Revised Common Lectionary (Complementary)
I’r Pencerdd, Salm i feibion Cora.
49 Clywch hyn, yr holl bobloedd; gwrandewch hyn, holl drigolion y byd: 2 Yn gystal gwreng a bonheddig, cyfoethog a thlawd ynghyd. 3 Fy ngenau a draetha ddoethineb; a myfyrdod fy nghalon fydd am ddeall. 4 Gostyngaf fy nghlust at ddihareb; fy nameg a ddatguddiaf gyda’r delyn. 5 Paham yr ofnaf yn amser adfyd, pan y’m hamgylchyno anwiredd fy sodlau? 6 Rhai a ymddiriedant yn eu golud, ac a ymffrostiant yn lluosowgrwydd eu cyfoeth. 7 Gan waredu ni wared neb ei frawd, ac ni all efe roddi iawn drosto i Dduw: 8 (Canys gwerthfawr yw pryniad eu henaid, a hynny a baid byth:) 9 Fel y byddo efe byw byth, ac na welo lygredigaeth. 10 Canys efe a wêl fod y doethion yn meirw, yr un ffunud y derfydd am ffôl ac ynfyd, gadawant eu golud i eraill. 11 Eu meddwl yw, y pery eu tai yn dragywydd, a’u trigfeydd hyd genhedlaeth a chenhedlaeth: enwant eu tiroedd ar eu henwau eu hunain. 12 Er hynny dyn mewn anrhydedd, nid erys: tebyg yw i anifeiliaid a ddifethir.
23 Pan eisteddych i fwyta gyda thywysog, ystyria yn ddyfal beth sydd ger dy fron: 2 A gosod gyllell ar dy geg, os byddi ddyn blysig. 3 Na ddeisyf ei ddanteithion ef: canys bwyd twyllodrus ydyw. 4 Nac ymflina i ymgyfoethogi: dod heibio dy synnwyr dy hun. 5 A beri di i’th lygaid ehedeg ar y peth nid yw? canys golud yn ddiau a gymer adenydd, ac a eheda ymaith megis eryr tua’r wybr. 6 Na fwyta fwyd y drwg ei lygad; ac na chwennych mo’i ddanteithion ef. 7 Canys fel y meddylia yn ei galon, felly efe a ddywed wrthyt, Bwyta ac yf; a’i galon heb fod gyda thi. 8 Y tamaid a fwyteaist a fwri i fyny, a’th eiriau melys a golli. 9 Na lefara lle y clywo y ffôl: canys efe a ddiystyra ddoethineb dy eiriau. 10 Na symud mo’r hen derfyn; ac na ddos i feysydd yr amddifaid: 11 Canys eu gwaredwr hwynt sydd nerthol; ac a amddiffyn eu cweryl hwynt yn dy erbyn di.
33 O ddyfnder golud doethineb a gwybodaeth Duw! mor anchwiliadwy yw ei farnau ef! a’i ffyrdd, mor anolrheinadwy ydynt! 34 Canys pwy a wybu feddwl yr Arglwydd? neu pwy a fu gynghorwr iddo ef? 35 Neu pwy a roddes iddo ef yn gyntaf, ac fe a delir iddo drachefn? 36 Canys ohono ef, a thrwyddo ef, ac iddo ef, y mae pob peth. Iddo ef y byddo gogoniant yn dragywydd. Amen.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.