Print Page Options
Previous Prev Day Next DayNext

Revised Common Lectionary (Complementary)

Daily Bible readings that follow the church liturgical year, with thematically matched Old and New Testament readings.
Duration: 1245 days
Beibl William Morgan (BWM)
Version
Salmau 49:1-12

I’r Pencerdd, Salm i feibion Cora.

49 Clywch hyn, yr holl bobloedd; gwrandewch hyn, holl drigolion y byd: Yn gystal gwreng a bonheddig, cyfoethog a thlawd ynghyd. Fy ngenau a draetha ddoethineb; a myfyrdod fy nghalon fydd am ddeall. Gostyngaf fy nghlust at ddihareb; fy nameg a ddatguddiaf gyda’r delyn. Paham yr ofnaf yn amser adfyd, pan y’m hamgylchyno anwiredd fy sodlau? Rhai a ymddiriedant yn eu golud, ac a ymffrostiant yn lluosowgrwydd eu cyfoeth. Gan waredu ni wared neb ei frawd, ac ni all efe roddi iawn drosto i Dduw: (Canys gwerthfawr yw pryniad eu henaid, a hynny a baid byth:) Fel y byddo efe byw byth, ac na welo lygredigaeth. 10 Canys efe a wêl fod y doethion yn meirw, yr un ffunud y derfydd am ffôl ac ynfyd, gadawant eu golud i eraill. 11 Eu meddwl yw, y pery eu tai yn dragywydd, a’u trigfeydd hyd genhedlaeth a chenhedlaeth: enwant eu tiroedd ar eu henwau eu hunain. 12 Er hynny dyn mewn anrhydedd, nid erys: tebyg yw i anifeiliaid a ddifethir.

Diarhebion 24:1-12

24 Na chenfigenna wrth wŷr annuwiol; ac na chwennych fod gyda hwynt: Canys eu calon a fyfyria anrhaith, a’u gwefusau a draetha flinder. Trwy ddoethineb yr adeiledir tŷ, a thrwy ddeall y sicrheir ef: A thrwy wybodaeth y llenwir y celloedd o bob golud gwerthfawr a hyfryd. Gŵr doeth sydd nerthol; a gŵr pwyllog a chwanega ei nerth. Canys trwy gyngor doeth y gwnei dy ryfel: a thrwy lawer o gynghorwyr y bydd diogelwch. Rhy uchel yw doethineb i ffôl; ni egyr efe ei enau yn y porth. Y neb a fwriada ddrygau, a elwir yn ysgeler. Bwriad y ffôl sydd bechod; a ffiaidd gan ddynion y gwatwarus. 10 Os llwfrhei mewn amser cyfyngder, bychan yw dy nerth. 11 Gwared y rhai a lusgir i angau: a ymadawit â’r neb sydd barod i’w lladd? 12 Os dywedi, Wele, ni wyddom ni hyn: onid yw pwyswr y calonnau yn deall? a’r hwn sydd yn cadw dy enaid, oni ŵyr efe? ac oni thâl efe i bob un yn ôl ei weithred?

Effesiaid 4:17-24

17 Hyn gan hynny yr wyf yn ei ddywedyd, ac yn ei dystiolaethu yn yr Arglwydd, na rodioch chwi mwyach fel y mae’r Cenhedloedd eraill yn rhodio, yn oferedd eu meddwl, 18 Wedi tywyllu eu deall, wedi ymddieithrio oddi wrth fuchedd Dduw, trwy’r anwybodaeth sydd ynddynt, trwy ddallineb eu calon: 19 Y rhai wedi diddarbodi, a ymroesant i drythyllwch, i wneuthur pob aflendid yn unchwant. 20 Eithr chwychwi, nid felly y dysgasoch Grist; 21 Os bu i chwi ei glywed ef, ac os dysgwyd chwi ynddo, megis y mae’r gwirionedd yn yr Iesu: 22 Dodi ohonoch heibio, o ran yr ymarweddiad cyntaf, yr hen ddyn, yr hwn sydd lygredig yn ôl y chwantau twyllodrus; 23 Ac ymadnewyddu yn ysbryd eich meddwl; 24 A gwisgo’r dyn newydd, yr hwn yn ôl Duw a grewyd mewn cyfiawnder a gwir sancteiddrwydd.

Beibl William Morgan (BWM)

William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.