Revised Common Lectionary (Complementary)
97 Mor gu gennyf dy gyfraith di! hi yw fy myfyrdod beunydd. 98 A’th orchmynion yr ydwyt yn fy ngwneuthur yn ddoethach na’m gelynion: canys byth y maent gyda mi. 99 Deellais fwy na’m holl athrawon: oherwydd dy dystiolaethau yw fy myfyrdod. 100 Deellais yn well na’r henuriaid, am fy mod yn cadw dy orchmynion di. 101 Ateliais fy nhraed oddi wrth bob llwybr drwg, fel y cadwn dy air di. 102 Ni chiliais oddi wrth dy farnedigaethau: oherwydd ti a’m dysgaist. 103 Mor felys yw dy eiriau i’m genau! melysach na mêl i’m safn. 104 Trwy dy orchmynion di y pwyllais: am hynny y caseais bob gau lwybr.NUN
18 Pan glywodd Jethro, offeiriad Midian, chwegrwn Moses, yr hyn oll a wnaethai Duw i Moses, ac i Israel ei bobl, a dwyn o’r Arglwydd Israel allan o’r Aifft; 2 Yna Jethro, chwegrwn Moses, a gymerodd Seffora gwraig Moses, (wedi ei hebrwng hi yn ei hôl,) 3 A’i dau fab hi; o ba rai enw un oedd Gersom: oblegid efe a ddywedasai, Dieithr fûm mewn gwlad estronol. 4 Ac enw y llall oedd Elieser: oherwydd Duw fy nhad oedd gynhorthwy i mi (eb efe), ac a’m hachubodd rhag cleddyf Pharo. 5 A Jethro, chwegrwn Moses, a ddaeth â’i feibion a’i wraig at Moses i’r anialwch, lle yr ydoedd efe yn gwersyllu gerllaw mynydd Duw. 6 Ac efe a ddywedodd wrth Moses, Myfi Jethro, dy chwegrwn di, sydd yn dyfod atat ti, a’th wraig a’i dau fab gyda hi.
7 A Moses a aeth allan i gyfarfod â’i chwegrwn; ac a ymgrymodd, ac a’i cusanodd; a chyfarchasant well bob un i’w gilydd: a daethant i’r babell. 8 A Moses a fynegodd i’w chwegrwn yr hyn oll a wnaethai yr Arglwydd i Pharo ac i’r Eifftiaid, er mwyn Israel; a’r holl flinder a gawsent ar y ffordd, ac achub o’r Arglwydd hwynt. 9 A llawenychodd Jethro oherwydd yr holl ddaioni a wnaethai yr Arglwydd i Israel; yr hwn a waredasai efe o law yr Eifftiaid. 10 A dywedodd Jethro, Bendigedig fyddo yr Arglwydd, yr hwn a’ch gwaredodd o law yr Eifftiaid, ac o law Pharo; yr hwn a waredodd y bobl oddi tan law yr Eifftiaid. 11 Yn awr y gwn mai mwy ydyw yr Arglwydd na’r holl dduwiau: oblegid yn y peth yr oeddynt falch ohono, yr oedd efe yn uwch na hwynt. 12 A Jethro, chwegrwn Moses, a gymerodd boethoffrwm ac ebyrth i Dduw: a daeth Aaron, a holl henuriaid Israel, i fwyta bara gyda chwegrwn Moses, gerbron Duw.
27 I’r rhai yr ewyllysiodd Duw hysbysu beth yw golud gogoniant y dirgelwch hwn ymhlith y Cenhedloedd; yr hwn yw Crist ynoch chwi, gobaith y gogoniant: 28 Yr hwn yr ydym ni yn ei bregethu, gan rybuddio pob dyn, a dysgu pob dyn ym mhob doethineb; fel y cyflwynom bob dyn yn berffaith yng Nghrist Iesu: 29 Am yr hyn yr ydwyf hefyd yn llafurio, gan ymdrechu yn ôl ei weithrediad ef, yr hwn sydd yn gweithio ynof fi yn nerthol.
2 Canys mi a ewyllysiwn i chwi wybod pa faint o ymdrech sydd arnaf er eich mwyn chwi, a’r rhai yn Laodicea, a chynifer ag ni welsant fy wyneb i yn y cnawd; 2 Fel y cysurid eu calonnau hwy, wedi eu cydgysylltu mewn cariad, ac i bob golud sicrwydd deall, i gydnabyddiaeth dirgelwch Duw, a’r Tad, a Christ; 3 Yn yr hwn y mae holl drysorau doethineb a gwybodaeth yn guddiedig. 4 A hyn yr ydwyf yn ei ddywedyd, fel na thwyllo neb chwi ag ymadrodd hygoel. 5 Canys er fy mod i yn absennol yn y cnawd, er hynny yr ydwyf gyda chwi yn yr ysbryd, yn llawenychu, ac yn gweled eich trefn chwi, a chadernid eich ffydd yng Nghrist. 6 Megis gan hynny y derbyniasoch Grist Iesu yr Arglwydd, felly rhodiwch ynddo; 7 Wedi eich gwreiddio a’ch adeiladu ynddo ef, a’ch cadarnhau yn y ffydd, megis y’ch dysgwyd, gan gynyddu ynddi mewn diolchgarwch.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.