Print Page Options
Previous Prev Day Next DayNext

Revised Common Lectionary (Complementary)

Daily Bible readings that follow the church liturgical year, with thematically matched Old and New Testament readings.
Duration: 1245 days
Beibl William Morgan (BWM)
Version
Salmau 15

Salm Dafydd.

15 Arglwydd, pwy a drig yn dy babell? pwy a breswylia ym mynydd dy sancteiddrwydd? Yr hwn a rodia yn berffaith, ac a wnêl gyfiawnder, ac a ddywed wir yn ei galon: Heb absennu â’i dafod, heb wneuthur drwg i’w gymydog, ac heb dderbyn enllib yn erbyn ei gymydog. Yr hwn y mae y drygionus yn ddirmygus yn ei olwg; ond a anrhydedda y rhai a ofnant yr Arglwydd: yr hwn a dwng i’w niwed ei hun, ac ni newidia. Yr hwn ni roddes ei arian ar usuriaeth, ac ni chymer wobr yn erbyn y gwirion. A wnelo hyn, nid ysgogir yn dragywydd.

Genesis 14:1-16

14 A bu yn nyddiau Amraffel brenin Sinar, Arioch brenin Elasar, Cedorlaomer brenin Elam, a Thidal brenin y cenhedloedd; Wneuthur ohonynt ryfel â Bera brenin Sodom, ac â Birsa brenin Gomorra, â Sinab brenin Adma, ac â Semeber brenin Seboim, ac â brenin Bela, hon yw Soar. Y rhai hyn oll a ymgyfarfuant yn nyffryn Sidim: hwnnw yw’r môr heli. Deuddeng mlynedd y gwasanaethasant Cedorlaomer, a’r drydedd flwyddyn ar ddeg y gwrthryfelasant. A’r bedwaredd flwyddyn ar ddeg y daeth Cedorlaomer, a’r brenhinoedd y rhai oedd gydag ef, ac a drawsant y Reffaimiaid yn Asteroth‐Carnaim, a’r Susiaid yn Ham, a’r Emiaid yn Safe-Ciriathaim, A’r Horiaid yn eu mynydd Seir, hyd wastadedd Paran, yr hwn sydd wrth yr anialwch. Yna y dychwelasant, ac y daethant i Enmispat, honno yw Cades, ac a drawsant holl wlad yr Amaleciaid, a’r Amoriaid hefyd, y rhai oedd yn trigo yn Haseson‐tamar. Allan hefyd yr aeth brenin Sodom, a brenin Gomorra, a brenin Adma, a brenin Seboim, a brenin Bela, honno yw Soar: ac yn nyffryn Sidim y lluniaethasant ryfel â hwynt; A Chedorlaomer brenin Elam, a Thidal brenin y cenhedloedd, ac Amraffel brenin Sinar, ac Arioch brenin Elasar: pedwar brenin yn erbyn pump. 10 A dyffryn Sidim oedd lawn o byllau clai; a brenhinoedd Sodom a Gomorra a ffoesant, ac a syrthiasant yno: a’r lleill a ffoesant i’r mynydd. 11 A hwy a gymerasant holl gyfoeth Sodom a Gomorra, a’u holl luniaeth hwynt, ac a aethant ymaith. 12 Cymerasant hefyd Lot nai fab brawd Abram, a’i gyfoeth, ac a aethant ymaith; oherwydd yn Sodom yr ydoedd efe yn trigo. 13 A daeth un a ddianghasai, ac a fynegodd i Abram yr Hebread, ac efe yn trigo yng ngwastadedd Mamre yr Amoriad, brawd Escol, a brawd Aner; a’r rhai hyn oedd mewn cynghrair ag Abram. 14 A phan glybu Abram gaethgludo ei frawd, efe a arfogodd o’i hyfforddus weision a anesid yn ei dŷ ef, ddeunaw a thri chant, ac a ymlidiodd hyd Dan. 15 As efe a ymrannodd yn eu herbyn hwy liw nos, efe a’i weision, ac a’u trawodd hwynt, ac a’u hymlidiodd hyd Hoba, yr hon sydd o’r tu aswy i Damascus. 16 Ac efe a ddug drachefn yr holl gyfoeth, a’i frawd Lot hefyd, a’i gyfoeth, a ddug efe drachefn, a’r gwragedd hefyd, a’r bobl.

Luc 8:4-10

Ac wedi i lawer o bobl ymgynnull ynghyd, a chyrchu ato o bob dinas, efe a ddywedodd ar ddameg: Yr heuwr a aeth allan i hau ei had: ac wrth hau, peth a syrthiodd ar ymyl y ffordd, ac a fathrwyd; ac ehediaid y nef a’i bwytaodd. A pheth arall a syrthiodd ar y graig; a phan eginodd, y gwywodd, am nad oedd iddo wlybwr. A pheth arall a syrthiodd ymysg drain; a’r drain a gyd‐dyfasant, ac a’i tagasant ef. A pheth arall a syrthiodd ar dir da; ac a eginodd, ac a ddug ffrwyth ar ei ganfed. Wrth ddywedyd y pethau hyn, efe a lefodd, Y neb sydd â chlustiau ganddo i wrando, gwrandawed. A’i ddisgyblion a ofynasant iddo, gan ddywedyd, Pa ddameg oedd hon? 10 Yntau a ddywedodd, I chwi y rhoddwyd gwybod dirgeloedd teyrnas Dduw; eithr i eraill ar ddamhegion; fel yn gweled na welant, ac yn clywed na ddeallant.

Beibl William Morgan (BWM)

William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.