Revised Common Lectionary (Complementary)
Caniad y graddau, i Solomon.
127 Os yr Arglwydd nid adeilada y tŷ, ofer y llafuria ei adeiladwyr wrtho: os yr Arglwydd ni cheidw y ddinas, ofer y gwylia y ceidwad. 2 Ofer i chwi foregodi, myned yn hwyr i gysgu, bwyta bara gofidiau: felly y rhydd efe hun i’w anwylyd. 3 Wele, plant ydynt etifeddiaeth yr Arglwydd: ei wobr ef yw ffrwyth y groth. 4 Fel y mae saethau yn llaw y cadarn; felly y mae plant ieuenctid. 5 Gwyn ei fyd y gŵr a lanwodd ei gawell saethau â hwynt: nis gwaradwyddir hwy, pan ymddiddanant â’r gelynion yn y porth.
2 Mi a ddywedais yn fy nghalon, Iddo yn awr, mi a’th brofaf â llawenydd; am hynny cymer dy fyd yn ddifyr: ac wele, hyn hefyd sydd wagedd. 2 Mi a ddywedais am chwerthin, Ynfyd yw: ac am lawenydd, Pa beth a wna? 3 Mi a geisiais yn fy nghalon ymroddi i win, (eto yn arwain fy nghalon mewn doethineb,) ac i gofleidio ffolineb, hyd oni welwn beth oedd y da hwnnw i feibion dynion, yr hyn a wnânt hwy dan y nefoedd holl ddyddiau eu bywyd. 4 Mi a wneuthum i mi waith mawr; mi a adeiledais i mi dai; mi a blennais i mi winllannoedd: 5 Mi a wneuthum erddi a pherllannau, ac a blennais ynddynt brennau o bob ffrwyth: 6 Mi a wneuthum lynnau dwfr, i ddyfrhau â hwynt y llwyni sydd yn dwyn coed: 7 Mi a ddarperais weision a morynion; hefyd yr oedd i mi gaethweision tŷ; ie, yr oeddwn i yn berchen llawer o wartheg a defaid, tu hwnt i bawb a fuasai o’m blaen i yn Jerwsalem: 8 Mi a bentyrrais i mi hefyd arian ac aur, a thrysor pennaf brenhinoedd a thaleithiau: mi a ddarperais i mi gantorion a chantoresau, a phob rhyw offer cerdd, difyrrwch meibion dynion. 9 A mi a euthum yn fawr, ac a gynyddais yn fwy na neb a fuasai o’m blaen i yn Jerwsalem: a’m doethineb oedd yn sefyll gyda mi. 10 A pha beth bynnag a ddeisyfai fy llygaid, ni omeddwn hwynt: ni ataliwn fy nghalon oddi wrth ddim hyfryd; canys fy nghalon a lawenychai yn fy holl lafur; a hyn oedd fy rhan i o’m holl lafur. 11 Yna mi a edrychais ar fy holl weithredoedd a wnaethai fy nwylo, ac ar y llafur a lafuriais yn ei wneuthur: ac wele, hyn oll oedd wagedd a gorthrymder ysbryd, ac nid oedd dim budd dan yr haul. 12 A mi a droais i edrych ar ddoethineb, ac ar ynfydrwydd a ffolineb: canys beth a wnâi y dyn a ddeuai ar ôl y brenin? y peth a wnaed eisoes. 13 Yna mi a welais fod doethineb yn rhagori ar ffolineb, fel y mae goleuni yn rhagori ar dywyllwch. 14 Y doeth sydd â’i lygaid yn ei ben; ond y ffôl a rodia yn y tywyllwch: ac eto mi a welais yr un ddamwain yn digwydd iddynt oll. 15 Yna y dywedais yn fy nghalon, Fel y digwydd i’r ffôl, y digwydd i minnau; pa beth gan hynny a dâl i mi fod yn ddoeth mwyach? Yna y dywedais yn fy nghalon, fod hyn hefyd yn wagedd. 16 Canys ni bydd coffa am y doeth mwy nag am yr annoeth yn dragywydd; y pethau sydd yr awr hon, yn y dyddiau a ddaw a ollyngir oll dros gof: a pha fodd y mae y doeth yn marw? fel yr annoeth. 17 Am hynny cas gennyf einioes, canys blin gennyf y gorchwyl a wneir dan haul; canys gwagedd a gorthrymder ysbryd yw y cwbl.
18 Y gwragedd, ymostyngwch i’ch gwŷr priod, megis y mae yn weddus yn yr Arglwydd. 19 Y gwŷr, cerwch eich gwragedd, ac na fyddwch chwerwon wrthynt. 20 Y plant, ufuddhewch i’ch rhieni ym mhob peth: canys hyn sydd yn rhyngu bodd i’r Arglwydd yn dda. 21 Y tadau, na chyffrowch eich plant, fel na ddigalonnont. 22 Y gweision, ufuddhewch ym mhob peth i’ch meistriaid yn ôl y cnawd; nid â llygad‐wasanaeth, fel bodlonwyr dynion, eithr mewn symlrwydd calon, yn ofni Duw: 23 A pha beth bynnag a wneloch, gwnewch o’r galon, megis i’r Arglwydd, ac nid i ddynion; 24 Gan wybod mai gan yr Arglwydd y derbyniwch daledigaeth yr etifeddiaeth: canys yr Arglwydd Crist yr ydych yn ei wasanaethu. 25 Ond yr hwn sydd yn gwneuthur cam, a dderbyn am y cam a wnaeth: ac nid oes derbyn wyneb.
4 Y meistriaid, gwnewch i’ch gweision yr hyn sydd gyfiawn ac union; gan wybod fod i chwithau Feistr yn y nefoedd.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.