Revised Common Lectionary (Complementary)
16 Myfi a waeddaf ar Dduw; a’r Arglwydd a’m hachub i. 17 Hwyr a bore, a hanner dydd, y gweddïaf, a byddaf daer: ac efe a glyw fy lleferydd. 18 Efe a waredodd fy enaid mewn heddwch oddi wrth y rhyfel oedd i’m herbyn: canys yr oedd llawer gyda mi. 19 Duw a glyw, ac a’u darostwng hwynt, yr hwn sydd yn aros erioed: Sela: am nad oes gyfnewidiau iddynt, am hynny nid ofnant Dduw. 20 Efe a estynnodd ei law yn erbyn y rhai oedd heddychlon ag ef: efe a dorrodd ei gyfamod. 21 Llyfnach oedd ei enau nag ymenyn, a rhyfel yn ei galon: tynerach oedd ei eiriau nag olew, a hwynt yn gleddyfau noethion. 22 Bwrw dy faich ar yr Arglwydd, ac efe a’th gynnal di: ni ad i’r cyfiawn ysgogi byth. 23 Tithau, Dduw, a’u disgynni hwynt i bydew dinistr: gwŷr gwaedlyd a thwyllodrus ni byddant byw hanner eu dyddiau; ond myfi a obeithiaf ynot ti.
5 Ac ar y trydydd dydd, Esther a ymwisgodd mewn brenhinol wisgoedd, ac a safodd yng nghyntedd tŷ y brenin o’r tu mewn, ar gyfer tŷ y brenin: a’r brenin oedd yn eistedd ar ei deyrngadair yn y brenhindy gyferbyn â drws y tŷ. 2 A phan welodd y brenin Esther y frenhines yn sefyll yn y cyntedd, hi a gafodd ffafr yn ei olwg ef: a’r brenin a estynnodd y deyrnwialen aur oedd yn ei law ef tuag at Esther; ac Esther a nesaodd, ac a gyffyrddodd â phen y deyrnwialen. 3 Yna y brenin a ddywedodd wrthi, Beth a fynni di, y frenhines Esther? a pha beth yw dy ddeisyfiad? hyd yn hanner y frenhiniaeth, ac fe a’i rhoddir i ti. 4 A dywedodd Esther, O rhynga bodd i’r brenin, deled y brenin a Haman heddiw i’r wledd a wneuthum iddo. 5 A’r brenin a ddywedodd, Perwch i Haman frysio i wneuthur yn ôl gair Esther. Felly y daeth y brenin a Haman i’r wledd a wnaethai Esther.
6 A’r brenin a ddywedodd wrth Esther yng nghyfeddach y gwin, Beth yr wyt ti yn ei ofyn, ac fe a roddir i ti? a pheth yr wyt ti yn ei geisio? gofyn hyd yn hanner y frenhiniaeth, ac fe a’i cwblheir. 7 Ac Esther a atebodd, ac a ddywedodd, Fy nymuniad a’m deisyfiad yw, 8 O chefais ffafr yng ngolwg y brenin, ac o rhyglydda bodd i’r brenin roddi fy nymuniad, a gwneuthur fy neisyfiad; deled y brenin a Haman i’r wledd a arlwywyf iddynt, ac yfory y gwnaf yn ôl gair y brenin.
9 Yna Haman a aeth allan y dwthwn hwnnw yn llawen, ac yn hyfryd ei galon: ond pan welodd Haman Mordecai ym mhorth y brenin, na chyfodasai efe, ac na syflasai erddo ef, Haman a gyflawnwyd o ddicllonedd yn erbyn Mordecai. 10 Er hynny Haman a ymataliodd; a phan ddaeth i’w dŷ ei hun, efe a anfonodd, ac a alwodd am ei garedigion, a Seres ei wraig. 11 A Haman a adroddodd iddynt ogoniant ei gyfoeth, ac amldra ei feibion, a’r hyn oll y mawrhasai y brenin ef ynddynt, ac fel y dyrchafasai y brenin ef goruwch y tywysogion a gweision y brenin. 12 A dywedodd Haman hefyd, Ni wahoddodd Esther y frenhines neb gyda’r brenin i’r wledd a wnaethai hi, ond myfi; ac yfory hefyd y’m gwahoddwyd ati hi gyda’r brenin. 13 Ond nid yw hyn oll yn llesau i mi, tra fyddwyf fi yn gweled Mordecai yr Iddew yn eistedd ym mhorth y brenin.
14 Yna y dywedodd Seres ei wraig, a’i holl garedigion wrtho, Paratoer pren o ddeg cufydd a deugain o uchder, a’r bore dywed wrth y brenin am grogi Mordecai arno; yna dos gyda’r brenin i’r wledd yn llawen. A da oedd y peth gerbron Haman, am hynny efe a baratôdd y crocbren.
16 Am hynny na farned neb arnoch chwi am fwyd, neu am ddiod, neu o ran dydd gŵyl, neu newyddloer, neu Sabothau: 17 Y rhai ydynt gysgod pethau i ddyfod; ond y corff sydd o Grist. 18 Na thwylled neb chwi am eich gwobr, wrth ei ewyllys, mewn gostyngeiddrwydd, ac addoliad angylion, gan ruthro i bethau nis gwelodd, wedi ymchwyddo yn ofer gan ei feddwl cnawdol ei hun; 19 Ac heb gyfatal y Pen, o’r hwn y mae’r holl gorff, trwy’r cymalau a’r cysylltiadau, yn derbyn lluniaeth, ac wedi ei gydgysylltu, yn cynyddu gan gynnydd Duw. 20 Am hynny, os ydych wedi marw gyda Christ oddi wrth egwyddorion y byd, paham yr ydych, megis petech yn byw yn y byd, yn ymroi i ordeiniadau, 21 (Na chyffwrdd; ac nac archwaetha; ac na theimla; 22 Y rhai ydynt oll yn llygredigaeth wrth eu harfer;) yn ôl gorchmynion ac athrawiaethau dynion? 23 Yr hyn bethau sydd ganddynt rith doethineb mewn ewyllys‐grefydd, a gostyngeiddrwydd, a bod heb arbed y corff, nid mewn bri i ddigoni’r cnawd.
3 Am hynny os cydgyfodasoch gyda Christ, ceisiwch y pethau sydd uchod, lle mae Crist yn eistedd ar ddeheulaw Duw.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.