Revised Common Lectionary (Complementary)
97 Mor gu gennyf dy gyfraith di! hi yw fy myfyrdod beunydd. 98 A’th orchmynion yr ydwyt yn fy ngwneuthur yn ddoethach na’m gelynion: canys byth y maent gyda mi. 99 Deellais fwy na’m holl athrawon: oherwydd dy dystiolaethau yw fy myfyrdod. 100 Deellais yn well na’r henuriaid, am fy mod yn cadw dy orchmynion di. 101 Ateliais fy nhraed oddi wrth bob llwybr drwg, fel y cadwn dy air di. 102 Ni chiliais oddi wrth dy farnedigaethau: oherwydd ti a’m dysgaist. 103 Mor felys yw dy eiriau i’m genau! melysach na mêl i’m safn. 104 Trwy dy orchmynion di y pwyllais: am hynny y caseais bob gau lwybr.NUN
9 Doethineb a adeiladodd ei thŷ, hi a naddodd ei saith golofn. 2 Hi a laddodd ei hanifeiliaid; hi a gymysgodd ei gwin, ac a huliodd ei bwrdd. 3 Hi a yrrodd ei llawforynion: y mae yn llefain oddi ar fannau uchel y ddinas: 4 Pwy bynnag sydd annichellgar, tröed i mewn yma: ac wrth yr annoeth y mae hi yn dywedyd, 5 Deuwch, a bwytewch o’m bara, ac yfwch o’r gwin a gymysgais. 6 Ymadewch â’r rhai ffôl, a byddwch fyw; a cherddwch yn ffordd deall. 7 Yr hwn a geryddo watwarwr, a gaiff waradwydd iddo ei hun: a’r hwn a feio ar y drygionus, a gaiff anaf. 8 Na cherydda watwarwr, rhag iddo dy gasáu: cerydda y doeth, ac efe a’th gâr di. 9 Dyro addysg i’r doeth, ac efe fydd doethach: dysg y cyfiawn, ac efe a chwanega ei ddysgeidiaeth. 10 Dechreuad doethineb yw ofn yr Arglwydd: a gwybodaeth y sanctaidd yw deall. 11 Canys trwof fi yr amlheir dy ddyddiau, ac y chwanegir blynyddoedd dy einioes. 12 Os doeth fyddi, doeth fyddi i ti dy hun: ond os gwatwarwr fyddi, tydi dy hun a’i dygi.
13 Gwraig ffôl a fydd siaradus; angall yw, ac ni ŵyr ddim: 14 Canys hi a eistedd ar ddrws ei thŷ, ar fainc, yn y lleoedd uchel yn y ddinas, 15 I alw ar y neb a fyddo yn myned heibio, y rhai sydd yn cerdded eu ffyrdd yn uniawn: 16 Pwy bynnag sydd ehud, tröed yma: a phwy bynnag sydd ddisynnwyr, a hi a ddywed wrtho, 17 Dyfroedd lladrad sydd felys, a bara cudd sydd beraidd. 18 Ond ni ŵyr efe mai meirw yw y rhai sydd yno; a bod ei gwahoddwyr hi yn nyfnder uffern.
2 Fy mhlant bychain, y pethau hyn yr wyf yn eu hysgrifennu atoch, fel na phechoch. Ac o phecha neb, y mae i ni Eiriolwr gyda’r Tad, Iesu Grist y Cyfiawn: 2 Ac efe yw’r iawn dros ein pechodau ni: ac nid dros yr eiddom ni yn unig, eithr dros bechodau yr holl fyd. 3 Ac wrth hyn y gwyddom yr adwaenom ef, os cadwn ni ei orchmynion ef. 4 Yr hwn sydd yn dywedyd, Mi a’i hadwaen ef, ac heb gadw ei orchmynion ef, celwyddog yw, a’r gwirionedd nid yw ynddo. 5 Eithr yr hwn a gadwo ei air ef, yn wir yn hwn y mae cariad Duw yn berffaith: wrth hyn y gwyddom ein bod ynddo ef. 6 Yr hwn a ddywed ei fod yn aros ynddo ef, a ddylai yntau felly rodio, megis ag y rhodiodd ef.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.