Print Page Options
Previous Prev Day Next DayNext

Revised Common Lectionary (Complementary)

Daily Bible readings that follow the church liturgical year, with thematically matched Old and New Testament readings.
Duration: 1245 days
Beibl William Morgan (BWM)
Version
Salmau 82

Salm Asaff.

82 Duw sydd yn sefyll yng nghynulleidfa y galluog: ymhlith y duwiau y barn efe. Pa hyd y bernwch ar gam? ac y derbyniwch wyneb y rhai annuwiol? Sela. Bernwch y tlawd a’r amddifad: cyfiawnhewch y cystuddiedig a’r rheidus. Gwaredwch y tlawd a’r anghenus: achubwch hwynt o law y rhai annuwiol. Ni wyddant, ac ni ddeallant; mewn tywyllwch y rhodiant: holl sylfaenau y ddaear a symudwyd o’u lle. Myfi a ddywedais, Duwiau ydych chwi; a meibion y Goruchaf ydych chwi oll. Eithr byddwch feirw fel dynion, ac fel un o’r tywysogion y syrthiwch. Cyfod, O Dduw, barna y ddaear: canys ti a etifeddi yr holl genhedloedd.

1 Samuel 6:1-16

A bu arch yr Arglwydd yng ngwlad y Philistiaid saith o fisoedd. A’r Philistiaid a alwasant am yr offeiriaid ac am y dewiniaid, gan ddywedyd, Beth a wnawn ni i arch yr Arglwydd? hysbyswch i ni pa fodd yr anfonwn hi adref. Dywedasant hwythau, Os ydych ar ddanfon ymaith arch Duw Israel, nac anfonwch hi yn wag; ond gan roddi rhoddwch iddo offrwm dros gamwedd: yna y’ch iacheir, ac y bydd hysbys i chwi paham nad ymadawodd ei law ef oddi wrthych chwi. Yna y dywedasant hwythau, Beth fydd yr offrwm dros gamwedd a roddwn iddo? A hwy a ddywedasant, Pump o ffolennau aur, a phump o lygod aur, yn ôl rhif arglwyddi’r Philistiaid: canys yr un pla oedd arnoch chwi oll, ac ar eich arglwyddi. Am hynny y gwnewch luniau eich ffolennau, a lluniau eich llygod sydd yn difwyno’r tir; a rhoddwch ogoniant i Dduw Israel: ysgatfydd efe a ysgafnha ei law oddi arnoch, ac oddi ar eich duwiau, ac oddi ar eich tir. A phaham y caledwch chwi eich calonnau, megis y caledodd yr Eifftiaid a Pharo eu calon? pan wnaeth efe yn rhyfeddol yn eu plith hwy, oni ollyngasant hwy hwynt i fyned ymaith? Yn awr gan hynny gwnewch fen newydd, a chymerwch ddwy fuwch flith, y rhai nid aeth iau arnynt; a deliwch y buchod dan y fen, a dygwch eu lloi hwynt oddi ar eu hôl i dŷ: A chymerwch arch yr Arglwydd, a rhoddwch hi ar y fen; a’r tlysau aur, y rhai a roddasoch iddi yn offrwm dros gamwedd, a osodwch mewn cist wrth ei hystlys hi, a gollyngwch hi i fyned ymaith. Ac edrychwch, os â hi i fyny ar hyd ffordd ei bro ei hun i Bethsemes; yna efe a wnaeth i ni y mawr ddrwg hwn: ac onid e, yna y cawn wybod nad ei law ef a’n trawodd ni; ond mai damwain oedd hyn i ni.

10 A’r gwŷr a wnaethant felly: ac a gymerasant ddwy fuwch flithion, ac a’u daliasant hwy dan y fen, ac a gaeasant eu lloi mewn tŷ: 11 Ac a osodasant arch yr Arglwydd ar y fen, a’r gist â’r llygod aur, a lluniau eu ffolennau hwynt. 12 A’r buchod a aethant ar hyd y ffordd union i ffordd Bethsemes; ar hyd y briffordd yr aethant, dan gerdded a brefu, ac ni throesant tua’r llaw ddeau na thua’r aswy; ac arglwyddi’r Philistiaid a aethant ar eu hôl hyd derfyn Bethsemes. 13 A thrigolion Bethsemes oedd yn medi eu cynhaeaf gwenith yn y dyffryn: ac a ddyrchafasant eu llygaid, ac a ganfuant yr arch; ac a lawenychasant wrth ei gweled. 14 A’r fen a ddaeth i faes Josua y Bethsemesiad, ac a safodd yno; ac yno yr oedd maen mawr: a hwy a holltasant goed y fen, ac a offrymasant y buchod yn boethoffrwm i’r Arglwydd. 15 A’r Lefiaid a ddisgynasant arch yr Arglwydd, a’r gist yr hon oedd gyda hi, yr hon yr oedd y tlysau aur ynddi, ac a’u gosodasant ar y maen mawr: a gwŷr Bethsemes a offrymasant boethoffrymau, ac a aberthasant ebyrth i’r Arglwydd y dydd hwnnw. 16 A phum arglwydd y Philistiaid, pan welsant hynny, a ddychwelasant i Ecron y dydd hwnnw.

Mathew 24:15-27

15 Am hynny pan weloch y ffieidd‐dra anghyfanheddol, a ddywedwyd trwy Daniel y proffwyd, yn sefyll yn y lle sanctaidd, (y neb a ddarlleno, ystyried;) 16 Yna y rhai a fyddant yn Jwdea, ffoant i’r mynyddoedd. 17 Y neb a fyddo ar ben y tŷ, na ddisgynned i gymryd dim allan o’i dŷ: 18 A’r hwn a fyddo yn y maes, na ddychweled yn ei ôl i gymryd ei ddillad. 19 A gwae’r rhai beichiogion, a’r rhai yn rhoi bronnau, yn y dyddiau hynny. 20 Eithr gweddïwch na byddo eich fföedigaeth yn y gaeaf, nac ar y dydd Saboth: 21 Canys y pryd hwnnw y bydd gorthrymder mawr, y fath ni bu o ddechrau’r byd hyd yr awr hon, ac ni bydd chwaith. 22 Ac oni bai fyrhau’r dyddiau hynny, ni fuasai gadwedig un cnawd oll: eithr er mwyn yr etholedigion fe fyrheir y dyddiau hynny. 23 Yna os dywed neb wrthych, Wele, llyma Grist, neu llyma; na chredwch. 24 Canys cyfyd gau Gristiau, a gau broffwydi, ac a roddant arwyddion mawrion a rhyfeddodau, hyd oni thwyllant, pe byddai bosibl, ie, yr etholedigion. 25 Wele, rhagddywedais i chwi. 26 Am hynny, os dywedant wrthych, Wele, y mae efe yn y diffeithwch; nac ewch allan: wele, yn yr ystafelloedd; na chredwch. 27 Oblegid fel y daw’r fellten o’r dwyrain, ac y tywynna hyd y gorllewin; felly hefyd y bydd dyfodiad Mab y dyn.

Beibl William Morgan (BWM)

William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.