Revised Common Lectionary (Complementary)
Salm Dafydd.
103 Fy enaid, bendithia yr Arglwydd; a chwbl sydd ynof, ei enw sanctaidd ef. 2 Fy enaid, bendithia yr Arglwydd; ac nac anghofia ei holl ddoniau ef: 3 Yr hwn sydd yn maddau dy holl anwireddau; yr hwn sydd yn iacháu dy holl lesgedd: 4 Yr hwn sydd yn gwaredu dy fywyd o ddistryw: yr hwn sydd yn dy goroni â thrugaredd ac â thosturi: 5 Yr hwn sydd yn diwallu dy enau â daioni; fel yr adnewyddir dy ieuenctid fel yr eryr. 6 Yr Arglwydd sydd yn gwneuthur cyfiawnder a barn i’r rhai gorthrymedig oll. 7 Hysbysodd ei ffyrdd i Moses; ei weithredoedd i feibion Israel. 8 Trugarog a graslon yw yr Arglwydd; hwyrfrydig i lid, a mawr o drugarowgrwydd.
32 Fel yr ydoedd meibion Israel yn y diffeithwch, cawsant ŵr yn cynuta ar y dydd Saboth. 33 A’r rhai a’i cawsant ef, a’i dygasant ef, sef y cynutwr, at Moses, ac at Aaron, ac at yr holl gynulleidfa. 34 Ac a’i dodasant ef mewn dalfa, am nad oedd hysbys beth a wneid iddo. 35 A dywedodd yr Arglwydd wrth Moses, Lladder y gŵr yn farw: llabyddied yr holl gynulleidfa ef â meini o’r tu allan i’r gwersyll. 36 A’r holl gynulleidfa a’i dygasant ef i’r tu allan i’r gwersyll, ac a’i llabyddiasant ef â meini, fel y bu efe farw; megis y gorchmynnodd yr Arglwydd wrth Moses.
37 A llefarodd yr Arglwydd wrth Moses, gan ddywedyd, 38 Llefara wrth feibion Israel, a dywed wrthynt, am wneuthur iddynt eddi ar odre eu dillad, trwy eu cenedlaethau, a rhoddant bleth o sidan glas ar eddi y godre. 39 A bydded i chwi yn rhidens, i edrych arno, ac i gofio holl orchmynion yr Arglwydd, ac i’w gwneuthur hwynt; ac na chwiliwch yn ôl eich calonnau eich hunain, nac yn ôl eich llygaid eich hunain, y rhai yr ydych yn puteinio ar eu hôl: 40 Fel y cofioch ac y gwneloch fy holl orchmynion i, ac y byddoch sanctaidd i’ch Duw. 41 Myfi ydyw yr Arglwydd eich Duw, yr hwn a’ch dygais chwi allan o dir yr Aifft, i fod i chwi yn Dduw: myfi yw yr Arglwydd eich Duw.
3 Ystyriwch am hynny yr hwn a ddioddefodd gyfryw ddywedyd yn ei erbyn gan bechaduriaid; fel na flinoch, ac nad ymollyngoch yn eich eneidiau. 4 Ni wrthwynebasoch eto hyd at waed, gan ymdrech yn erbyn pechod. 5 A chwi a ollyngasoch dros gof y cyngor, yr hwn sydd yn dywedyd wrthych megis wrth blant, Fy mab, na ddirmyga gerydd yr Arglwydd, ac nac ymollwng pan y’th argyhoedder ganddo: 6 Canys y neb y mae’r Arglwydd yn ei garu, y mae’n ei geryddu; ac yn fflangellu pob mab a dderbynio. 7 Os goddefwch gerydd, y mae Duw yn ymddwyn tuag atoch megis tuag at feibion: canys pa fab sydd, yr hwn nid yw ei dad yn ei geryddu? 8 Eithr os heb gerydd yr ydych, o’r hwn y mae pawb yn gyfrannog; yna bastardiaid ydych, ac nid meibion. 9 Heblaw hynny, ni a gawsom dadau ein cnawd i’n ceryddu, ac a’u parchasom hwy: onid mwy o lawer y byddwn ddarostyngedig i Dad yr ysbrydoedd, a byw? 10 Canys hwynt‐hwy yn wir dros ychydig ddyddiau a’n ceryddent fel y gwelent hwy yn dda; eithr hwn er llesâd i ni, fel y byddem gyfranogion o’i sancteiddrwydd ef. 11 Eto ni welir un cerydd dros yr amser presennol yn hyfryd, eithr yn anhyfryd: ond gwedi hynny y mae yn rhoi heddychol ffrwyth cyfiawnder i’r rhai sydd wedi eu cynefino ag ef. 12 Oherwydd paham cyfodwch i fyny’r dwylo a laesasant, a’r gliniau a ymollyngasant. 13 A gwnewch lwybrau union i’ch traed; fel na throer y cloff allan o’r ffordd, ond yr iachaer efe yn hytrach. 14 Dilynwch heddwch â phawb, a sancteiddrwydd, heb yr hwn ni chaiff neb weled yr Arglwydd: 15 Gan edrych yn ddyfal na bo neb yn pallu oddi wrth ras Duw; rhag bod un gwreiddyn chwerwedd yn tyfu i fyny, ac yn peri blinder, a thrwy hwnnw llygru llawer; 16 Na bo un puteiniwr, neu halogedig, megis Esau, yr hwn am un saig o fwyd a werthodd ei enedigaeth‐fraint. 17 Canys chwi a wyddoch ddarfod wedi hynny hefyd ei wrthod ef, pan oedd efe yn ewyllysio etifeddu’r fendith: oblegid ni chafodd efe le i edifeirwch, er iddo trwy ddagrau ei thaer geisio hi.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.