Print Page Options
Previous Prev Day Next DayNext

Revised Common Lectionary (Complementary)

Daily Bible readings that follow the church liturgical year, with thematically matched Old and New Testament readings.
Duration: 1245 days
Beibl William Morgan (BWM)
Version
Salmau 32

Salm Dafydd, er athrawiaeth.

32 Gwyn ei fyd y neb y maddeuwyd ei drosedd, ac y cuddiwyd ei bechod. Gwyn ei fyd y dyn ni chyfrif yr Arglwydd iddo anwiredd, ac ni byddo dichell yn ei ysbryd. Tra y tewais, heneiddiodd fy esgyrn, gan fy rhuad ar hyd y dydd. Canys trymhaodd dy law arnaf ddydd a nos: fy irder a drowyd yn sychder haf. Sela. Addefais fy mhechod wrthyt, a’m hanwiredd ni chuddiais: dywedais, Cyffesaf yn fy erbyn fy hun fy anwireddau i’r Arglwydd; a thi a faddeuaist anwiredd fy mhechod. Sela. Am hyn y gweddïa pob duwiol arnat ti yn yr amser y’th geffir: yn ddiau yn llifeiriant dyfroedd mawrion, ni chânt nesáu ato ef. Ti ydwyt loches i mi; cedwi fi rhag ing: amgylchyni fi â chaniadau ymwared. Sela. Cyfarwyddaf di, a dysgaf di yn y ffordd yr elych: â’m llygad arnat y’th gynghoraf. Na fyddwch fel march, neu ful, heb ddeall: yr hwn y mae rhaid atal ei ên â genfa, ac â ffrwyn, rhag ei ddynesáu atat. 10 Gofidiau lawer fydd i’r annuwiol: ond y neb a ymddiriedo yn yr Arglwydd, trugaredd a’i cylchyna ef. 11 Y rhai cyfiawn, byddwch lawen a hyfryd yn yr Arglwydd: a’r rhai uniawn o galon oll, cenwch yn llafar.

Jeremeia 23:30-40

30 Am hynny wele fi yn erbyn y proffwydi, medd yr Arglwydd, y rhai sydd yn lladrata fy ngeiriau, bob un oddi ar ei gymydog. 31 Wele fi yn erbyn y proffwydi, medd yr Arglwydd, y rhai a lyfnhânt eu tafodau, ac a ddywedant, Efe a ddywedodd. 32 Wele fi yn erbyn y rhai a broffwydant freuddwydion celwyddog, medd yr Arglwydd, ac a’u mynegant, ac a hudant fy mhobl â’u celwyddau, ac â’u gwagedd, a mi heb eu gyrru hwynt, ac heb orchymyn iddynt: am hynny ni wnânt ddim lles i’r bobl hyn, medd yr Arglwydd.

33 A phan ofynno y bobl hyn, neu y proffwyd, neu yr offeiriad, i ti, gan ddywedyd, Beth yw baich yr Arglwydd? yna y dywedi wrthynt, Pa faich? eich gwrthod a wnaf, medd yr Arglwydd. 34 A’r proffwyd, a’r offeiriad, a’r bobl, y rhai a ddywedo, Baich yr Arglwydd, myfi a ymwelaf â’r gŵr hwnnw, ac â’i dŷ. 35 Fel hyn y dywedwch bob un wrth ei gymydog, a phob un wrth ei frawd, Beth a atebodd yr Arglwydd? a pha beth a lefarodd yr Arglwydd? 36 Ond am faich yr Arglwydd na wnewch goffa mwyach; canys baich i bawb fydd ei air ei hun: oherwydd chwychwi a wyrasoch eiriau y Duw byw, Arglwydd y lluoedd, ein Duw ni. 37 Fel hyn y dywedi wrth y proffwyd, Pa ateb a roddodd yr Arglwydd i ti? a pha beth a lefarodd yr Arglwydd? 38 Ond gan eich bod yn dywedyd, Baich yr Arglwydd; am hynny fel hyn y dywed yr Arglwydd, Am i chwi ddywedyd y gair hwn, Baich yr Arglwydd, a mi wedi anfon atoch, gan ddywedyd, Na ddywedwch, Baich yr Arglwydd: 39 Am hynny wele, myfi a’ch llwyr anghofiaf chwi, ac mi a’ch gadawaf chwi, a’r ddinas yr hon a roddais i chwi ac i’ch tadau, ac a’ch bwriaf allan o’m golwg. 40 A mi a roddaf arnoch warthrudd tragwyddol, a gwaradwydd tragywydd, yr hwn nid anghofir.

1 Ioan 4:1-6

Anwylyd, na chredwch bob ysbryd, eithr profwch yr ysbrydion ai o Dduw y maent: oblegid y mae gau broffwydi lawer wedi myned allan i’r byd. Wrth hyn adnabyddwch Ysbryd Duw: Pob ysbryd a’r sydd yn cyffesu ddyfod Iesu Grist yn y cnawd, o Dduw y mae. A phob ysbryd a’r nid yw yn cyffesu ddyfod Iesu Grist yn y cnawd, nid yw o Dduw: eithr hwn yw ysbryd anghrist, yr hwn y clywsoch ei fod yn dyfod, a’r awron y mae efe yn y byd eisoes. Chwychwi ydych o Dduw, blant bychain, ac a’u gorchfygasoch hwy: oblegid mwy yw’r hwn sydd ynoch chwi na’r hwn sydd yn y byd. Hwynt-hwy, o’r byd y maent: am hynny y llefarant am y byd, a’r byd a wrendy arnynt. Nyni, o Dduw yr ydym. Yr hwn sydd yn adnabod Duw, sydd yn ein gwrando ni: yr hwn nid yw o Dduw, nid yw yn ein gwrando ni. Wrth hyn yr adwaenom ysbryd y gwirionedd, ac ysbryd y cyfeiliorni.

Beibl William Morgan (BWM)

William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.