Print Page Options
Previous Prev Day Next DayNext

Revised Common Lectionary (Complementary)

Daily Bible readings that follow the church liturgical year, with thematically matched Old and New Testament readings.
Duration: 1245 days
Beibl William Morgan (BWM)
Version
Genesis 18:20-32

20 Yr Arglwydd hefyd a ddywedodd, Am fod gwaedd Sodom a Gomorra yn ddirfawr, a’u pechod hwynt yn drwm iawn; 21 Disgynnaf yn awr, ac edrychaf, ai yn ôl eu gwaedd a ddaeth ataf fi, y gwnaethant yn hollol: ac onid e, mynnaf wybod. 22 A’r gwŷr a droesant oddi yno, ac a aethant tua Sodom: ac Abraham yn sefyll eto gerbron yr Arglwydd.

23 Abraham hefyd a nesaodd, ac a ddywedodd, A ddifethi di y cyfiawn hefyd ynghyd â’r annuwiol? 24 Ond odid y mae deg a deugain o rai cyfiawn yn y ddinas: a ddifethi di hwynt hefyd, ac nid arbedi y lle er mwyn y deg a deugain cyfiawn sydd o’i mewn hi? 25 Na byddo i ti wneuthur y cyfryw beth, gan ladd y cyfiawn gyda’r annuwiol, fel y byddo’r cyfiawn megis yr annuwiol: na byddo hynny i ti: oni wna Barnydd yr holl ddaear farn? 26 A dywedodd yr Arglwydd, Os caf fi yn Sodom ddeg a deugain yn gyfiawn o fewn y ddinas, mi a arbedaf yr holl fangre er eu mwyn hwynt. 27 Ac Abraham a atebodd, ac a ddywedodd, Wele yn awr y dechreuais lefaru wrth fy Arglwydd, a mi yn llwch ac yn lludw. 28 Ond odid bydd pump yn eisiau o’r deg a deugain cyfiawn: a ddifethi di yr holl ddinas er pump? Yntau a ddywedodd, Na ddifethaf, os caf yno bump a deugain. 29 Ac efe a chwanegodd lefaru wrtho ef eto, ac a ddywedodd, Ond odid ceir yno ddeugain. Yntau a ddywedodd, Nis gwnaf er mwyn y deugain. 30 Ac efe a ddywedodd, O na ddigied fy Arglwydd os llefaraf: Ceir yno ond odid ddeg ar hugain. Yntau a ddywedodd, Nis gwnaf os caf yno ddeg ar hugain. 31 Yna y dywedodd efe, Wele yn awr y dechreuais lefaru wrth fy Arglwydd: Ond odid ceir yno ugain. Yntau a ddywedodd, Nis difethaf er mwyn ugain. 32 Yna y dywedodd, O na ddigied fy Arglwydd, a llefaraf y waith hon yn unig: Ond odid ceir yno ddeg. Yntau a ddywedodd, Nis difethaf er mwyn deg.

Salmau 138

Salm Dafydd.

138 Clodforaf di â’m holl galon: yng ngŵydd y duwiau y canaf i ti. Ymgrymaf tua’th deml sanctaidd, a chlodforaf dy enw, am dy drugaredd a’th wirionedd: oblegid ti a fawrheaist dy air uwchlaw dy enw oll. Y dydd y llefais, y’m gwrandewaist; ac a’m cadarnheaist â nerth yn fy enaid. Holl frenhinoedd y ddaear a’th glodforant, O Arglwydd, pan glywant eiriau dy enau. Canant hefyd am ffyrdd yr Arglwydd: canys mawr yw gogoniant yr Arglwydd. Er bod yr Arglwydd yn uchel, eto efe a edrych ar yr isel: ond y balch a edwyn efe o hirbell. Pe rhodiwn yng nghanol cyfyngder, ti a’m bywheit: estynnit dy law yn erbyn digofaint fy ngelynion, a’th ddeheulaw a’m hachubai. Yr Arglwydd a gyflawna â mi: dy drugaredd, Arglwydd, sydd yn dragywydd: nac esgeulusa waith dy ddwylo.

Colosiaid 2:6-15

Megis gan hynny y derbyniasoch Grist Iesu yr Arglwydd, felly rhodiwch ynddo; Wedi eich gwreiddio a’ch adeiladu ynddo ef, a’ch cadarnhau yn y ffydd, megis y’ch dysgwyd, gan gynyddu ynddi mewn diolchgarwch. Edrychwch na bo neb yn eich anrheithio trwy philosophi a gwag dwyll, yn ôl traddodiad dynion, yn ôl egwyddorion y byd, ac nid yn ôl Crist. Oblegid ynddo ef y mae holl gyflawnder y Duwdod yn preswylio yn gorfforol. 10 Ac yr ydych chwi wedi eich cyflawni ynddo ef, yr hwn yw pen pob tywysogaeth ac awdurdod: 11 Yn yr hwn hefyd y’ch enwaedwyd ag enwaediad nid o waith llaw, trwy ddiosg corff pechodau’r cnawd, yn enwaediad Crist: 12 Wedi eich cydgladdu ag ef yn y bedydd, yn yr hwn hefyd y’ch cyd-gyfodwyd trwy ffydd gweithrediad Duw yr hwn a’i cyfododd ef o feirw. 13 A chwithau, pan oeddech yn feirw mewn camweddau, a dienwaediad eich cnawd, a gydfywhaodd efe gydag ef, gan faddau i chwi yr holl gamweddau; 14 Gan ddileu ysgrifen‐law yr ordeiniadau, yr hon oedd i’n herbyn ni, yr hon oedd yng ngwrthwyneb i ni, ac a’i cymerodd hi oddi ar y ffordd, gan ei hoelio wrth y groes; 15 Gan ysbeilio’r tywysogaethau a’r awdurdodau, efe a’u harddangosodd hwy ar gyhoedd, gan ymorfoleddu arnynt arni hi.

Colosiaid 2:16-19

16 Am hynny na farned neb arnoch chwi am fwyd, neu am ddiod, neu o ran dydd gŵyl, neu newyddloer, neu Sabothau: 17 Y rhai ydynt gysgod pethau i ddyfod; ond y corff sydd o Grist. 18 Na thwylled neb chwi am eich gwobr, wrth ei ewyllys, mewn gostyngeiddrwydd, ac addoliad angylion, gan ruthro i bethau nis gwelodd, wedi ymchwyddo yn ofer gan ei feddwl cnawdol ei hun; 19 Ac heb gyfatal y Pen, o’r hwn y mae’r holl gorff, trwy’r cymalau a’r cysylltiadau, yn derbyn lluniaeth, ac wedi ei gydgysylltu, yn cynyddu gan gynnydd Duw.

Luc 11:1-13

11 A bu, ac efe mewn rhyw fan yn gweddïo, pan beidiodd, ddywedyd o un o’i ddisgyblion wrtho, Arglwydd, dysg i ni weddïo, megis ag y dysgodd Ioan i’w ddisgyblion. Ac efe a ddywedodd wrthynt, Pan weddïoch, dywedwch, Ein Tad yr hwn wyt yn y nefoedd, Sancteiddier dy enw. Deued dy deyrnas. Gwneler dy ewyllys, megis yn y nef, felly ar y ddaear hefyd. Dyro i ni o ddydd i ddydd ein bara beunyddiol. A maddau i ni ein pechodau: canys yr ydym ninnau yn maddau i bawb sydd yn ein dyled. Ac nac arwain ni i brofedigaeth; eithr gwared ni rhag drwg. Ac efe a ddywedodd wrthynt, Pwy ohonoch fydd iddo gyfaill, ac a â ato hanner nos, ac a ddywed wrtho, O gyfaill, moes i mi dair torth yn echwyn; Canys cyfaill i mi a ddaeth ataf wrth ymdaith, ac nid oes gennyf ddim i’w ddodi ger ei fron ef: Ac yntau oddi mewn a etyb ac a ddywed, Na flina fi: yn awr y mae’r drws yn gaead, a’m plant gyda mi yn y gwely; ni allaf godi a’u rhoddi i ti. Yr wyf yn dywedyd i chwi, Er na chyfyd efe a rhoddi iddo, am ei fod yn gyfaill iddo; eto oherwydd ei daerni, efe a gyfyd, ac a rydd iddo gynifer ag y sydd arno eu heisiau. Ac yr ydwyf yn dywedyd i chwi, Gofynnwch, a rhoddir i chwi; ceisiwch, a chwi a gewch; curwch, ac fe a agorir i chwi. 10 Canys pob un sydd yn gofyn, sydd yn derbyn; a’r neb sydd yn ceisio, sydd yn cael; ac i’r hwn sydd yn curo, yr agorir. 11 Os bara a ofyn mab i un ohonoch chwi sydd dad, a ddyry efe garreg iddo? ac os pysgodyn, a ddyry efe iddo sarff yn lle pysgodyn? 12 Neu os gofyn efe wy, a ddyry efe ysgorpion iddo? 13 Os chwychwi gan hynny, y rhai ydych ddrwg, a fedrwch roi rhoddion da i’ch plant chwi; pa faint mwy y rhydd eich Tad o’r nef yr Ysbryd Glân i’r rhai a ofynno ganddo?

Beibl William Morgan (BWM)

William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.