Revised Common Lectionary (Complementary)
Caniad y graddau, i Solomon.
127 Os yr Arglwydd nid adeilada y tŷ, ofer y llafuria ei adeiladwyr wrtho: os yr Arglwydd ni cheidw y ddinas, ofer y gwylia y ceidwad. 2 Ofer i chwi foregodi, myned yn hwyr i gysgu, bwyta bara gofidiau: felly y rhydd efe hun i’w anwylyd. 3 Wele, plant ydynt etifeddiaeth yr Arglwydd: ei wobr ef yw ffrwyth y groth. 4 Fel y mae saethau yn llaw y cadarn; felly y mae plant ieuenctid. 5 Gwyn ei fyd y gŵr a lanwodd ei gawell saethau â hwynt: nis gwaradwyddir hwy, pan ymddiddanant â’r gelynion yn y porth.
12 Cofia yn awr dy Greawdwr yn nyddiau dy ieuenctid, cyn dyfod y dyddiau blin, a nesáu o’r blynyddoedd yn y rhai y dywedi, Nid oes i mi ddim diddanwch ynddynt: 2 Cyn tywyllu yr haul, a’r goleuni, a’r lleuad, a’r sêr, a dychwelyd y cymylau ar ôl y glaw: 3 Yr amser y cryna ceidwaid y tŷ, ac y cryma y gwŷr cryfion, ac y metha y rhai sydd yn malu, am eu bod yn ychydig, ac y tywylla y rhai sydd yn edrych trwy ffenestri; 4 A chau y pyrth yn yr heolydd, pan fo isel sŵn y malu, a’i gyfodi wrth lais yr aderyn, a gostwng i lawr holl ferched cerdd: 5 Ie, yr amser yr ofnant yr hyn sydd uchel, ac yr arswydant yn y ffordd, ac y blodeua y pren almon, ac y bydd y ceiliog rhedyn yn faich, ac y palla chwant: pan elo dyn i dŷ ei hir gartref, a’r galarwyr yn myned o bob tu yn yr heol: 6 Cyn torri y llinyn arian, a chyn torri y cawg aur, a chyn torri y piser gerllaw y ffynnon, neu dorri yr olwyn wrth y pydew. 7 Yna y dychwel y pridd i’r ddaear fel y bu, ac y dychwel yr ysbryd at Dduw, yr hwn a’i rhoes ef.
8 Gwagedd o wagedd, medd y Pregethwr; gwagedd yw y cwbl.
13 Swm y cwbl a glybuwyd yw, Ofna Dduw, a chadw ei orchmynion: canys hyn yw holl ddyled dyn. 14 Canys Duw a ddwg bob gweithred i farn, a phob peth dirgel, pa un bynnag fyddo ai da ai drwg.
22 Ac efe a ddywedodd wrth ei ddisgyblion, Am hyn yr wyf yn dywedyd wrthych, Na chymerwch ofal am eich bywyd, beth a fwytaoch; nac am eich corff, beth a wisgoch. 23 Y mae’r bywyd yn fwy na’r ymborth, a’r corff yn fwy na’r dillad. 24 Ystyriwch y brain: canys nid ydynt yn hau nac yn medi; i’r rhai nid oes gell nac ysgubor; ac y mae Duw yn eu porthi hwynt: o ba faint mwy yr ydych chwi yn well na’r adar? 25 A phwy ohonoch, gan gymryd gofal, a ddichon chwanegu un cufydd at ei faintioli? 26 Am hynny, oni ellwch wneuthur y peth lleiaf, paham yr ydych yn cymryd gofal am y lleill? 27 Ystyriwch y lili, pa fodd y maent yn tyfu; nid ydynt yn llafurio, nac yn nyddu: ac yr wyf yn dywedyd i chwi, na wisgwyd Solomon yn ei holl ogoniant fel un o’r rhai hyn. 28 Ac os yw Duw felly yn dilladu’r llysieuyn, yr hwn sydd heddiw yn y maes, ac yfory a deflir i’r ffwrn: pa faint mwy y dillada efe chwychwi, O rai o ychydig ffydd? 29 Chwithau na cheisiwch beth a fwytaoch, neu pa beth a yfoch; ac na fyddwch amheus. 30 Canys y pethau hyn oll y mae cenhedloedd y byd yn eu hargeisio: ac y mae eich Tad chwi yn gwybod fod arnoch chwi eisiau’r pethau hyn.
31 Yn hytrach ceisiwch deyrnas Dduw; a’r pethau hyn oll a roddir i chwi yn chwaneg.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.