Revised Common Lectionary (Complementary)
12 Gwyn ei byd y genedl y mae yr Arglwydd yn Dduw iddi; a’r bobl a ddetholodd efe yn etifeddiaeth iddo ei hun. 13 Yr Arglwydd sydd yn edrych i lawr o’r nefoedd: y mae yn gweled holl feibion dynion. 14 O breswyl ei drigfa yr edrych efe ar holl drigolion y ddaear. 15 Efe a gydluniodd eu calon hwynt: efe a ddeall eu holl weithredoedd. 16 Ni waredir brenin gan liaws llu: ni ddianc cadarn trwy ei fawr gryfder. 17 Peth ofer yw march i ymwared: ac nid achub efe neb trwy ei fawr gryfder. 18 Wele, y mae llygad yr Arglwydd ar y rhai a’i hofnant ef, sef ar y rhai a obeithiant yn ei drugaredd ef; 19 I waredu eu henaid rhag angau, ac i’w cadw yn fyw yn amser newyn. 20 Ein henaid sydd yn disgwyl am yr Arglwydd: efe yw ein porth a’n tarian. 21 Canys ynddo ef y llawenycha ein calon, oherwydd i ni obeithio yn ei enw sanctaidd ef. 22 Bydded dy drugaredd, Arglwydd, arnom ni, megis yr ydym yn ymddiried ynot.
21 A Job a atebodd ac a ddywedodd, 2 Gan wrando gwrandewch fy ymadrodd; a bydded hyn yn lle eich cysur. 3 Dioddefwch fi, a minnau a lefaraf; ac wedi i mi ddywedyd, gwatwerwch. 4 A minnau, ydwyf fi yn gwneuthur fy nghwyn wrth ddyn? ac os ydwyf, paham na byddai gyfyng ar fy ysbryd? 5 Edrychwch arnaf, a synnwch: a gosodwch eich llaw ar eich genau. 6 Minnau pan gofiwyf, a ofnaf; a dychryn a ymeifl yn fy nghnawd. 7 Paham y mae yr annuwiolion yn byw, yn heneiddio, ac yn cryfhau mewn cyfoeth? 8 Eu had hwy sydd safadwy o’u blaen gyda hwynt, a’u hiliogaeth yn eu golwg. 9 Eu tai sydd mewn heddwch allan o ofn; ac nid ydyw gwialen Duw arnynt hwy. 10 Y mae eu tarw hwynt yn cyfloi, ac ni chyll ei had; ei fuwch ef a fwrw lo, ac nid erthyla. 11 Danfonant allan eu rhai bychain fel diadell, a’u bechgyn a neidiant. 12 Cymerant dympan a thelyn, a llawenychant wrth lais yr organ. 13 Treuliant eu dyddiau mewn daioni, ac mewn moment y disgynnant i’r bedd. 14 Dywedant hefyd wrth Dduw, Cilia oddi wrthym; canys nid ydym yn chwennych gwybod dy ffyrdd. 15 Pa beth ydyw yr Hollalluog, fel y gwasanaethem ef? a pha fudd fydd i ni os gweddïwn arno? 16 Wele, nid ydyw eu daioni hwy yn eu llaw eu hun: pell yw cyngor yr annuwiol oddi wrthyf fi.
9 Y gwirionedd yr wyf fi yn ei ddywedyd yng Nghrist, nid wyf yn dywedyd celwydd, a’m cydwybod hefyd yn cyd‐dystiolaethu â mi yn yr Ysbryd Glân, 2 Fod i mi dristyd mawr, a gofid di‐baid i’m calon. 3 Canys mi a ddymunwn fy mod fy hun yn anathema oddi wrth Grist dros fy mrodyr, sef fy nghenedl yn ôl y cnawd: 4 Y rhai sydd Israeliaid; eiddo y rhai yw’r mabwysiad, a’r gogoniant, a’r cyfamodau, a dodiad y ddeddf, a’r gwasanaeth, a’r addewidion; 5 Eiddo y rhai yw’r tadau; ac o’r rhai yr hanoedd Crist yn ôl y cnawd, yr hwn sydd uwchlaw pawb, yn Dduw bendigedig yn oes oesoedd. Amen. 6 Eithr nid posibl yw myned gair Duw yn ddi‐rym: canys nid Israel yw pawb a’r sydd o Israel. 7 Ac nid ydynt, oblegid eu bod yn had Abraham, i gyd yn blant; eithr, Yn Isaac y gelwir i ti had. 8 Hynny ydyw, Nid plant y cnawd, y rhai hynny sydd blant i Dduw; eithr plant yr addewid a gyfrifir yn had. 9 Canys gair yr addewid yw hwn; Ar yr amser hwn y deuaf, a bydd mab i Sara.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.