngasant hwynt ymaith.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.