Revised Common Lectionary (Complementary)
I’r Pencerdd, Salm i feibion Cora.
49 Clywch hyn, yr holl bobloedd; gwrandewch hyn, holl drigolion y byd: 2 Yn gystal gwreng a bonheddig, cyfoethog a thlawd ynghyd. 3 Fy ngenau a draetha ddoethineb; a myfyrdod fy nghalon fydd am ddeall. 4 Gostyngaf fy nghlust at ddihareb; fy nameg a ddatguddiaf gyda’r delyn. 5 Paham yr ofnaf yn amser adfyd, pan y’m hamgylchyno anwiredd fy sodlau? 6 Rhai a ymddiriedant yn eu golud, ac a ymffrostiant yn lluosowgrwydd eu cyfoeth. 7 Gan waredu ni wared neb ei frawd, ac ni all efe roddi iawn drosto i Dduw: 8 (Canys gwerthfawr yw pryniad eu henaid, a hynny a baid byth:) 9 Fel y byddo efe byw byth, ac na welo lygredigaeth. 10 Canys efe a wêl fod y doethion yn meirw, yr un ffunud y derfydd am ffôl ac ynfyd, gadawant eu golud i eraill. 11 Eu meddwl yw, y pery eu tai yn dragywydd, a’u trigfeydd hyd genhedlaeth a chenhedlaeth: enwant eu tiroedd ar eu henwau eu hunain. 12 Er hynny dyn mewn anrhydedd, nid erys: tebyg yw i anifeiliaid a ddifethir.
1 Geiriau y Pregethwr, mab Dafydd, brenin yn Jerwsalem. 2 Gwagedd o wagedd, medd y Pregethwr, gwagedd o wagedd; gwagedd yw y cwbl. 3 Pa fudd sydd i ddyn o’i holl lafur a gymer efe dan yr haul? 4 Un genhedlaeth a â ymaith, a chenhedlaeth arall a ddaw: ond y ddaear a saif byth. 5 Yr haul hefyd a gyfyd, a’r haul a fachlud, ac a brysura i’w le lle y mae yn codi. 6 Y gwynt a â i’r deau, ac a amgylcha i’r gogledd: y mae yn myned oddi amgylch yn wastadol, y mae y gwynt yn dychwelyd yn ei gwmpasoedd. 7 Yr holl afonydd a redant i’r môr, eto nid yw y môr yn llawn: o’r lle y daeth yr afonydd, yno y dychwelant eilwaith. 8 Pob peth sydd yn llawn blinder; ni ddichon dyn ei draethu: ni chaiff y llygad ddigon o edrych, ac ni ddigonir y glust â chlywed. 9 Y peth a fu, a fydd; a’r peth a wnaed, a wneir: ac nid oes dim newydd dan yr haul. 10 A oes dim y gellir dywedyd amdano, Edrych ar hwn, dyma beth newydd? efe fu eisoes yn yr hen amser o’n blaen ni. 11 Nid oes goffa am y pethau gynt; ac ni bydd coffa am y pethau a ddaw, gan y rhai a ddaw ar ôl.
17 Ac wedi iddo fyned allan i’r ffordd, rhedodd un ato, a gostyngodd iddo, ac a ofynnodd iddo, O Athro da, beth a wnaf fel yr etifeddwyf fywyd tragwyddol? 18 A’r Iesu a ddywedodd wrtho, Paham y gelwi fi yn dda? nid oes neb da ond un, sef Duw. 19 Ti a wyddost y gorchmynion, Na odineba, Na ladd, Na ladrata, Na chamdystiolaetha, Na chamgolleda, Anrhydedda dy dad a’th fam. 20 Yntau a atebodd ac a ddywedodd wrtho, Athro, y rhai hyn i gyd a gedwais o’m hieuenctid. 21 A’r Iesu gan edrych arno, a’i hoffodd, ac a ddywedodd wrtho, Un peth sydd ddiffygiol i ti: dos, gwerth yr hyn oll sydd gennyt, a dyro i’r tlodion; a thi a gei drysor yn y nef: a thyred, a chymer i fyny y groes, a dilyn fi. 22 Ac efe a bruddhaodd wrth yr ymadrodd, ac a aeth ymaith yn athrist: canys yr oedd ganddo feddiannau lawer.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.