Print Page Options
Previous Prev Day Next DayNext

Revised Common Lectionary (Complementary)

Daily Bible readings that follow the church liturgical year, with thematically matched Old and New Testament readings.
Duration: 1245 days
Beibl William Morgan (BWM)
Version
Salmau 15

Salm Dafydd.

15 Arglwydd, pwy a drig yn dy babell? pwy a breswylia ym mynydd dy sancteiddrwydd? Yr hwn a rodia yn berffaith, ac a wnêl gyfiawnder, ac a ddywed wir yn ei galon: Heb absennu â’i dafod, heb wneuthur drwg i’w gymydog, ac heb dderbyn enllib yn erbyn ei gymydog. Yr hwn y mae y drygionus yn ddirmygus yn ei olwg; ond a anrhydedda y rhai a ofnant yr Arglwydd: yr hwn a dwng i’w niwed ei hun, ac ni newidia. Yr hwn ni roddes ei arian ar usuriaeth, ac ni chymer wobr yn erbyn y gwirion. A wnelo hyn, nid ysgogir yn dragywydd.

Genesis 12:10-20

10 Ac yr oedd newyn yn y tir; ac Abram a aeth i waered i’r Aifft, i ymdeithio yno, am drymhau o’r newyn yn y wlad. 11 A bu, ac efe yn nesáu i fyned i mewn i’r Aifft, ddywedyd ohono wrth Sarai ei wraig, Wele, yn awr mi a wn mai gwraig lân yr olwg wyt ti: 12 A phan welo’r Eifftiaid dydi, hwy a ddywedant, Dyma’i wraig ef; a hwy a’m lladdant i, a thi a adawant yn fyw. 13 Dywed, atolwg, mai fy chwaer wyt ti: fel y byddo da i mi er dy fwyn di, ac y byddwyf fyw o’th blegid di.

14 A bu, pan ddaeth Abram i’r Aifft, i’r Eifftiaid edrych ar y wraig, mai glân odiaeth oedd hi. 15 A thywysogion Pharo a’i gwelsant hi, ac a’i canmolasant hi wrth Pharo: a’r wraig a gymerwyd i dŷ Pharo. 16 Ac efe a fu dda wrth Abram er ei mwyn hi: ac yr oedd ganddo ef ddefaid, a gwartheg, ac asynnod, a gweision, a morynion, ac asennod, a chamelod. 17 A’r Arglwydd a drawodd Pharo a’i dŷ â phlâu mawrion, o achos Sarai gwraig Abram. 18 A Pharo a alwodd Abram, ac a ddywedodd, Paham y gwnaethost hyn i mi? Paham na fynegaist i mi mai dy wraig oedd hi? 19 Paham y dywedaist, Fy chwaer yw hi? fel y cymerwn hi yn wraig i mi: ond yr awr hon wele dy wraig, cymer hi, a dos ymaith. 20 A Pharo a roddes orchymyn i’w ddynion o’i blegid ef: a hwy a’i gollyngasant ef ymaith, a’i wraig, a’r hyn oll oedd eiddo ef.

Hebreaid 5:1-6

Canys pob archoffeiriad wedi ei gymryd o blith dynion, a osodir dros ddynion yn y pethau sydd tuag at Dduw, fel yr offrymo roddion ac aberthau dros bechodau: Yr hwn a ddichon dosturio wrth y rhai sydd mewn anwybodaeth ac amryfusedd; am ei fod yntau hefyd wedi ei amgylchu â gwendid. Ac o achos hyn y dylai, megis dros y bobl, felly hefyd drosto ei hun, offrymu dros bechodau. Ac nid yw neb yn cymryd yr anrhydedd hwn iddo ei hun, ond yr hwn a alwyd gan Dduw, megis Aaron. Felly Crist hefyd nis gogoneddodd ei hun i fod yn Archoffeiriad; ond yr hwn a ddywedodd wrtho, Tydi yw fy Mab; myfi heddiw a’th genhedlais di. Megis y mae yn dywedyd mewn lle arall, Offeiriad wyt ti yn dragywydd yn ôl urdd Melchisedec.

Beibl William Morgan (BWM)

William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.