Revised Common Lectionary (Complementary)
Salm Dafydd, er athrawiaeth.
32 Gwyn ei fyd y neb y maddeuwyd ei drosedd, ac y cuddiwyd ei bechod. 2 Gwyn ei fyd y dyn ni chyfrif yr Arglwydd iddo anwiredd, ac ni byddo dichell yn ei ysbryd. 3 Tra y tewais, heneiddiodd fy esgyrn, gan fy rhuad ar hyd y dydd. 4 Canys trymhaodd dy law arnaf ddydd a nos: fy irder a drowyd yn sychder haf. Sela. 5 Addefais fy mhechod wrthyt, a’m hanwiredd ni chuddiais: dywedais, Cyffesaf yn fy erbyn fy hun fy anwireddau i’r Arglwydd; a thi a faddeuaist anwiredd fy mhechod. Sela. 6 Am hyn y gweddïa pob duwiol arnat ti yn yr amser y’th geffir: yn ddiau yn llifeiriant dyfroedd mawrion, ni chânt nesáu ato ef. 7 Ti ydwyt loches i mi; cedwi fi rhag ing: amgylchyni fi â chaniadau ymwared. Sela. 8 Cyfarwyddaf di, a dysgaf di yn y ffordd yr elych: â’m llygad arnat y’th gynghoraf. 9 Na fyddwch fel march, neu ful, heb ddeall: yr hwn y mae rhaid atal ei ên â genfa, ac â ffrwyn, rhag ei ddynesáu atat. 10 Gofidiau lawer fydd i’r annuwiol: ond y neb a ymddiriedo yn yr Arglwydd, trugaredd a’i cylchyna ef. 11 Y rhai cyfiawn, byddwch lawen a hyfryd yn yr Arglwydd: a’r rhai uniawn o galon oll, cenwch yn llafar.
30 Am hynny proffwyda yn eu herbyn yr holl eiriau hyn, a dywed wrthynt, Yr Arglwydd oddi uchod a rua, ac a rydd ei lef o drigle ei sancteiddrwydd; gan ruo y rhua efe ar ei drigle; bloedd, fel rhai yn sathru grawnwin, a rydd efe yn erbyn holl breswylwyr y ddaear. 31 Daw twrf hyd eithafoedd y ddaear; canys y mae cwyn rhwng yr Arglwydd a’r cenhedloedd: efe a ymddadlau â phob cnawd, y drygionus a ddyry efe i’r cleddyf, medd yr Arglwydd. 32 Fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd; Wele ddrwg yn myned allan o genedl at genedl, a chorwynt mawr yn cyfodi o ystlysau y ddaear. 33 A lladdedigion yr Arglwydd a fyddant y dwthwn hwnnw o’r naill gwr i’r ddaear hyd y cwr arall i’r ddaear: ni alerir drostynt, ac nis cesglir, ac nis cleddir hwynt; fel tomen y byddant ar wyneb y ddaear.
34 Udwch, fugeiliaid, a gwaeddwch; ac ymdreiglwch mewn lludw, chwi flaenoriaid y praidd: canys cyflawnwyd dyddiau eich lladdedigaeth a’ch gwasgarfa; a chwi a syrthiwch fel llestr dymunol. 35 Metha gan y bugeiliaid ffoi, a chan flaenoriaid y praidd ddianc. 36 Clywir llef gwaedd y bugeiliaid, ac udfa blaenoriaid y praidd: canys yr Arglwydd a anrheithiodd eu porfa hwynt. 37 A’r anheddau heddychlon a ddryllir, gan lid digofaint yr Arglwydd. 38 Efe a wrthododd ei loches, fel cenau llew: canys y mae eu tir yn anghyfannedd, gan lid y gorthrymwr, a chan lid ei ddigofaint ef.
45 Ac efe a aeth i mewn i’r deml, ac a ddechreuodd fwrw allan y rhai oedd yn gwerthu ynddi, ac yn prynu; 46 Gan ddywedyd wrthynt, Y mae yn ysgrifenedig, Fy nhŷ i, tŷ gweddi yw: eithr chwi a’i gwnaethoch yn ogof lladron. 47 Ac yr oedd efe beunydd yn athrawiaethu yn y deml. A’r archoffeiriaid, a’r ysgrifenyddion, a phenaethiaid y bobl, a geisient ei ddifetha ef; 48 Ac ni fedrasant gael beth a wnaent: canys yr holl bobl oedd yn glynu wrtho i wrando arno.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.